9. Dadl: Ail Gyllideb Atodol 2020-21

Part of the debate – Senedd Cymru am 6:30 pm ar 17 Tachwedd 2020.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Llyr Gruffydd Llyr Gruffydd Plaid Cymru 6:30, 17 Tachwedd 2020

Diolch yn fawr iawn, Llywydd, a dwi'n falch iawn i gael y cyfle i gyfrannu i'r ddadl yma ar ran y pwyllgor, wrth gwrs. Mi gafodd y pwyllgor gyfarfod ar 2 Tachwedd i drafod ail gyllideb atodol Llywodraeth Cymru ar gyfer 2020-21. Ac, wrth gwrs, un o'r pethau rydym ni yn ei wneud yw cydnabod bod yr ail gyllideb atodol yma yn anarferol, o ran ei hamseriad, ond rydym ni, wrth gwrs, fel mae'r Gweinidog wedi cyfeirio ato ef yn gynharach, yn croesawu'r tryloywder sy'n cael ei roi i ni yn y Senedd drwy gyflwyno'r gyllideb ychwanegol hon.

Mae llawer o'n hargymhellion ni'n ymwneud â mater tryloywder. Mae Llywodraeth y Deyrnas Unedig, wrth gwrs, fel rydym yn gwybod, wedi cynnig gwarant cyllido. Ond dyw hi ddim yn glir, wrth gwrs, pan wneir cyhoeddiadau newydd gan Lywodraeth y Deyrnas Unedig, a fydd y rhain yn arwain at gyllid ychwanegol ar gyfer Cymru. Tra bod problemau tryloywder amlwg, felly, o ran cyllid Llywodraeth y Deyrnas Unedig, rydym ni hefyd wedi galw am ragor o dryloywder gan Lywodraeth Cymru, ac wedi gofyn am ragor o fanylion am ambell beth yn benodol: yn gyntaf, mwy o fanylion am y cyllid ar gyfer digomisiynu Ysbyty Calon y Ddraig; yn ail, rydym wedi gofyn am ddadansoddiadau o'r cyllid sy'n cael ei ddarparu i sefydliadau'r gwasanaeth iechyd gwladol ac sy'n cael ei hawlio gan awdurdodau lleol; rydym ni hefyd wedi gofyn am fanylion ynglŷn â lefel y cyllid y mae darparwyr trafnidiaeth yn ei gyrchu a disgwyliadau o ran rhagor o gyllid ar gyfer y sector; a hefyd, yn bedwerydd, rhagor o fanylion am gronfeydd wrth gefn Llywodraeth Cymru i gefnogi’r adferiad yn sgil COVID, ac, wrth gwrs, diwedd y cyfnod pontio Ewropeaidd.

Nawr, mae'n amlwg mai brwydro yn erbyn COVID yw'r flaenoriaeth gyntaf, ond mae diwedd cyfnod pontio'r Undeb Ewropeaidd, wrth gwrs,  bron â chyrraedd, ac mae'n rhaid i ni ganolbwyntio ar hyn hefyd. Mae angen sicrwydd arnom ni ynglŷn â chyllid ac rydym wedi pwyso ar Lywodraeth Cymru i drio cael manylion am y gronfa ffyniant gyffredin, wrth gwrs, ac i gael y manylion hynny ar frys.

Yn olaf, fe bwysleisiodd y Gweinidog yr angen am hyblygrwydd, o ran diwedd y flwyddyn ariannol, ac rydym yn cefnogi'r cais yma'n llwyr. Gallwn ni ddim rhagweld beth fydd llwybr COVID-19, ac felly byddai cael hyblygrwydd, o ran terfynau benthyca a chronfeydd wrth gefn, yn helpu Llywodraeth Cymru wrth gynllunio. Diolch.