– Senedd Cymru am 4:50 pm ar 11 Tachwedd 2020.
Eitem 7 yw dadl ar y ddeiseb P-05-1060, 'Caniatewch i archfarchnadoedd werthu eitemau "nad ydynt yn hanfodol" yn ystod y cyfyngiadau symud'. A galwaf ar Gadeirydd y pwyllgor i wneud y cynnig—Janet Finch-Saunders.
Diolch, Ddirprwy Lywydd. A diolch yn fawr iawn i chi, ar ran y Pwyllgor Deisebau, am y cyfle i gynnal dadl ar y ddeiseb hon heddiw. Hoffwn ddiolch yn arbennig i'r Pwyllgor Busnes am gytuno i amserlennu'r ddadl hon ar fyr rybudd.
Cyflwynwyd y ddeiseb hon gan Gareth Howell. Mae'n ymwneud â'r cyfyngiadau a osodir ar y math o nwyddau y gallai siopau eu gwerthu yn ystod y cyfnod atal byr yn ddiweddar. Casglodd y ddeiseb 67,940 o lofnodion, sy'n golygu mai hon yw'r ddeiseb unigol fwyaf a gawsom erioed yma yn y Senedd. Nawr, cyn i mi drafod y ddeiseb ymhellach, hoffwn nodi'n fyr y twf diweddar yn niferoedd a maint y deisebau rydym yn eu cael nawr. Mae'r Pwyllgor Deisebau ar y trywydd i ystyried yr un nifer o ddeisebau newydd yn ystod 2020 ag y gwnaeth yn nhair blynedd a hanner flaenorol y Senedd hon gyda'i gilydd. Yn ystod y misoedd diwethaf, rydym hefyd wedi ystyried llawer o'r deisebau mwyaf a gyflwynwyd ers sefydlu'r broses yn 2007. Yn amlwg, mae amgylchiadau penodol wedi gwneud 2020 yn flwyddyn eithriadol mewn cynifer o ffyrdd. Ar hyn o bryd, mae tua hanner y deisebau rydym yn eu derbyn yn ymwneud yn uniongyrchol neu'n anuniongyrchol â'r pandemig hwn. Fodd bynnag, mae'n amlwg hefyd fod niferoedd cynyddol o bobl yn ymgysylltu â'r Senedd a gwleidyddiaeth ddatganoledig drwy'r broses ddeisebu. Ni all hyn ond bod yn gadarnhaol i'n democratiaeth yn fy marn i.
Mewn perthynas â'r ddeiseb hon, rwy'n ymwybodol fod cwestiynau wedi'u gofyn ynglŷn â ble mae rhai o'r bobl a'i llofnododd yn byw. Felly, ar gyfer y cofnod, mae'n bwysig nodi bod 92 y cant, dros 62,000 o'r llofnodion hyn, wedi dod gan bobl yng Nghymru. Casglwyd y rhan fwyaf o'r llofnodion hefyd dros gyfnod o un penwythnos ar ddechrau'r cyfnod atal byr. Ac wrth gwrs, oherwydd bod hyn yn cyd-daro â thoriad hanner tymor yr hydref, nid yw wedi bod yn bosibl cynnal y ddadl hon yn ystod y cyfnod atal byr o bythefnos. Fodd bynnag, o ystyried cryfder y gefnogaeth i'r ddeiseb a pherthnasedd y pwnc i gyfnodau o gyfyngiadau posibl yn y dyfodol, teimlwn ei fod yn parhau i fod yn bwnc gwerth chweil i'r Senedd ei drafod yn y Cyfarfod Llawn.
Bydd y ddadl ynghylch yr ystod o nwyddau y gellid eu gwerthu yn ystod y cyfnod atal byr yn ddiweddar yn debygol o fod yn gyfarwydd i bawb sy'n gwylio heddiw ac yn wir, i'n Haelodau. Felly, oherwydd amser, gadawaf i siaradwyr eraill amlinellu'r pryderon hynny. Nid wyf ychwaith yn mynd i amlinellu unrhyw sylwadau gan y Pwyllgor Deisebau ar y mater hwn oherwydd, o ganlyniad i'r amserlenni dan sylw, nid yw rhinweddau neu wendidau'r ddeiseb, ac ymagwedd Llywodraeth Cymru, wedi'u trafod eto yn ein cyfarfod pwyllgor arferol. Mae'r pwyllgor wedi cytuno i gyfeirio'r ddeiseb ar gyfer dadl yn y fforwm hwn fel y ffordd fwyaf priodol o wyntyllu'r materion y mae'n eu codi. Fel y nodais yn gynharach, er fy mod yn siŵr mai gobaith pawb yma heddiw yw y byddwn yn gallu rheoli'r feirws ofnadwy hwn heb unrhyw gyfyngiadau pellach, nid oes yr un ohonom yn gwybod yn union beth fydd y dyfodol. Felly, mae angen inni sicrhau bod mesurau sy'n rhaid eu cymryd i gyfyngu ar ledaeniad y feirws yn gymesur a bod pobl Cymru yn ymddiried yn y rhesymeg sy'n sail iddynt ac yn wir, yn eu deall.
Rwy'n siŵr y bydd amrywiaeth o safbwyntiau ar y mesurau penodol a gwmpesir gan y ddeiseb hon yn cael eu clywed yn ystod y ddadl heddiw. Yn wir, dyna union bwrpas y ddadl hon. Dyna hefyd yw diben darparu'r broses ddeisebu a mecanwaith y gall y cyhoedd yng Nghymru ei ddefnyddio i godi materion yma yn ein Senedd. Edrychaf ymlaen, Ddirprwy Lywydd, at wrando ar weddill y cyfraniadau y prynhawn yma. Diolch yn fawr.
Diolch. Huw Irranca-Davies.
Diolch, Ddirprwy Lywydd. Rydym mewn sefyllfa braidd yn rhyfedd yma heddiw. Rydym yn trafod deiseb, fel y dywedwyd wrthym nawr, a gododd yn bennaf ar un penwythnos ar un agwedd fach ond dadleuol iawn o'r cyfnod atal byr 17 diwrnod a gynlluniwyd i ddiogelu ein GIG ac i achub bywydau, cyfnod y mae'r arwyddion cynnar yn awgrymu ei fod wedi cael effaith lesteiriol ar y cynnydd sydyn mewn achosion o'r coronafeirws. Rydym yn trafod deiseb a oedd yn ymwneud â chyfnod o 17 diwrnod, cyfnod o 17 diwrnod sydd bellach ar ben ac a oedd yn eithaf amlwg yn mynd i fod drosodd erbyn iddi gael ei thrafod. Ond dyma ni. Felly, gadewch i ni ei thrafod, gan ei bod yn codi rhai materion pwysig iawn, a gadewch inni edrych ar hyn yn ei gyd-destun.
Yn fy ardal i, a wasanaethir gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg, rwy'n gwybod, fel y mae fy nghyd-Aelod, llefarydd y Ceidwadwyr ar iechyd, sydd wedi cwyno yn erbyn y mesurau atal byr yn eu cyfanrwydd mewn modd Trumpaidd, ac mae wedi eistedd yn yr un sesiynau briffio yng Nghwm Taf ac wedi gwrando a chlywed, er nad yw erioed wedi herio'r hyn a glywodd gan y rhai ar reng flaen ein gwasanaeth iechyd, yn wythnos olaf y cyfnod atal byr, o'r chwe gwely COVID gofal dwys sydd ar gael yn Ysbyty Frenhinol Morgannwg, fod y chwech mewn defnydd, o'r 10 gwely COVID dwys yn Ysbyty'r Tywysog Siarl, roedd naw mewn defnydd, ac o bedwar yn Ysbyty Tywysoges Cymru, roedd dau mewn defnydd, neu fod 69 o'r 84 o welyau COVID nad ydynt yn welyau dwys yn Ysbyty Brenhinol Morgannwg mewn defnydd, fod 97 o'r 120 yn Ysbyty'r Tywysog Siarl, a 110 o'r 115 yn Ysbyty Tywysoges Cymru mewn defnydd. A dyma'r cyd-destun lle roedd yr ymosodiadau ar y cyfnod atal byr yn digwydd gan y Blaid Geidwadol a chan Blaid Brexit, UKIP ac amrywiol rai eraill, yn ogystal ag ymyriadau enfawr ar-lein o'r tu allan i ffiniau Cymru—heb sôn am y bobl a lofnododd y ddeiseb, yr ymosodiadau o'r tu allan. Mae'n rhyfedd faint o hyn a gafodd ei ysgogi a'i gymell gan gyfryngau gwrth-Lafur Llundain-ganolog. Nid wyf yn cwyno am hynny, dim ond ei nodi fel ffaith. Mae pobl sy'n cwyno am y polisi hwn o'r tu allan i Gymru, yn gwawdio Cymru, yn wir, tra bod Llywodraeth Boris Johnson wedi petruso ac oedi nes cael ei gorfodi yn y diwedd gan wyddoniaeth na ellir dadlau yn ei herbyn i gychwyn ar gyfnod o gyfyngiadau hwyr yn y dydd o bedair wythnos a allai, oherwydd yr oedi a chanlyniad y cynnydd yn yr achosion o COVID yno, fod wedi arwain yn ddiangen at farwolaethau yn Lloegr.
Ar un adeg, disgrifiodd llefarydd iechyd y Ceidwadwyr yng Nghymru, cyn arweinydd y Ceidwadwyr Cymreig, mewn cenllif o eiriau hallt yn erbyn y cyfnod atal byr a gefnogwyd gan gyfrif cyfryngau cymdeithasol y Ceidwadwyr Cymreig, y mesurau fel 'breuddwyd wlyb sosialydd'. Nawr, rwy'n cymryd bod y sylwadau chwerw hyn wedi'u cymeradwyo gan arweinydd y Ceidwadwyr yng Nghymru, Paul Davies. Gofynnaf yn gwrtais i Andrew R.T. Davies a Paul Davies ystyried eu hymagwedd at hyn a'u gwrthwynebiad adeiladol yn gyffredinol yn ystod argyfwng iechyd cyhoeddus cenedlaethol. A yw'r math hwn o iaith ac ymagwedd gan lefarwyr y fainc flaen yn anweddus ac yn ddiurddas? Wyddoch chi, nid oes ots gennyf o gwbl. Mater i'r Aelodau unigol yw hyn. A yw'n ddoeth? Nid os yw'n tanseilio hyder y cyhoedd mewn mesurau sy'n seiliedig ar wyddoniaeth i fynd i'r afael â'r coronafeirws, ac mae'n sicr yn gwneud hynny. A yw'n rhagrithiol? Wel, dim ond os yw'n mynd yn groes i'r union bolisi a gefnogir gan y Ceidwadwyr fel rhan o set o fesurau ledled y DU i achub bywydau. Felly, gan fod Boris Johnson yn hwyr yn y dydd wedi gosod y cyfyngiadau pedair wythnos yn Lloegr, gan gynnwys gwaharddiad ar werthu nwyddau nad ydynt yn hanfodol o siopau y caniateir iddynt aros ar agor, gofynnaf i fainc flaen y Ceidwadwyr a ellir disgrifio eu harweinydd yn y DU a Phrif Weinidog y DU nawr fel rhywun sydd mewn rhyw ffordd yng nghanol 'breuddwyd wlyb sosialydd' yng ngeiriau'r cyn arweinydd Ceidwadol yng Nghymru.
Ond gadewch i mi fod yn glir, fel Aelod ar y meinciau cefn yn y Senedd hon, gwn y bydd gwersi'n cael eu dysgu am eglurder cyfathrebu a gweithrediad manylion y cyfnod atal byr gan Lywodraeth Cymru. Gellid gwerthu dillad plant, gyda llaw, gellid cael gafael ar eitemau brys. Ac edrychaf ymlaen, gyda llaw, at gyfarfodydd yn y dyfodol gyda Chonsortiwm Manwerthu Cymru i archwilio eu dull o ymdrin â hyn a sut y gallent hwy a'u haelodau weithio'n fwy effeithiol gyda'r cyngor meddygol a gwyddonol yn ystod argyfwng iechyd cyhoeddus, gyda chanllawiau a deddfwriaeth wedi'u hanelu at ddiogelu bywydau a rheoli lledaeniad y clefyd.
Ond gadewch i mi gloi, Ddirprwy Lywydd, drwy fyfyrio ar ddigwyddiad coffa diddorol a fynychais y bore yma. Nododd y ficer a arweiniodd y gwasanaeth, er bod ein milwyr yn y rhyfel byd cyntaf wedi wynebu bwledi saethwyr cudd a bomiau morter wrth wasgu at ei gilydd yn y ffosydd, roeddem ni'n wynebu 17 diwrnod heb allu siopa am nwyddau traul nad ydynt yn hanfodol ar adeg o argyfwng iechyd cyhoeddus. Gofynnaf i'r Aelodau ystyried hynny. Diolch.
Rwy'n ddiolchgar am gael cyfrannu'n fyr at hyn heddiw. Nid wyf yn aelod o'r pwyllgor, ond cefais i, fel llawer o Aelodau'r Senedd, lawer o ymholiadau dros y cyfnod atal byr pythefnos o hyd hwnnw, yn sicr yn ystod yr wythnos gyntaf, ynglŷn â gwahardd archfarchnadoedd rhag gwerthu nwyddau nad ydynt yn hanfodol, felly rwy'n siarad o safbwynt hynny. Gallaf ddweud yn bendant, mewn ymateb i Huw Irranca-Davies, nad oeddwn i yn sicr yn Aelod a ddefnyddiodd unrhyw fath o iaith ymfflamychol dros y cyfnod hwnnw, ac yn sicr ni siaradais am safbwynt Llywodraeth y DU ychwaith, yn ystod y cyfnod hwnnw. Fel Aelod o'r Senedd hon, cefais fwy o ymholiadau gan etholwyr am hyn na dim byd arall dros y sawl mis diwethaf, a chredaf fod angen inni gydnabod, ar wahân i wleidyddiaeth hyn, sydd, yn fy marn i, wedi'i daflu o gwmpas o'r ddwy ochr mewn gwirionedd, i ryw raddau—credaf, ar wahân i hynny i gyd, fod yna broblem yma y dylid mynd i'r afael â hi.
Fe fyddaf yn onest—rwy'n credu, ar ddechrau hyn, fod hyn wedi dechrau fel ymgais yn llawn bwriadau da gan Lywodraeth Cymru i gael tegwch ac i sicrhau nad oedd siopau bach yn dioddef o'u cymharu ag archfarchnadoedd. Nawr, p'un a ddigwyddodd hynny'n ymarferol ai peidio, credaf y bydd adolygiad yn datgelu hynny. Rwy'n tybio mai'r hyn a ddigwyddodd mewn gwirionedd oedd mai'r rhai a gafodd fwyaf o fudd o'r broses hon oedd y defnyddwyr ar-lein, Amazons y byd hwn a'u tebyg. Dyna oedd fy mhryder, a dyna'n sicr oedd pryder yr etholwyr a gysylltodd â mi.
Huw Irranca-Davies, rydych chi'n iawn i ddweud, wrth gwrs, mai cyfnod byr oedd hwn, ac rydym yn y sefyllfa ryfedd nawr o'i drafod o gyfeiriad arall, yn y cyfnod a'i dilynodd. Wedi dweud hynny, wrth gwrs, efallai ein bod yn edrych ar gyfnod arall o gyfyngiadau, neu gyfnod atal byr fel rydym yn ei alw yma, yn y flwyddyn newydd; gobeithio na fydd angen hynny, ond efallai y byddwn. Felly, credaf mai'r hyn y mae angen inni ei wneud wrth symud ymlaen yw sicrhau ein hetholwyr fod y camau a gymerwyd yn ystod y cyfnod atal byr hwnnw—ac rwy'n cefnogi llawer ohonynt ac yn credu eu bod yn mynd i'r cyfeiriad iawn—ond i dawelu meddwl ein hetholwyr fod angen y mesurau hyn. Rydym mewn sefyllfa anarferol, mae angen i ni i gyd ddod at ein gilydd a sicrhau ein bod yn ymladd y pandemig, ond rhaid inni hefyd ddod â'r cyhoedd gyda ni. Rwy'n credu bod Llywodraeth y DU hefyd yn wynebu'r heriau hyn ac yn ei chael hi'n anodd dod â'r cyhoedd gyda hwy gyda'r cyfyngiadau y maent yn eu hwynebu, ac yn sicr yn y dyfodol, os cawn gyfyngiadau yma yn y dyfodol, bydd yn anodd i ni dawelu meddwl pobl yn llwyr fod angen y mesurau hyn. Gadewch i bawb ohonom weithio gyda'n gilydd i wneud yn siŵr fod hynny'n digwydd.
Rwy'n falch fod hyn wedi'i drafod heddiw, ac rwyf am weld adolygiad i sicrhau yn y dyfodol—. Mae'r term 'nwyddau nad ydynt yn hanfodol', er enghraifft—credaf na soniwyd am 'nwyddau cyfleus' o gwbl, ac eto mae manwerthwyr yn deall beth a olygir wrth 'nwyddau cyfleus'. Credaf fod hynny ar goll yn gynnar yn y ddadl, felly gadewch i bawb ohonom weithio gyda'n gilydd i ymladd y pandemig hwn.
Dim ond ychydig o sylwadau gen i ar hwn. Mae'n braf, wastad, gweld cymaint o ymgysylltu efo'r Senedd, ac dwi'n llongyfarch y deisebydd yn hynny o beth. O ran y ddeiseb benodol yma, dwi'n meddwl mai'r ffaith bod cymaint o bobl wedi'i llofnodi yn dangos bod hwn wir yn fater roedd yna ddiddordeb gwirioneddol ynddo fo. Mi ddaeth hi yn drafodaeth genedlaethol. Mae hefyd yn brawf, dwi'n meddwl, fod Llywodraeth Cymru wedi methu â gwneud beth oedd ei angen i sicrhau bod (1) y bwriad ei pholisi ei hun yn glir, a bod y cyfathrebu o gwmpas hyn yn effeithiol. Mi ddywedais i hynny droeon ar ddechrau'r cyfnod clo—fy mod i'n gallu gweld beth oedd y Llywodraeth yn trio ei wneud o ran y polisi ar nwyddau allweddol yn unig, a fy mod i'n deall pam fod y Ceidwadwyr wedi mynd ar ôl yr agenda o geisio gwarchod masnachwyr llai, ond mi oeddwn i'n meddwl bod yna rywbeth wedi mynd o'i le o ddifrif yn y ffordd y cafodd hyn ei wneud. Mi wnaeth y Llywodraeth ymateb wedyn efo rhywfaint rhagor o eglurder. Rydym ni'n gweld y broblem yng ngeiriau'r ddeiseb:
'nid ydym yn cytuno y dylai rhieni gael eu gwahardd rhag prynu dillad ar gyfer eu plant yn ystod y cyfyngiadau symud wrth siopa.'
Beth ddywedodd Gweinidogion wedyn oedd, 'Gwrandewch, os oes rhywun wir angen rhywbeth, wrth gwrs y gallan nhw brynu dillad i'w plant.' Mi oedd angen y math yna o neges cyn hyn, ac eglurder hefyd ar sut y byddai hynny'n digwydd, yn hytrach na roi pwysau ar weithwyr siopau. Felly, mae yna wersi, dwi'n gobeithio, sydd wedi cael eu dysgu o hyn. Ond mae'n rhaid dweud hyn hefyd: mi oedd agwedd y Ceidwadwyr yn gwbl, gwbl haerllug trwy'r cyfan.
Credaf fod y Ceidwadwyr newydd anghofio, fel y gwnânt mor aml, fod ymdrin â'r pandemig hwn yn fater go ddifrifol mewn gwirionedd. Rwyf wedi bod yn feirniadol o'r Llywodraeth—yn feirniadol iawn o'r Llywodraeth ar adegau— yn ystod y pandemig hwn. Rwyf wedi ceisio gwneud hynny mewn ffordd eithaf adeiladol. Mae edrych ar ffrwd Twitter Andrew R.T. Davies, yn sôn am y 'barmy ban', 'the ludicrous, insane lockdown', 'lockdown madness', ac yn cyfeirio at 'trolley cops', y newyddion ffug hwnnw am werthu cynhyrchion mislif—mae arnaf ofn nad oes dim o hynny wedi dyddio'n dda i'r Ceidwadwyr Cymreig, o ystyried y rheolau bron yn union yr un fath i archfarchnadoedd a'r cyfnod o gyfyngiadau ddwywaith mor hir a gyflwynwyd gan y Ceidwadwyr eu hunain yn Lloegr ychydig ddyddiau'n ddiweddarach. Nawr, gwn eich bod yn cael eich ysbrydoli gan Donald Trump, y collwr mwyaf enwog yn y byd, ac yn ceisio ei efelychu mewn unrhyw ffordd y gallwch, ond nid yw'n edrych yn dda i gael eich gweld yn codi bwganod am resymau poblyddol mor amlwg asgell dde ar adeg o argyfwng cenedlaethol.
Dim ond ychydig o bethau sydd gennyf i'w dweud yn y ddadl hon. Yn gyntaf, credaf ei bod yn bwysig i'r Llywodraeth gydnabod yr anawsterau y mae ei pholisïau'n eu creu weithiau. Cyfarfûm â nifer o bobl nad oeddent yn deall ac nad oeddent yn barod ar gyfer realiti'r polisi a gyhoeddwyd wythnos ynghynt ac nad oeddent yn barod, yn y negeseuon roeddent wedi'u cael gan y Llywodraeth, i ddeall beth oedd hyn yn ei olygu iddynt hwy a'r hyn a olygai i'w cymuned.
Nawr, gwyddom fod y polisi ei hun mewn gwirionedd yn boblogaidd iawn. Mae arolygon barn wedi dweud wrthym fod polisi'r cyfnod atal byr a'r dull polisi, y fframwaith polisi a gymerwyd gan Lywodraeth Cymru, yn boblogaidd iawn, ond rwy'n credu bod teimlad nad oedd pobl yn deall y rhesymeg dros yr elfen benodol hon ohono. Ni chafodd ei egluro'n ddigon da gan y Llywodraeth, ac felly nid oedd y bobl yn deall pam oedd hyn yn digwydd yn eu harchfarchnad leol a sut oedd hynny wedyn yn effeithio ar y neges iechyd y cyhoedd ehangach. Felly, credaf fod materion yn codi yn hynny o beth y mae angen i'r Llywodraeth ddysgu ohonynt.
Ond rwy'n credu hefyd fod angen inni fod yn glir iawn ynglŷn â hyn hefyd, oherwydd mae gan archfarchnadoedd gyfrifoldeb i chwarae eu rhan yn hyn i gyd. Ers gormod o amser, mae archfarchnadoedd wedi manteisio ar statws sydd bron yn fonopoli yn y farchnad. Mae pob un ohonom yn adnabod ac yn gwybod am gynhyrchwyr a chyflenwyr llai sydd wedi gweld archfarchnadoedd yn camddefnyddio eu statws yn y farchnad. Ac mae honno wedi bod yn thema gyson mewn polisi, a bydd Huw Irranca, fel cyn Weinidog amaeth, yn gwybod sut y mae cynhyrchwyr a chyflenwyr llai wedi cael eu cam-drin gan archfarchnadoedd ers blynyddoedd lawer. A gwyddom hefyd fod archfarchnadoedd mewn rhai ffyrdd wedi ceisio tanseilio'r polisi hwn yn weithredol, yn hytrach na'i gefnogi. A chredaf fod angen inni fod yn glir iawn gydag archfarchnadoedd yno, oherwydd naill ai ni allent reoli rheoliadau newydd, sy'n codi cwestiynau sylweddol am eu systemau rheoli, neu nid oeddent am wneud hynny. Ac rwy'n amau mai'r olaf sy'n wir, ac rwy'n tybio eu bod hwy hefyd—roedd yn fater o roi eu helw o flaen y bobl a'r cwsmeriaid y maent yn eu gwasanaethu. A chredaf fod angen inni fod yn glir iawn am y gweithredoedd hynny gan archfarchnadoedd.
Yn drydydd, ac yn olaf, Ddirprwy Lywydd, rwyf am ategu geiriau Rhun ap Iorwerth a Huw Irranca-Davies. Roedd yn braf gwrando ar Nick Ramsay, a gyfrannodd at y ddadl y prynhawn yma gyda safbwynt deallus a rhesymegol sy'n rhoi'r bobl y mae'n eu cynrychioli yn Sir Fynwy yn gyntaf. Ni chlywsom ddigon o hynny, ac nid ydym wedi clywed digon o hynny. Er bod arweinwyr Ceidwadol yng Nghymru'n bod yn ddifrïol ar gyfryngau cymdeithasol, yn cymell storm ar gyfryngau cymdeithasol, yr hyn roeddent yn ei wneud mewn gwirionedd oedd tanseilio neges iechyd cyhoeddus hollbwysig. Wythnos yn ddiweddarach, chwalodd eu polisi yn Lloegr. Chwalodd yn llwyr, gyda'r gwaradwydd o weld y Prif Weinidog yn cael ei orfodi ar y teledu i gyhoeddi newid polisi, a'r amseriad wedi ei bennu gan Strictly Come Dancing ac nid gan anghenion y bobl y mae i fod i'w cynrychioli—newid cyfeiriad a oedd yn destun cywilydd i Brif Weinidog nad oes ganddo reolaeth ar y sefyllfa.
Ac mae'n bwysig ein bod yn cydnabod beth ddigwyddodd yno, oherwydd cafodd pobl eu camarwain yn fwriadol, a'u gyrru'n fwriadol i gyfeiriad a oedd yn tanseilio iechyd y cyhoedd gan y Ceidwadwyr a'u ffrindiau ar yr asgell dde eithafol y cyfrannodd pob un ohonynt at greu sefyllfa lle nad oedd y bobl rwy'n eu cynrychioli, a'r bobl y mae Nick yn eu cynrychioli ychydig i lawr y ffordd yn Sir Fynwy, yn deall beth oedd y polisi mewn gwirionedd. A sylwaf fod y bobl hynny heddiw'n ddistaw ynglŷn â'r sefyllfa yn Lloegr—dim i'w ddweud. Nid oes gan yr holl grwpiau diddordeb arbennig a ddisgrifiodd Huw Irranca-Davies yn Llundain ddim i'w ddweud nawr am yr hyn sy'n digwydd yn eu harchfarchnadoedd eu hunain—dim i'w ddweud am fethiant polisi yn Lloegr; dim i'w ddweud am eu gallu i yrru'r polisi hwn dros y ffin. Felly, yn bendant mae angen inni sicrhau ein bod i gyd yn gallu dysgu gwersi o hyn, ond rhaid i un ohonynt fod ar gyfer gwleidyddion Ceidwadol, boed yn y Blaid Geidwadol neu gyd-deithwyr ar y dde eithafol—mae'n bryd i chi ddod allan o'r gwter a rhoi pobl yn gyntaf, rhoi iechyd y cyhoedd yn gyntaf, a mantais ddallbleidiol yn ail. Diolch.
A gaf fi alw ar Lesley Griffiths, Gweinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig?
Diolch, Ddirprwy Lywydd. Fis diwethaf, gyda'r coronafeirws ar gynnydd ac yn lledaenu'n gyflym ym mhob rhan o Gymru, a chan weithredu ar gyngor clir ein cynghorwyr meddygol a gwyddonol, cyflwynodd Llywodraeth Cymru gyfnod atal byr 17 diwrnod o hyd i helpu i reoli'r coronafeirws, i atal y GIG rhag cael ei lethu ac yn y pen draw, i achub bywydau.
Er mwyn adfer rheolaeth ar y feirws, y consensws oedd mai'r ffordd orau o gyflawni hyn oedd i bobl aros adref gymaint â phosibl. Nod y cyfyngiadau oedd lleihau nifer y bobl a oedd yn mynd allan, faint o deithio diangen a wnaed, a'r amser a dreuliai pobl yn siopa. Roedd angen cau'r holl fannau hamdden a manwerthu nad yw'n hanfodol, ac fe fydd yr Aelodau'n gwybod bod polisïau tebyg wedi'u dilyn mewn rhannau eraill o'r DU a gwledydd eraill, fel rydym newydd glywed mewn sawl cyfraniad. Gan fod Llywodraeth Cymru wedi gweithredu'n gyflym ac yn bendant, rydym wedi gallu cyfyngu'r cyfnod atal byr i 17 diwrnod, sydd gryn dipyn yn fyrrach na chyfnod atal byr ein cymydog.
Caniatawyd i siopau aros ar agor—roedd hynny'n cynnwys archfarchnadoedd a manwerthwyr bwyd eraill, fferyllfeydd, banciau a swyddfeydd post—ac roedd y dull o weithredu'n ei gwneud hi'n ofynnol i fanwerthwyr lluosog mawr roi'r gorau i werthu eitemau nad ydynt yn hanfodol. Roedd y rheoliadau a'r canllawiau'n ei gwneud hi'n bosibl gwerthu eitemau sy'n hanfodol er lles unigolyn neu les person agored i niwed—ac roedd hynny'n cynnwys plant—gan gynnwys eitemau angenrheidiol fel dillad plant.
Mae'n destun gofid fod yna beth dryswch cychwynnol, ac mae'r Aelodau wedi cyfeirio at y ffaith bod angen inni ddysgu gwersi, ac rwy'n cytuno'n llwyr â hynny, a'r adborth rwyf wedi'i gael gan y sector manwerthu oedd ei bod yn bwysig iawn ymgysylltu'n gynharach ynglŷn â'r rheoliadau hyn. Ond mae'n rhaid diogelu iechyd y cyhoedd yn gyflym ar adegau, ac nid oes gennym foethusrwydd amser i wneud hynny bob amser.
Credaf hefyd nad oedd delweddau a ddosbarthwyd ar gyfryngau cymdeithasol wedi helpu pethau gan iddynt achosi gofid pan oedd hi'n ymddangos nad oedd rhai cynhyrchion ar gael. Felly, rwyf am fod yn glir iawn fod llawer o'r problemau hyn wedi digwydd oherwydd ffactorau na ellid eu rheoli. Un ohonynt oedd bod lladrad wedi arwain at gau eil mewn archfarchnad, ac roedd pobl yn symud arwyddion yn y siop gyda bwriad maleisus i achosi dryswch, a chredaf ei bod yn drueni mawr fod lleiafrif difeddwl wedi ceisio difyrru eu hunain drwy achosi braw a gofid i eraill. Ond rwy'n ddiolchgar fod y mwyafrif llethol o'r cyhoedd heb gynhyrfu, roeddent yn deall, ac wedi parhau i ddangos gofal am eraill.
Yn y dyddiau yn union cyn y cyfnod atal byr, a thrwy gydol y cyfnod, ymgysylltodd Llywodraeth Cymru yn helaeth â sefydliadau masnach a chydag ystod eang o fanwerthwyr unigol i esbonio'r rheoliadau a'r camau gweithredu roedd gofyn iddynt eu cymryd. Cyhoeddwyd canllawiau gennym i fanwerthwyr ac atebwyd ymholiadau ganddynt. Galluogodd hyn iddynt fod yn bragmatig wrth reoli eu siopau, ac roeddwn yn falch iawn o allu cytuno ar ddatganiad ar y cyd â hwy a bwysleisiai fater hollbwysig diogelwch staff. Un o nodweddion gwaethaf COVID-19 yn fy marn i yw'r cynnydd mewn ymddygiad gwrthgymdeithasol gan gwsmeriaid manwerthu tuag at ei gilydd ac yn enwedig tuag at staff manwerthu. Rwyf wedi ysgrifennu at y Swyddfa Gartref ar y mater hwn o'r blaen, ac rwyf hefyd wedi ysgrifennu at holl heddluoedd Cymru, i ofyn am eu cefnogaeth gadarn i fanwerthwyr wrth fynd i'r afael â'r broblem hon. Hoffwn gofnodi diolch Llywodraeth Cymru unwaith eto i'r sector manwerthu a'u gweithwyr niferus ledled Cymru am reoli sefyllfa anodd yn dda iawn. Roeddent yn wynebu heriau sylweddol, ac fe wnaethant weithio'n galed i wneud y newidiadau hynny'n gyflym.
Gan fod y cyfnod atal byr bellach ar ben, mae'n bwysig iawn ein bod yn cynnal y cynnydd a wnaethom yn ymladd COVID-19. Anogir y cyhoedd i barhau i osgoi teithio diangen a mannau gorlawn, ac yn y rhan fwyaf o amgylchiadau, y nifer uchaf o bobl sy'n cael ymgynnull yw pedwar. Uchafswm yw hwnnw, nid targed, a pho leiaf y nifer o bobl a ddaw at ei gilydd, y lleiaf yw'r risg wrth gwrs. Drwy gymryd y camau synnwyr cyffredin hyn, gall pawb helpu i gadw Cymru'n ddiogel, diogelu ein GIG, ac wrth gwrs, amddiffyn ein hunain a'n hanwyliaid. Mae'r cyfnod atal byr wedi bod yn brofiad anodd i lawer iawn o bobl, ac mae'n rhaid inni ddysgu gwersi. Rwy'n derbyn hefyd mai'r ddeiseb hon oedd yr un fwyaf a gyflwynwyd erioed, ond rwy'n credu mai'r rheswm am hynny yw mai COVID-19 yw'r her fwyaf rydym wedi'i hwynebu ers blynyddoedd lawer. Diolch.
Diolch. Ni chefais unrhyw arwydd fod Aelodau wedi gofyn am wneud ymyriad, felly galwaf ar Janet Finch-Saunders i ymateb i'r ddadl.
Diolch, Ddirprwy Lywydd, a diolch i'r Gweinidog am ymateb i'r ddadl ac i'r Aelodau am eu cyfraniadau. Yn anffodus, nid yw'r amser sy'n weddill yn caniatáu imi gyfeirio'n ôl at eich cyfraniadau'n unigol, ond wrth gloi'r ddadl heddiw, hoffwn ddiolch unwaith eto i'r deisebydd a'r holl bobl eraill sydd wedi cysylltu â'n pwyllgor ar y mater. Mae'r ddadl hon wedi ei gwneud hi'n bosibl codi materion pwysig a gobeithio y bydd y pwyntiau a godwyd heddiw yn gallu cyfrannu mewn rhyw fodd at wneud penderfyniadau yn y dyfodol. Byddwn yn dychwelyd i ystyried y ddeiseb hon mewn cyfarfod o'n pwyllgor yn y dyfodol, pan fyddwn yn gofyn am sylwadau'r deisebydd ar y pwyntiau a wnaed. Diolch yn fawr iawn.
Diolch. Y cynnig yw nodi'r ddeiseb. A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? Nid wyf yn gweld unrhyw wrthwynebiad, felly nodir y ddeiseb yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.