9. Dadl: Ail Gyllideb Atodol 2020-21

Part of the debate – Senedd Cymru am 6:33 pm ar 17 Tachwedd 2020.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Nick Ramsay Nick Ramsay Conservative 6:33, 17 Tachwedd 2020

(Cyfieithwyd)

Diolch, Gweinidog, am eich datganiad. Mae'r ail gyllideb atodol yn dyrannu dros £1.5 biliwn ac yn nodi £1 biliwn o gyllid heb ei ddyrannu, fel y gwelsom ar y Pwyllgor Cyllid. Rydym ni, wrth gwrs, yn croesawu—rwy'n gwybod eich bod chi wedi cydnabod—arian ychwanegol gan Lywodraeth y DU. O gofio eich sylwadau yn y Cyfarfod Llawn ar 6 Hydref, fod ansicrwydd o hyd ynghylch y lefel honno o gyllid, tybed a allwch chi gadarnhau i ni, Gweinidog, pa un a oes mwy o eglurder ynghylch y cyllid hwnnw yn awr, yn enwedig o ran y warant ac yn enwedig o ran dyraniadau ychwanegol ar gyfer y pandemig.

Rydym ni'n croesawu argymhelliad 3 yr adroddiad, sy'n gofyn am ddadansoddiad o'r £1.3 biliwn a ddarparwyd i sefydliadau'r GIG ar gyfer COVID-19 a dadansoddiad o'r pecyn sefydlogi y gwnaethoch chi sôn amdano. Rydych chi wedi dweud o'r blaen, neu efallai mai'r Gweinidog iechyd a ddywedodd, bod dileu dyled byrddau iechyd y GIG yn dibynnu arnyn nhw yn talu eu costau eleni. Rwy'n credu fy mod i'n iawn wrth ddweud hynny. Felly, tybed a allech chi gadarnhau ein bod ar y trywydd iawn, o leiaf eleni, i gadw ein pen uwchlaw'r dŵr.

A gaf i eich holi am warantu cyllid i Gymru? Fe wnaethoch chi ddweud o'r blaen nad oedd yn dryloyw, ond eich bod yn disgwyl rhagor o fanylion gan Lywodraeth y DU a'r Trysorlys. A ydych chi wedi cael unrhyw rai o'r manylion hynny eto? Rwy'n falch bod y Trysorlys bellach yn ceisio helpu i roi ychydig mwy o sicrwydd i chi. Yn sicr, croesawyd hynny a'i gydnabod fel bod yn bwysig gan y Pwyllgor Cyllid, ac roeddwn i yn hoffi, i ddyfynnu eich ymadrodd chi, bod:

y warant yn broblem well na'r un a oedd gennym ni yn flaenorol sy'n ffordd dda o'i gyfleu. Rwy'n gwybod bod y warant yn ateb llawer o gwestiynau, ond, wrth gwrs, mae'n codi cwestiynau hefyd.

Gan droi at y darn mwyaf o'r gyllideb—iechyd—fe wnaeth y gyllideb atodol gyntaf gynyddu'r dyraniadau gan £481.2 miliwn  o'i chymharu â'r gyllideb derfynol. Rwy'n deall bod y gyllideb hon yn cynyddu'r dyraniadau gan £901.5 miliwn. Byddwn i'n ddiolchgar pe gallech chi gadarnhau hyn. Rydych chi'n gweithio gyda'r gwasanaeth iechyd, meddech chi, i ddeall yn well y gofynion ar gyfer cyfarpar diogelu personol. Mae hyn, yn amlwg, oherwydd y pandemig, yn agwedd bwysig iawn ar y gyllideb iechyd ar hyn o bryd. A oes gennych chi unrhyw ffigurau penodol? Rwy'n gwybod eich bod chi'n cysylltu â byrddau iechyd, ond a oes gennych chi unrhyw ffigurau penodol ynglŷn â'r dyraniadau sy'n cael eu darparu ar gyfer cyfarpar diogelu personol ar hyn o bryd?

O ran llywodraeth leol, ar 17 Awst, cyhoeddodd y Gweinidog gyllid ychwanegol o £264 miliwn. Erbyn hyn ceir £306.6 miliwn arall ar gyfer cronfa galedi awdurdodau lleol. Sut ydych chi'n sicrhau bod hwn yn cael ei ddosbarthu yn deg ac y caiff ei wario'n ddoeth gan awdurdodau lleol? Rwy'n credu bod hynny'n beth pwysig i ni ei weld.

Ac yn olaf, Llywydd, gan symud ymlaen at y mater a godwyd yn flaenorol ynghylch hyblygrwydd ariannu, ac mewn ymateb i warant Llywodraeth y DU o £1.2 biliwn. Rwy'n sylweddoli nad yw'r Trysorlys wedi darparu rhywfaint o'r hyblygrwydd cyllidebol yr oedd ei angen arnoch chi, ond rydych chi wedi cael symiau sylweddol o gyllid, ac rwy'n gwybod nad yw eich gofyniad chi yn awr i ddymuno mynd dros gyllid cyfalaf a refeniw mor angenrheidiol oherwydd y cymorth ychwanegol hwnnw a gafwyd gan Lywodraeth y DU. Mae gennych chi hefyd amrywiaeth o arfau cyllidol ar gael i chi, yn fwy nag erioed o'r blaen yng Nghymru. Yn allweddol i hynny mae pwerau codi trethi. Mae hyn yn rhoi rhywfaint o hyblygrwydd i chi. Felly, a ydych chi'n cydnabod, bod pwerau yn dod gydag atebolrwydd a chyfrifoldeb hefyd, ac nad rhywbeth y mae angen i'r Trysorlys ei ddarparu ar ben arall yr M4 yn unig yw hyblygrwydd—mae hefyd yn rhywbeth a ddylai fod wrth wraidd proses Llywodraeth Cymru o bennu cyllidebau? Rydym ni'n byw mewn cyfnod newydd, gyda'r pandemig a chyda mwy o bwerau. Gadewch i ni edrych mwy ar yr hyblygrwydd sydd gennym ni yma yng Nghymru i ymdrin â rhai o'r materion sy'n ein hwynebu ni yn y fan yma. Diolch.