Part of the debate – Senedd Cymru am 7:37 pm ar 17 Tachwedd 2020.
Diolch yn fawr, Ddirprwy Lywydd. Byddai etholiad y Senedd yn 2021 wedi bod yn un hanesyddol beth bynnag. Dyma'r etholiad cyntaf i'w gynnal o dan gyfreithiau wedi eu gwneud yma yng Nghymru. Am y tro cyntaf yng Nghymru, bydd gan bobl ifanc 16 a 17 oed a phobl o wledydd tramor yr hawl ddemocrataidd i bleidleisio ar eu dyfodol. Ond erbyn hyn, mae pandemig y coronafeirws wedi creu heriau mawr o safbwynt cynnal diogelwch a chywirdeb yr etholiad, ac i wneud y sefyllfa’n fwy cymhleth, mae Llywodraeth y DU wedi gohirio'r etholiadau ar gyfer comisiynwyr yr heddlu a throseddu, felly byddant yn cael eu cynnal ar yr un diwrnod ag etholiad y Senedd. Hoffwn fanteisio ar y cyfle hwn i ddweud unwaith eto mai bwriad clir y Llywodraeth yw cynnal yr etholiad ar 6 Mai y flwyddyn nesaf. Yn nes ymlaen yn y mis hwn, byddwn yn gosod deddfwriaeth i wneud gwelliannau 'busnes fel arfer' i'r Gorchymyn ymddygiad sy'n nodi'r rheolau ar gyfer yr etholiad.
Yn sgil y pandemig ym mis Mehefin, sefydlwyd y grŵp cynllunio etholiadau i ystyried effaith y coronafeirws ac yn benodol pa newidiadau deddfwriaethol a allai fod angen eu gwneud. Roedd y grŵp yn cynnwys nifer o bartneriaid a chynrychiolwyr pleidiau gwleidyddol. Hoffwn ddiolch i holl aelodau’r grŵp am eu trafodaethau meddylgar ac adeiladol. Rwyf i wedi cael sgyrsiau defnyddiol gydag arweinwyr y pleidiau gwleidyddol ar y grŵp er mwyn trafod rhai o’r materion hyn yn fanylach. Mae Cabinet Llywodraeth Cymru hefyd wedi trafod yr adroddiad. Rwy'n falch bod y grŵp wedi gallu dod i gonsensws ar nifer o faterion pwysig. Roedden nhw'n cytuno â Llywodraeth Cymru mai'r bwriad o hyd ddylai fod cynnal etholiadau'r Senedd ar 6 Mai ac, er mwyn cyflawni hyn, dylid ystyried gwneud y trefniadau etholiadol yn fwy hyblyg a chadarn gan ddilyn cyngor iechyd cyhoeddus ar y ffordd orau o sicrhau diogelwch a lles pawb sy'n cymryd rhan.