Part of the debate – Senedd Cymru am 4:50 pm ar 11 Tachwedd 2020.
Diolch, Ddirprwy Lywydd. A diolch yn fawr iawn i chi, ar ran y Pwyllgor Deisebau, am y cyfle i gynnal dadl ar y ddeiseb hon heddiw. Hoffwn ddiolch yn arbennig i'r Pwyllgor Busnes am gytuno i amserlennu'r ddadl hon ar fyr rybudd.
Cyflwynwyd y ddeiseb hon gan Gareth Howell. Mae'n ymwneud â'r cyfyngiadau a osodir ar y math o nwyddau y gallai siopau eu gwerthu yn ystod y cyfnod atal byr yn ddiweddar. Casglodd y ddeiseb 67,940 o lofnodion, sy'n golygu mai hon yw'r ddeiseb unigol fwyaf a gawsom erioed yma yn y Senedd. Nawr, cyn i mi drafod y ddeiseb ymhellach, hoffwn nodi'n fyr y twf diweddar yn niferoedd a maint y deisebau rydym yn eu cael nawr. Mae'r Pwyllgor Deisebau ar y trywydd i ystyried yr un nifer o ddeisebau newydd yn ystod 2020 ag y gwnaeth yn nhair blynedd a hanner flaenorol y Senedd hon gyda'i gilydd. Yn ystod y misoedd diwethaf, rydym hefyd wedi ystyried llawer o'r deisebau mwyaf a gyflwynwyd ers sefydlu'r broses yn 2007. Yn amlwg, mae amgylchiadau penodol wedi gwneud 2020 yn flwyddyn eithriadol mewn cynifer o ffyrdd. Ar hyn o bryd, mae tua hanner y deisebau rydym yn eu derbyn yn ymwneud yn uniongyrchol neu'n anuniongyrchol â'r pandemig hwn. Fodd bynnag, mae'n amlwg hefyd fod niferoedd cynyddol o bobl yn ymgysylltu â'r Senedd a gwleidyddiaeth ddatganoledig drwy'r broses ddeisebu. Ni all hyn ond bod yn gadarnhaol i'n democratiaeth yn fy marn i.
Mewn perthynas â'r ddeiseb hon, rwy'n ymwybodol fod cwestiynau wedi'u gofyn ynglŷn â ble mae rhai o'r bobl a'i llofnododd yn byw. Felly, ar gyfer y cofnod, mae'n bwysig nodi bod 92 y cant, dros 62,000 o'r llofnodion hyn, wedi dod gan bobl yng Nghymru. Casglwyd y rhan fwyaf o'r llofnodion hefyd dros gyfnod o un penwythnos ar ddechrau'r cyfnod atal byr. Ac wrth gwrs, oherwydd bod hyn yn cyd-daro â thoriad hanner tymor yr hydref, nid yw wedi bod yn bosibl cynnal y ddadl hon yn ystod y cyfnod atal byr o bythefnos. Fodd bynnag, o ystyried cryfder y gefnogaeth i'r ddeiseb a pherthnasedd y pwnc i gyfnodau o gyfyngiadau posibl yn y dyfodol, teimlwn ei fod yn parhau i fod yn bwnc gwerth chweil i'r Senedd ei drafod yn y Cyfarfod Llawn.
Bydd y ddadl ynghylch yr ystod o nwyddau y gellid eu gwerthu yn ystod y cyfnod atal byr yn ddiweddar yn debygol o fod yn gyfarwydd i bawb sy'n gwylio heddiw ac yn wir, i'n Haelodau. Felly, oherwydd amser, gadawaf i siaradwyr eraill amlinellu'r pryderon hynny. Nid wyf ychwaith yn mynd i amlinellu unrhyw sylwadau gan y Pwyllgor Deisebau ar y mater hwn oherwydd, o ganlyniad i'r amserlenni dan sylw, nid yw rhinweddau neu wendidau'r ddeiseb, ac ymagwedd Llywodraeth Cymru, wedi'u trafod eto yn ein cyfarfod pwyllgor arferol. Mae'r pwyllgor wedi cytuno i gyfeirio'r ddeiseb ar gyfer dadl yn y fforwm hwn fel y ffordd fwyaf priodol o wyntyllu'r materion y mae'n eu codi. Fel y nodais yn gynharach, er fy mod yn siŵr mai gobaith pawb yma heddiw yw y byddwn yn gallu rheoli'r feirws ofnadwy hwn heb unrhyw gyfyngiadau pellach, nid oes yr un ohonom yn gwybod yn union beth fydd y dyfodol. Felly, mae angen inni sicrhau bod mesurau sy'n rhaid eu cymryd i gyfyngu ar ledaeniad y feirws yn gymesur a bod pobl Cymru yn ymddiried yn y rhesymeg sy'n sail iddynt ac yn wir, yn eu deall.
Rwy'n siŵr y bydd amrywiaeth o safbwyntiau ar y mesurau penodol a gwmpesir gan y ddeiseb hon yn cael eu clywed yn ystod y ddadl heddiw. Yn wir, dyna union bwrpas y ddadl hon. Dyna hefyd yw diben darparu'r broses ddeisebu a mecanwaith y gall y cyhoedd yng Nghymru ei ddefnyddio i godi materion yma yn ein Senedd. Edrychaf ymlaen, Ddirprwy Lywydd, at wrando ar weddill y cyfraniadau y prynhawn yma. Diolch yn fawr.