Part of the debate – Senedd Cymru am 3:37 pm ar 11 Tachwedd 2020.
Rwyf ar fai am beidio â sôn am yr iaith mewn perthynas â Gwlad y Basg, gan fod rhai o'n cysylltiadau mwyaf hirsefydlog â'r wlad honno yn deillio o'r cymorth a roddodd Cymru i ddatblygiad Gwlad y Basg, ar ôl marwolaeth Franco, ym maes cynllunio ieithyddol. Nawr, mewn rhai ffyrdd, gallech ddadlau eu bod wedi cael mwy o lwyddiant mewn rhai ffyrdd ers adfywiad yr iaith Fasgeg. Ond bûm yn ddigon ffodus i ymweld â Mondrágon pan ddeuthum yn Aelod Cynulliad am y tro cyntaf, a phan oeddwn yn Vitoria, prifddinas Gwlad y Basg, cyfarfûm â grŵp o bobl roeddwn yn eu hadnabod o Gaerdydd, ac roeddent yno’n helpu Llywodraeth Gwlad y Basg gyda chynllunio ieithyddol, gan bwyso ar ein profiad yma yng Nghymru. Felly, dyna gysylltiad pwerus iawn arall rhyngom.
Gofynnodd Dr Lloyd am fusnesau bach a chanolig Cymru a'u rôl yn allforio a brand Cymru-Wales. Mae hwn yn gyfnod anodd iawn, iawn i fusnesau bach a chanolig Cymru. Mae’r coronafeirws wedi effeithio arnynt, ac maent bellach yn wynebu'r rhwystrau newydd enfawr a fydd yn cael eu rhoi yn eu ffordd o ganlyniad i adael yr Undeb Ewropeaidd, yn enwedig os byddwn yn gadael yr Undeb Ewropeaidd ar y telerau gwannaf neu heb delerau o gwbl. Felly, mae'r cymorth y gallwn ei gynnig i'r cwmnïau hynny hyd yn oed yn bwysicach yn y ffordd honno. Ond bydd eu gallu i fasnachu, ac i fasnachu'n rhydd gyda'n marchnad fwyaf ac agosaf, wedi’i beryglu gan yr hyn sydd wedi digwydd, ac ni ellir gwadu hynny. Mae eu gwneud yn rhan o frand Cymru-Wales yn rhan o'n hymdrech i geisio gwneud iawn iddynt am y rhwystrau newydd sy'n cael eu rhoi yn eu ffordd mewn perthynas â'r cysylltiadau masnach hynny.
Diolch i Dr Lloyd am bopeth y tynnodd sylw ato mewn perthynas â'r profiad Cymreig-Americanaidd a'r ffordd rydym yn troi hanes yn gyfle. Rhoddaf un enghraifft nad yw’n cymharu efallai, ond sydd o leiaf yn ategu'r enghraifft a roddodd gyda Frank Lloyd Wright. Bydd llawer o’r Aelodau yma yn y Senedd yn gwybod am yr hyn a ddigwyddodd yn Birmingham yn Alabama yn ôl yn haf 1963, pan arweiniodd Dr Martin Luther King grŵp o blant i barciau cyhoeddus gwahanedig yn y ddinas honno, a sut y cafodd eglwys y Bedyddwyr yn Alabama ei bomio gan ymwahanwyr gwyn, gan ladd pedair merch ddu ifanc a oedd yn mynychu'r ysgol Sul. Cododd yr arlunydd o Gymro, John Petts, arian yma yng Nghymru, apêl a arweiniwyd yn rhannol gan y Western Mail, i greu ffenestr yn yr eglwys honno, ffenestr anhygoel gan bobl Cymru, fel y mae'n dweud ar y ffenestr.
Ymwelodd ein Gweinidog addysg â Birmingham, Alabama ym mis Medi y llynedd. Ymwelodd â'r eglwys. Rhoddodd feibl Cymraeg yn anrheg ar ran pobl Cymru i gyd-fynd â'r ffenestr Gymreig fel y’i gelwir, yn yr eglwys honno. Yn fuan iawn wedi hynny, cafwyd seremoni, seremoni fawr, yn yr eglwys ei hun i fyfyrio ar yr holl hanes hwnnw. Siaradodd arweinydd ein cenhadaeth yn yr Unol Daleithiau o’r platfform y prynhawn hwnnw, a phwy oedd yn rhannu'r platfform ag ef? Wel, y siaradwr arall yn y digwyddiad oedd neb llai na darpar-Arlywydd yr Unol Daleithiau, Joe Biden. A dyna sut, fel y dywedodd Dr Lloyd, y gallwn droi ein hanes yn gyfle. A gwn y bydd hwnnw’n floc adeiladu yn ein gallu i greu perthynas â'r weinyddiaeth newydd yn UDA.
Holodd Dai Lloyd ynghylch contractio'r gwaith ar y Cymry ar wasgar. Wel, wyddoch chi, Dai, daeth y syniad yn rhannol o fod yn nigwyddiad croeso adref Belfast, gan mai dyna sut y maent hwy’n ei wneud. Mae ganddynt gwmnïau yno a chanddynt arbenigedd gwirioneddol mewn adeiladu rhwydweithiau dramor, y modd rydych yn dod o hyd i bobl o dras Gymreig, sut i ennyn eu diddordeb mewn dod yn llysgenhadon dros Gymru mewn rhannau eraill o'r byd. A dyna rydym yn ceisio ei wneud. Rydym yn ceisio defnyddio arbenigedd sydd gan eraill ochr yn ochr â Llywodraeth Cymru, gan ein bod yn dechrau o le gwahanol, onid ydym, i’n cymheiriaid yn yr Alban neu Iwerddon.
Rydym am wneud mwy ym maes datgoedwigo. Rwy'n llwyr gydnabod y pwyntiau a wnaeth Dr Lloyd. Weithiau, mae'n rhaid inni fod yn realistig ynghylch y pwerau sydd gennym yn nwylo Llywodraeth Cymru i gymryd camau a all wneud gwahaniaeth o ran y materion a nodwyd gan Paul Davies ac yntau hefyd y prynhawn yma.
Ac yn olaf, ar y fasnach arfau, fe wnaethom gynnal adolygiad. Bydd ein presenoldeb mewn digwyddiadau o'r fath yn wahanol yn y dyfodol o ganlyniad i hynny. Ond mae'r term 'masnach arfau' weithiau'n cael ei ddefnyddio fel term cyffredinol i ddisgrifio ystod eang o weithgareddau, gyda rhai ohonynt yn chwarae rhan fuddiol yn y byd, drwy gynnig diogelwch i boblogaethau a fyddai fel arall yn agored i niwed gan eraill. Felly, mae pethau y gellir eu gwneud sy'n gadarnhaol ac yn werth chweil, ac mae yna weithwyr yng Nghymru sy'n ennill eu bywoliaeth yn y meysydd hyn. Rwyf am i Lywodraeth Cymru fod wedi’i halinio â'r dibenion cadarnhaol hynny, ac os bydd gennym bresenoldeb mewn ffeiriau masnach yn y dyfodol, bydd hynny er mwyn pwysleisio'r pethau y gellir eu gwneud ac a fyddai'n unol â'n hymagwedd foesegol, ac yn unol â’r ymagwedd a nodwyd gennym yn y cynlluniau gweithredu a gyhoeddwyd heddiw.