Part of the debate – Senedd Cymru am 7:32 pm ar 17 Tachwedd 2020.
Diolch, Dirprwy Lywydd. Ystyriodd y pwyllgor y memorandwm cydsyniad offeryn statudol ar gyfer Rheoliadau Ymadael â'r Undeb Ewropeaidd (Addasiadau Canlyniadol) (Ymadael â'r UE) 2020 yn ein cyfarfod ar 9 Tachwedd, a gwnaethom ni osod ein hadroddiad gerbron ar 12 Tachwedd. Roeddem ni wedi nodi mai amcan y rheoliadau yw sicrhau bod llyfr statud y DU yn gweithio'n gydlynol ac yn effeithiol, ar ôl diwedd y cyfnod pontio. Nod y rheoliadau, fel y maen nhw wedi'u nodi, yw cyflawni'r amcan hwn drwy ddiwygio Deddf Dehongli 1978 a'r Deddfau dehongli cyfatebol a basiwyd gan y deddfwrfeydd datganoledig, gan gynnwys Deddf Deddfwriaeth (Cymru) 2019, a oedd wedi'u cymeradwyo gan y Senedd y llynedd, o ran dehongli cyfeiriadau at gyfraith cytundebau gwahanu perthnasol.
Mae'r rheoliadau hefyd yn diwygio Deddf yr Undeb Ewropeaidd (Ymadael) 2018, i ddarparu ar gyfer sut y dylai cyfeiriadau presennol at offerynnau'r UE sy'n rhan o gyfraith cytundeb gwahanu perthnasol a chyfeiriadau presennol nad ydyn nhw'n diweddaru’n awtomatig at ddeddfwriaeth uniongyrchol yr UE gael eu darllen ar ôl diwedd y cyfnod pontio. Mae'r rheoliadau hefyd yn gwneud darpariaethau dehongli newydd yn sgil Deddf yr Undeb Ewropeaidd (Cytundeb Ymadael) 2020, er mwyn dileu ansicrwydd ynghylch pa fersiwn o offeryn UE sy'n gymwys. Yn ogystal â hyn, maen nhw'n gwneud diwygiadau canlyniadol i Reoliadau Deddf yr Undeb Ewropeaidd (Ymadael) 2018 (Addasiadau a Diddymiadau a Dirymiadau Canlyniadol) (Ymadael â'r UE) 2019.
Nawr, efallai y bydd yr Aelodau'n sylweddoli bod hyn yn swnio'n dasg gymhleth, ac y mae hi. Ar y pwynt hwn, a chyn cloi, hoffwn i ychwanegu nodyn o rybudd a phryder ynghylch pa mor gymhleth y mae'r rheolau dehongli ar gyfer cyfreithiau Cymru a'r DU wedi dod o ganlyniad i'r rheoliadau hyn, ac o ganlyniad i ymadael â'r UE yn fwy cyffredinol. Nid datganiad gwleidyddol yw hwn, mae'n ffaith o ymadael â'r UE a datgysylltu dros 40 mlynedd o gyfraith.
Mae fy sylwadau olaf yn ymwneud â'r dull y mae Llywodraeth Cymru yn ei ddefnyddio i'r Senedd roi caniatâd i Lywodraeth y DU wneud offeryn statudol sy'n diwygio deddfwriaeth sylfaenol mewn maes datganoledig. Mae hwn yn faes sydd wedi peri pryder i'r pwyllgor droeon erbyn hyn. Ers dros ddwy flynedd, mae ein pwyllgor wedi mynegi pryderon yn gyson gyda Llywodraeth Cymru ynghylch y ffordd y mae'n ymdrin â chynigion cydsyniad offerynnau statudol. Rydym ni'n croesawu penderfyniad Llywodraeth Cymru i gyflwyno cynnig heddiw o ran y rheoliadau perthnasol hyn sy'n cael eu gwneud gan Lywodraeth y DU. Fodd bynnag, mae Llywodraeth Cymru yn dewis pa offerynnau sydd i fod yn destun y broses gydsynio a'r rhai nad ydyn nhw. Mae hyn yn golygu bod Gweinidogion Cymru, mewn llawer o achosion, yn cytuno i Lywodraeth y DU ddiwygio deddfwriaeth sylfaenol mewn meysydd datganoledig ac nad yw'r Senedd yn rhoi caniatâd ar gyfer y penderfyniad hwnnw. Yn y mwyafrif helaeth o achosion, rydym ni'n ein cael ein hunain yn y sefyllfa lle mae Llywodraeth Cymru yn dweud mai'r unig ffordd y mae modd ceisio caniatâd gan y Senedd yw pan fydd Aelod o'r Senedd yn ymyrryd. Rydym ni'n dweud eto, nad yw hyn yn briodol nac o fewn ysbryd Rheol Sefydlog 30A, ym marn y pwyllgor, ac mae'n tynnu'r weithrediaeth i wrthdaro â'r ddeddfwrfa yn ddiangen. Byddwn ni'n ysgrifennu at y Llywydd eto ynghylch y mater hwn i geisio datrys y mater cyfansoddiadol pwysig hwn. Diolch, Dirprwy Lywydd.