Part of 2. Cwestiynau i'r Cwnsler Cyffredinol a'r Gweinidog Pontio Ewropeaidd (yn rhinwedd ei gyfrifoldebau fel y Gweinidog Pontio Ewropeaidd) – Senedd Cymru am 2:58 pm ar 11 Tachwedd 2020.
Wel, nid yw gwaith y grŵp cynghori ar bolisi masnach ond yn un o'r ffyrdd y mae Llywodraeth Cymru yn nodi cyfleoedd i ymgysylltu'n rhyngwladol. Bydd y Prif Weinidog yn gwneud datganiad yn ddiweddarach heddiw mewn perthynas â'r strategaeth ryngwladol yn fwy cyffredinol. Ac fel bydd yr Aelod yn gwybod, rwy'n credu, rydym wedi buddsoddi'n sylweddol i gefnogi allforwyr Cymru i lywio'r newidiadau sydd o'n blaenau o ganlyniad i adael y cyfnod pontio Ewropeaidd, gan gynnwys adnoddau ychwanegol i roi cyngor penodol, pwrpasol iawn i allforwyr ynglŷn â rheoli'r dirwedd newydd honno. A chredaf fod y ffordd ymarferol iawn honno o gefnogi ein busnesau a'n cyflogwyr yn un o'r meysydd allweddol lle gallwn gefnogi'r economi yma yng Nghymru.
Diben y grŵp cynghori ar bolisi masnach yw ein helpu i nodi rhai o'r meysydd allweddol sy'n helpu i lunio ein safbwynt mewn perthynas â'r cytundebau masnach hynny. Ond rhaid inni ddeall y marchnadoedd sydd ar gael i'n hallforwyr fel rhan o ystod eang o ymyriadau, yn cynnwys presenoldeb dramor, ac mae'n ymddangos i mi y daw hynny'n gynyddol bwysig yn y blynyddoedd i ddod.