Part of the debate – Senedd Cymru am 7:40 pm ar 17 Tachwedd 2020.
Mae Gweinidogion wedi gofyn i'n swyddogion weithio gyda phartneriaid i weithredu'r camau y daeth y grŵp i gonsensws arnynt, sef: annog pleidleiswyr bregus i ystyried gwneud cais am bleidlais bost, annog eraill hefyd i ystyried pleidlais bost, a gwneud cais yn gynnar os oes modd; mwy o hyblygrwydd o ran enwebu ymgeiswyr, pleidleisio drwy'r post a phleidleisio drwy ddirprwy; a sicrhau nad yw rheoliadau'r coronafeirws yn achosi rhwystr i bleidleisio. Rydym hefyd yn parhau i ystyried amseriad yr hysbysiad etholiadol. Awgrymodd y grŵp y gallai gael ei gyflwyno'n gynt o bosib. Fe wnaeth y grŵp ystyried hefyd sut y gallai gorsafoedd pleidleisio a lleoliadau cyfri weithredu'n ddiogel. Bydd Llywodraeth Cymru'n gwneud popeth y gallwn ni i helpu swyddogion canlyniadau i wneud y trefniadau angenrheidiol.
Dirprwy Lywydd, rydym yn canolbwyntio ar alluogi'r etholiad i ddigwydd yn ôl y bwriad, ond byddai'n anghyfrifol i ni beidio â gwneud cynlluniau wrth gefn rhag ofn bydd y pandemig mor ddifrifol ym mis Mai'r flwyddyn nesaf fel nad yw'n ddiogel cynnal yr etholiad. Ddoe, cyflwynodd Llywodraeth yr Alban Fil a fyddai'n galluogi Llywydd Senedd yr Alban i ohirio'r etholiad os bydd angen gwneud hynny oherwydd y coronafeirws. Gallaf gadarnhau ein bod ninnau, hefyd, yn paratoi i ddrafftio Bil i wneud darpariaeth debyg. Bydd hyn yn caniatáu i ni gyflwyno'r ddeddfwriaeth i'r Senedd os yw'r sefyllfa ar ôl y Nadolig yn awgrymu y bydd angen gwneud hyn fel dewis olaf. Rydym ni'n cynllunio i gael y Bil yn barod i'w gyflwyno i'r Llywydd erbyn dechrau mis Ionawr.
Rwy'n sylweddoli y bydd rhoi'r pŵer i'r Llywydd i ohirio'r etholiad am hyd at chwe mis yn gam cyfansoddiadol mawr, felly, pe bai'n angenrheidiol, byddwn yn ystyried mesurau diogelu priodol. Gallai'r rhain gynnwys gofynion ymgynghori i sicrhau bod y Llywydd yn cael y wybodaeth a'r cyngor diweddaraf am iechyd y cyhoedd, a hefyd cadarnhad gan y Senedd drwy bleidlais fwyafrif o ddwy ran o dair cyn i'r pŵer gael ei arfer. Rwy'n rhagweld hefyd, os bydd angen defnyddio'r Bil, y bydd yn berthnasol i etholiad y flwyddyn nesaf yn unig. Rydym ni hefyd yn ystyried beth fyddai mantais cwtogi'r cyfnod diddymu. Bydd hyn yn galluogi'r Senedd i barhau i gyflawni ei rôl hanfodol wrth ymateb i'r pandemig am gyhyd â phosibl. Byddai hefyd yn galluogi'r Llywydd i arfer ei phŵer mor agos â phosibl at yr adeg bleidleisio.
Mae'n rhaid i'r Senedd gwrdd am y tro cyntaf o fewn 14 diwrnod ar ôl yr etholiad, ac fe hoffwn i ddiogelu hynny. Pleidleisiodd yr Aelodau i ymestyn y cyfnod hwn o saith diwrnod yn ddiweddar iawn yn y Ddeddf Senedd ac Etholiadau (Cymru) 2020, a gafodd Gydsyniad Brenhinol ym mis Ionawr. Mae'r cyfnod o 14 diwrnod yn cael ei gyfrif o ddiwrnod y bleidlais, sy'n rhagdybio bod y cyfri yn cael ei gynnal dros nos. Yn ein barn ni, dylid diwygio hyn i gydnabod y gallai cyfri gael ei ohirio oherwydd y gofynion cadw pellter cymdeithasol.
Yn olaf, Ddirprwy Lywydd, hoffwn bwysleisio ein bod yn benderfynol o wneud popeth y gallwn ni i sicrhau bod pobl yn gallu pleidleisio pan fydd yr etholiad yn digwydd. Rwy'n arbennig o bryderus y gallai pobl fod yn awyddus i bleidleisio, ond yn ofni mentro i orsaf bleidleisio ar ddiwrnod yr etholiad. Mae llawer o waith cyfathrebu wedi'i gynllunio i annog pleidleisio drwy'r post ac i bwysleisio y bydd gorsafoedd pleidleisio yn ddiogel.
Yn ogystal, mae'r Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol yn ysgrifennu at swyddogion canlyniadau, y Comisiwn Etholiadol a Chymdeithas y Gweinyddwyr Etholiadol i'w hysbysu ein bod yn ystyried sefydlu canolfannau pleidleisio cynnar. Byddai'r rhain yn cael eu sefydlu mewn adeiladau dinesig i roi cyfle i bobl bleidleisio yn ystod y dyddiau cyn yr etholiad. Byddai hyn yn rhoi mwy o ddewis ac yn lleihau'r siawns o orfod ciwio mewn gorsafoedd pleidleisio. Mae'r dull hwn yn gweithio'n llwyddiannus mewn rhannau eraill o'r byd ac, yn y cyfnod anarferol hwn, rwyf am i Gymru gael yr opsiwn hefyd os bydd hynny'n ymarferol. Rwy'n gwybod y bydd hyn yn rhoi cyfrifoldeb arall ar dimau etholiadau sydd eisoes â llawer i ddelio ag ef, ond rwy'n credu bod yn rhaid inni edrych ar bob opsiwn i alluogi pobl i ddefnyddio'u hawl democrataidd yn wyneb coronafeirws.
Mae llawer o ystyriaethau cyfansoddiadol ac ymarferol yn yr hyn rwyf wedi'i amlinellu ac rwy'n edrych ymlaen at glywed barn yr Aelodau am y materion pwysig hyn. Diolch yn fawr.