Brechlyn COVID-19

Part of 4. Cwestiynau Amserol – Senedd Cymru am 4:08 pm ar 11 Tachwedd 2020.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Vaughan Gething Vaughan Gething Labour 4:08, 11 Tachwedd 2020

(Cyfieithwyd)

Fel arall rownd yw hi fel arfer. Fel y bydd yr Aelod yn gwybod o'r ddau gwestiwn a atebais yr wythnos diwethaf i'w gyd-Aelod Nick Ramsay a'r Aelod dros Islwyn, Rhianon Passmore, mae Llywodraeth Cymru wedi bod yn gweithio'n agos ers misoedd lawer gyda Llywodraeth y DU, gwledydd datganoledig eraill, ac ar sail Cymru gyfan gyda rhanddeiliaid allweddol megis Iechyd Cyhoeddus Cymru, byrddau iechyd, ymddiriedolaethau ac awdurdodau lleol ar ein cynlluniau i ddosbarthu brechlyn yng Nghymru.