Part of the debate – Senedd Cymru am 3:48 pm ar 11 Tachwedd 2020.
Lywydd, diolch i Mick Antoniw am bob un o'r pwyntiau diddorol a phwysig hynny. Credaf fod rhaglen Cymru o Blaid Affrica yn un o lwyddiannau di-glod hanes datganoli. Pan oeddwn yn Weinidog iechyd, cefais gyfres o gyfleoedd i gyfarfod â phobl: pobl a ddoi o Affrica i Gymru i gymryd rhan mewn digwyddiadau neu i gael eu hyfforddi mewn sgiliau penodol y gallent eu defnyddio wedyn yn yr arena iechyd, a hefyd i gyfarfod â'r bobl wych hynny, y grwpiau gwirfoddol hynny ym mhob rhan o Gymru a'r aelodau o'n gwasanaeth iechyd, sy'n rhoi eu hamser yn ystod eu gwyliau. Maent yn gweithio drwy'r flwyddyn yng ngwasanaeth iechyd Cymru ac maent yn defnyddio'r ychydig wythnosau o wyliau sydd ganddynt i fynd i Affrica ac i fynd â’u sgiliau ac i hyfforddi pobl eraill yno. Dyma rai o'r pethau gorau rydym yn eu gwneud, ac mae'r holl ymdrech wirfoddol honno drwy PONT a sefydliadau yn etholaethau'r holl Aelodau, rwy'n siŵr, yn enghraifft mor dda o’r ysbryd hael a welwn yma yng Nghymru.
Mae Mick Antoniw yn gwneud pwynt pwysig iawn, Lywydd, am y ffordd y mae'r pedair blynedd diwethaf wedi datgelu bregusrwydd rhai sefydliadau rhyngwladol allweddol roedd llawer ohonom wedi'u cymryd yn ganiataol, boed yn NATO neu'n Sefydliad Iechyd y Byd, neu gytgord hinsawdd Paris. A gadewch inni obeithio y gallwn edrych ymlaen at rywbeth llawer gwell na hynny yn y pedair blynedd i ddod.
Efallai fod Cymru yn gadael yr Undeb Ewropeaidd, ond nid ydym yn gadael Ewrop, ac mae'r holl bethau a ddywedodd Mick Antoniw yn parhau i fod yn bwysig iawn i bobl yma yng Nghymru. Lywydd, ni soniais yn fy natganiad, ond gallwn fod wedi gwneud, am yr holl waith rhyngwladol a wneir ar ochr seneddol y Senedd, a phwysigrwydd hynny—ym Mhwyllgor y Rhanbarthau, drwy'r gymdeithas seneddol ac yn y blaen, fel y soniodd Mick. Bydd Swyddfa Cymru yn parhau i fod ar agor ym Mrwsel. Bydd yn parhau i fod yn ganolbwynt hanfodol i'n sefydliadau addysg uwch pan fyddant yn cymryd rhan mewn ymchwil gydweithredol â sefydliadau eraill yn Ewrop. Bydd yn lle y gall pobl fusnes fynd. Siaradais yno mewn cynhadledd i fusnesau seiberddiogelwch ychydig cyn i argyfwng y coronafeirws daro. Bydd yn parhau i fod yn fan lle gall y cawcws newydd rydym yn ei ddatblygu o seneddwyr yn Senedd Ewrop i ddangos diddordeb yng Nghymru gyfarfod a rhyngweithio â ni.
Yn yr Unol Daleithiau, mae'r cawcws yn Nhŷ'r Cynrychiolwyr, y cawcws Cymreig, yn cael ei roi at ei gilydd o’r newydd unwaith eto, gan fod yr etholiadau newydd eu cynnal. Rydym yn ffodus iawn i gael cefnogaeth gref nifer o gyngreswyr. Ac fe chwaraeodd fy rhagflaenydd, Carwyn Jones, ran weithgar iawn fel y gwyddoch yn arwain dirprwyaethau i’r Unol Daleithiau, yn enwedig o gwmpas Dydd Gŵyl Dewi, gan fanteisio ar lawer o gyfleoedd i sicrhau bod y Cymry ar wasgar sydd gennym yno eisoes yn cael cefnogaeth lawn y Senedd a Llywodraeth Cymru, a llysgenhadon diwylliannol, fel y dywedodd Mick Antoniw, yn y celfyddydau, ond ym maes chwaraeon hefyd. Am beth y mae Cymru'n adnabyddus ledled y byd? Rydym yn adnabyddus am ein llysgenhadon diwylliannol, boed yn unigolion neu’n sefydliadau fel Band y Cory neu Opera Cenedlaethol Cymru, ond yn y byd chwaraeon hefyd. Dyna'r pethau sy'n tynnu sylw’r byd at Gymru, ac mae ein strategaeth ryngwladol yn ymwneud â sicrhau cymaint o hynny â phosibl er budd Cymru gyfan.
Edrychaf ymlaen yn fawr at fod yn bresennol pan gaiff y plac i'r Capten Dickson ei ddadorchuddio. Mae wedi cymryd gormod o amser i sicrhau bod hynny'n digwydd, ond o’r diwedd, gyda chefnogaeth gref nifer o'r Aelodau o'r Senedd, gan gynnwys Mick Antoniw a minnau, fe welwn ni hynny—cofeb go iawn i rywun a ddangosodd yn eu bywyd eu hunain yr holl rinweddau rydym wedi bod yn sôn amdanynt ac sy'n gwneud Cymru yn rym cadarnhaol er daioni yn yr arena ryngwladol.