Brexit heb Gytundeb

Part of 2. Cwestiynau i'r Cwnsler Cyffredinol a'r Gweinidog Pontio Ewropeaidd (yn rhinwedd ei gyfrifoldebau fel y Gweinidog Pontio Ewropeaidd) – Senedd Cymru am 2:33 pm ar 11 Tachwedd 2020.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Jeremy Miles Jeremy Miles Labour 2:33, 11 Tachwedd 2020

(Cyfieithwyd)

Cytunaf â'r Aelod fod yr holl dystiolaeth gredadwy yn dangos y bydd canlyniad 'heb gytundeb' yn cael effaith andwyol iawn ar yr economi, ac y gallai hynny, dros y tymor hir—10 i 15 mlynedd, efallai—arwain at incymau oddeutu 10 y cant yn is na'r hyn y byddent wedi bod fel arall. A gyda llaw, mae dadansoddiad Llywodraeth y DU ei hun yn gyson â'r darlun hwnnw ar y cyfan. Byddai gadael y cyfnod pontio heb gytundeb yn effeithio'n sylweddol iawn ar sectorau mawr. A byddai hynny'n digwydd, ac nid oes angen i mi ei hatgoffa o hyn, ar adeg pan fo'r economi eisoes yn dioddef effaith pandemig COVID. Felly, yn yr ystyr honno, ni allai dewis gadael ar y sail honno ddigwydd ar adeg waeth.

Fe fydd hi'n ymwybodol o'r ymyriadau economaidd y mae Llywodraeth Cymru eisoes wedi'u gwneud, naill ai drwy'r gronfa bontio'r UE neu'n fwy diweddar, drwy gamau diweddarach y gronfa cadernid economaidd, a gynlluniwyd i helpu busnesau i fod yn fwy gwydn, ac i fod yn fwy gwydn fel cyflogwyr, yn y dyfodol. Ac mae ystod eang o gymorth busnes ar gael ar wefannau Llywodraeth Cymru, gyda'r nod o gynorthwyo cyflogwyr i gynnal eu sefyllfa. Ac yn wir, bydd nifer o'r ymyriadau sydd wedi'u cyflwyno yng nghyd-destun COVID, mewn perthynas â chyflogadwyedd a chymorth swyddi yn arbennig, o fudd i'w hetholwyr yng nghyd-destun gadael y cyfnod pontio heb gytundeb hefyd wrth gwrs.