Y Grŵp Cynghori ar Bolisi Masnach

Part of 2. Cwestiynau i'r Cwnsler Cyffredinol a'r Gweinidog Pontio Ewropeaidd (yn rhinwedd ei gyfrifoldebau fel y Gweinidog Pontio Ewropeaidd) – Senedd Cymru am 2:57 pm ar 11 Tachwedd 2020.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Nick Ramsay Nick Ramsay Conservative 2:57, 11 Tachwedd 2020

(Cyfieithwyd)

Diolch am yr ateb hwnnw, Gwnsler Cyffredinol. Ers nifer o flynyddoedd, mae gan Lywodraeth yr Alban fwrdd masnach, a oedd yn un o'r ymrwymiadau yn eu strategaeth masnach a buddsoddi, gyda'r nod o nodi a chefnogi allforion i farchnadoedd newydd, gan ddod ag arbenigedd amrywiol ynghyd i gynghori Llywodraeth yr Alban. Mae'n amlwg fod Llywodraeth yr Alban wedi cymryd camau breision tuag at ddeall ei marchnad allforio. Mae'n teimlo fel pe baem ymhell ar ei hôl hi yn hyn o beth. A allech chi ddweud wrthym pa dystiolaeth y gallwch ei chael o'r Alban a sut y gallwch ddatblygu polisi Cymreig fel bod gennym bolisi masnach yr un mor dda yma yn ogystal â pherthynas â'r sector hwnnw?