Brexit heb Gytundeb

Part of 2. Cwestiynau i'r Cwnsler Cyffredinol a'r Gweinidog Pontio Ewropeaidd (yn rhinwedd ei gyfrifoldebau fel y Gweinidog Pontio Ewropeaidd) – Senedd Cymru am 2:32 pm ar 11 Tachwedd 2020.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Rhianon Passmore Rhianon Passmore Labour 2:32, 11 Tachwedd 2020

(Cyfieithwyd)

Diolch. Mae'r risg y bydd y DU yn gadael y cyfnod pontio heb gytundeb, a'r effaith y bydd hynny'n ei chael ar ein perthynas â'r UE yn y dyfodol, yn real iawn, fel y cydnabuwyd. Mae'r holl dystiolaeth gredadwy yn awgrymu y bydd canlyniadau economaidd andwyol sylweddol yn sgil unrhyw newid sydyn a llym o'r fath i'n perthynas fasnachu o fewn yr UE. Felly, Weinidog, pa asesiad y mae Llywodraeth Cymru wedi'i wneud o'r effaith niweidiol bosibl y gallai hyn ei chael ar gyflogaeth yn Islwyn, a pha fesurau lliniaru sydd ar gael i wrthdroi hyn, o gofio'r niwed y gallai cynigion presennol y Bil marchnad fewnol ei wneud i reolaeth Cymru dros wariant Cymru?