– Senedd Cymru am 7:28 pm ar 17 Tachwedd 2020.
Eitem 12 ar yr agenda yw'r Memorandwm Cydsyniad Offeryn Statudol ar Reoliadau Ymadael â’r Undeb Ewropeaidd (Addasiadau Canlyniadol) (Ymadael â'r UE) 2020, a galwaf ar y Cwnsler Cyffredinol a'r Gweinidog Pontio Ewropeaidd i wneud y cynnig. Jeremy Miles.
Diolch, Dirprwy Lywydd. Rwy'n croesawu'r cyfle yma i egluro cefndir y cynnig cydsyniad offeryn statudol sy'n ymwneud â'r Rheoliadau Ymadael â'r Undeb Ewropeaidd (Addasiadau Canlyniadol) (Ymadael â'r UE) 2020. Hoffwn ddiolch hefyd i'r Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a'r Cyfansoddiad am ei waith yn craffu ar y memorandwm cydsyniad offeryn statudol, ac am ei adroddiad a gyhoeddwyd ar 12 Tachwedd.
Mae'r memorandwm a osodwyd gerbron y Senedd ar 2 Tachwedd, ynghyd â'r datganiad ysgrifenedig, yn crynhoi darpariaethau'r rheoliadau ac yn nodi'r newidiadau i ddeddfwriaeth sylfaenol y ceisir cydsyniad ar eu cyfer. Mae hwn yn offeryn statudol technegol iawn, heb unrhyw oblygiadau polisi. Ei ddiben yw sicrhau bod llyfr statud y Deyrnas Gyfunol yn gweithio mewn ffordd gydlynol ac effeithiol ar ôl diwedd y cyfnod pontio. Mae'n egluro sut y dylid dehongli rhai termau, gan gynnwys diffiniadau sy'n gysylltiedig â'r Undeb Ewropeaidd, mewn deddfwriaeth ddomestig ar ôl diwedd eleni.
Mae'r rheoliadau hyn yn cynnwys diwygiadau i ddeddfwriaeth sylfaenol sydd o fewn cymhwysedd deddfwriaethol y Senedd. Maen nhw'n diwygio Deddf Dehongli 1978 a Deddf Deddfwriaeth (Cymru) 2019, o ran dehongli cyfeiriadau at y gyfraith cytundebau gwahanu perthnasol.
Corff newydd o gyfreithiau yw hwn, wedi'i ddiffinio gan adran 7(c) o Ddeddf yr Undeb Ewropeaidd (Ymadael) 2018. Mae'n cynnwys cyfraith ddomestig wedi'i chreu drwy'r cytundeb ymadael â'r UE, cytundeb gwahanu'r AEE EFTA cysylltiedig, a chytundeb hawliau dinasyddion y Swistir, o dan weithrediad domestig y cytundebau hynny. Mae'r diwygiad i'r Ddeddf Dehongli yn nodi sut y dylai cyfeiriadau mewn deddfwriaeth ddomestig at offeryn sy'n cael effaith fel cyfraith cytundeb gwahanu perthnasol gael ei ddehongli. Ar ôl diwedd y cyfnod pontio, mae cyfeiriadau at offerynnau sy'n cael effaith fel cyfraith cytundeb gwahanu perthnasol i'w dehongli fel yr offerynnau hynny sy'n cael eu cymhwyso ac sy'n cael effaith o dan delerau'r cytundeb ymadael neu gytundeb gwahanu'r AEE EFTA, neu gytundeb hawliau dinasyddion y Swistir.
Mae'r rheoliadau hefyd yn gwneud diwygiad cyfatebol i Ddeddf Dehongli a Diwygio Deddfwriaethol (Yr Alban) 2010 a Deddf Dehongli (Gogledd Iwerddon) 1954. Nid oes gan Weinidogion Llywodraethau datganoledig bwerau cyfatebol i Weinidogion y DU i wneud y diwygiadau canlyniadol perthnasol. Gan fod angen gwneud y gwelliannau erbyn diwedd y cyfnod pontio, offeryn statudol y Deyrnas Unedig yw'r unig ffordd realistig o wneud y gwelliant angenrheidiol. Nid oes gwahaniaeth rhwng Llywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU ar y gwelliannau. At hynny, mae gwneud y diwygiadau canlyniadol angenrheidiol mewn un offeryn yn helpu i hyrwyddo hygyrchedd y gyfraith yn ystod y cyfnod hwn o newid sylweddol.
Ar y sail hon mae'r cynnig cydsyniad offeryn statudol yn cael ei osod ger eich bron i'w gymeradwyo, ac rwy'n cynnig y cynnig.
Diolch. A gaf i alw ar Gadeirydd y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a'r Cyfansoddiad, Mick Antoniw?
Diolch, Dirprwy Lywydd. Ystyriodd y pwyllgor y memorandwm cydsyniad offeryn statudol ar gyfer Rheoliadau Ymadael â'r Undeb Ewropeaidd (Addasiadau Canlyniadol) (Ymadael â'r UE) 2020 yn ein cyfarfod ar 9 Tachwedd, a gwnaethom ni osod ein hadroddiad gerbron ar 12 Tachwedd. Roeddem ni wedi nodi mai amcan y rheoliadau yw sicrhau bod llyfr statud y DU yn gweithio'n gydlynol ac yn effeithiol, ar ôl diwedd y cyfnod pontio. Nod y rheoliadau, fel y maen nhw wedi'u nodi, yw cyflawni'r amcan hwn drwy ddiwygio Deddf Dehongli 1978 a'r Deddfau dehongli cyfatebol a basiwyd gan y deddfwrfeydd datganoledig, gan gynnwys Deddf Deddfwriaeth (Cymru) 2019, a oedd wedi'u cymeradwyo gan y Senedd y llynedd, o ran dehongli cyfeiriadau at gyfraith cytundebau gwahanu perthnasol.
Mae'r rheoliadau hefyd yn diwygio Deddf yr Undeb Ewropeaidd (Ymadael) 2018, i ddarparu ar gyfer sut y dylai cyfeiriadau presennol at offerynnau'r UE sy'n rhan o gyfraith cytundeb gwahanu perthnasol a chyfeiriadau presennol nad ydyn nhw'n diweddaru’n awtomatig at ddeddfwriaeth uniongyrchol yr UE gael eu darllen ar ôl diwedd y cyfnod pontio. Mae'r rheoliadau hefyd yn gwneud darpariaethau dehongli newydd yn sgil Deddf yr Undeb Ewropeaidd (Cytundeb Ymadael) 2020, er mwyn dileu ansicrwydd ynghylch pa fersiwn o offeryn UE sy'n gymwys. Yn ogystal â hyn, maen nhw'n gwneud diwygiadau canlyniadol i Reoliadau Deddf yr Undeb Ewropeaidd (Ymadael) 2018 (Addasiadau a Diddymiadau a Dirymiadau Canlyniadol) (Ymadael â'r UE) 2019.
Nawr, efallai y bydd yr Aelodau'n sylweddoli bod hyn yn swnio'n dasg gymhleth, ac y mae hi. Ar y pwynt hwn, a chyn cloi, hoffwn i ychwanegu nodyn o rybudd a phryder ynghylch pa mor gymhleth y mae'r rheolau dehongli ar gyfer cyfreithiau Cymru a'r DU wedi dod o ganlyniad i'r rheoliadau hyn, ac o ganlyniad i ymadael â'r UE yn fwy cyffredinol. Nid datganiad gwleidyddol yw hwn, mae'n ffaith o ymadael â'r UE a datgysylltu dros 40 mlynedd o gyfraith.
Mae fy sylwadau olaf yn ymwneud â'r dull y mae Llywodraeth Cymru yn ei ddefnyddio i'r Senedd roi caniatâd i Lywodraeth y DU wneud offeryn statudol sy'n diwygio deddfwriaeth sylfaenol mewn maes datganoledig. Mae hwn yn faes sydd wedi peri pryder i'r pwyllgor droeon erbyn hyn. Ers dros ddwy flynedd, mae ein pwyllgor wedi mynegi pryderon yn gyson gyda Llywodraeth Cymru ynghylch y ffordd y mae'n ymdrin â chynigion cydsyniad offerynnau statudol. Rydym ni'n croesawu penderfyniad Llywodraeth Cymru i gyflwyno cynnig heddiw o ran y rheoliadau perthnasol hyn sy'n cael eu gwneud gan Lywodraeth y DU. Fodd bynnag, mae Llywodraeth Cymru yn dewis pa offerynnau sydd i fod yn destun y broses gydsynio a'r rhai nad ydyn nhw. Mae hyn yn golygu bod Gweinidogion Cymru, mewn llawer o achosion, yn cytuno i Lywodraeth y DU ddiwygio deddfwriaeth sylfaenol mewn meysydd datganoledig ac nad yw'r Senedd yn rhoi caniatâd ar gyfer y penderfyniad hwnnw. Yn y mwyafrif helaeth o achosion, rydym ni'n ein cael ein hunain yn y sefyllfa lle mae Llywodraeth Cymru yn dweud mai'r unig ffordd y mae modd ceisio caniatâd gan y Senedd yw pan fydd Aelod o'r Senedd yn ymyrryd. Rydym ni'n dweud eto, nad yw hyn yn briodol nac o fewn ysbryd Rheol Sefydlog 30A, ym marn y pwyllgor, ac mae'n tynnu'r weithrediaeth i wrthdaro â'r ddeddfwrfa yn ddiangen. Byddwn ni'n ysgrifennu at y Llywydd eto ynghylch y mater hwn i geisio datrys y mater cyfansoddiadol pwysig hwn. Diolch, Dirprwy Lywydd.
Diolch. Nid oes gennyf i unrhyw siaradwyr ac nid oes gennyf i Aelodau sy'n dymuno ymyrryd. Felly, rwy'n galw ar y Cwnsler Cyffredinol a'r Gweinidog Pontio Ewropeaidd i ymateb i'r ddadl. Jeremy Miles.
Diolch, Dirprwy Lywydd. Diolch i Mick Antoniw am ei gyfraniad ar ran y pwyllgor. Rwy'n ategu'r pwyntiau y mae ef yn eu gwneud ynghylch cymhlethdod cynyddol cyfraith Cymru o ganlyniad i rai o'r gwelliannau hyn, y mae angen eu cyflwyno dim ond er mwyn gwneud i'r llyfr statud weithredu'n effeithiol. A gwn i fod y pwyllgor yn deall bod gwneud y gwelliannau mewn un set o reoliadau yn cyfrannu o leiaf i'r graddau ei bod o fewn ein rheolaeth ni i wneud hynny—er mwyn sicrhau cyn lleied â phosibl o gymhlethdod.
Rwy'n cydnabod y pwynt y mae'n ei wneud ynghylch cyflwyno cyfle i Aelodau drafod cynigion ar gydsyniad. Wrth gwrs, mae'n agored i'r Aelodau gyflwyno'r cynigion hynny yn y ffordd arferol. Byddai'r dewis arall yn lle'r dull yr ydym ni'n ei gynnig yma, wrth gwrs, yn absenoldeb pwerau Gweinidogion i wneud y gwelliannau hyn ein hunain yng Nghymru, yn ymarferol, wedi bod yn ddeddfwriaeth sylfaenol ar fater cymharol gul yma ar gyfer y llyfr statud yng Nghymru. Ond rwy'n cymeradwyo'r cynnig i'r Senedd, Dirprwy Lywydd.
Diolch. Y cwestiwn yw a ddylai'r cynnig gael ei dderbyn. A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? Ni welaf i unrhyw wrthwynebiadau. Felly, derbynnir y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.