Ffermwyr Cymru

Part of 2. Cwestiynau i'r Cwnsler Cyffredinol a'r Gweinidog Pontio Ewropeaidd (yn rhinwedd ei gyfrifoldebau fel y Gweinidog Pontio Ewropeaidd) – Senedd Cymru am 2:51 pm ar 11 Tachwedd 2020.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of David Melding David Melding Conservative 2:51, 11 Tachwedd 2020

(Cyfieithwyd)

A ydych yn cytuno â mi ei bod yn hanfodol, er mwyn allforio cig oen gwych o Gymru, fod gennym farchnad ddiogel, ein bod yn gwybod cyn gynted ag sy'n bosibl fod y farchnad honno yno ac fel y dywedoch chi, ei bod yn yr Undeb Ewropeaidd yn bennaf? Ac a ydych yn ofni, fel finnau, os na fyddwn yn sicrhau bod cig oen yn flaenllaw ac yn ganolog mewn cytundeb, bydd marchnadoedd llai effeithlon yn yr Eidal, Ffrainc a Sbaen yn gystadleuwyr difrifol? Hyd yn hyn, mae cig oen Cymru wedi bod yn gystadleuol iawn yn eu herbyn, a gallai'r marchnadoedd lleol hynny'n hawdd ddod yn ôl.