Ffermwyr Cymru

Part of 2. Cwestiynau i'r Cwnsler Cyffredinol a'r Gweinidog Pontio Ewropeaidd (yn rhinwedd ei gyfrifoldebau fel y Gweinidog Pontio Ewropeaidd) – Senedd Cymru am 2:52 pm ar 11 Tachwedd 2020.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Jeremy Miles Jeremy Miles Labour 2:52, 11 Tachwedd 2020

(Cyfieithwyd)

Rwy'n cytuno â phryder David Melding a'i ddadansoddiad. Cig oen Cymru yw un o'n hallforion mawr ac mae'n cael ei allforio i'r Undeb Ewropeaidd oherwydd bod marchnad dda ar ei gyfer yno. Mae'n farchnad agos ac mae ar raddfa sylweddol, felly mae diogelu'r cynnyrch allforio hwnnw'n gwbl hanfodol. Rydym wedi bod yn argymell y math hwnnw o safbwynt—a gwn ei fod yn gwybod hyn—ers amser maith iawn, ac rydym wedi nodi hyn fel un o'r risgiau allweddol. Roeddwn yn wirioneddol siomedig o glywed sylwadau Llywodraeth y DU ynglŷn â'r ffocws y mae ffermwyr Cymru wedi'i roi ar farchnad yr UE. Maent wedi gwneud hynny am resymau economaidd da iawn. Mae'n farchnad fawr ar garreg y drws, felly mae'n gwneud synnwyr perffaith i'w wneud, ac maent wedi gwneud hynny'n eithriadol o lwyddiannus. Os na fydd Llywodraeth y DU yn sicrhau cytundeb sy'n diogelu eu buddiannau, rwy'n cytuno ag ef y bydd eraill yn llenwi'r bwlch yn y farchnad y bydd hynny'n ei greu.