Rhaglenni a Ariennir gan yr UE

Part of 1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 1:36 pm ar 17 Tachwedd 2020.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Mark Drakeford Mark Drakeford Labour 1:36, 17 Tachwedd 2020

(Cyfieithwyd)

Diolchaf i Dai Rees am y cwestiwn yna, Llywydd. Nid yw'r addewid na fyddai Cymru yr un geiniog yn waeth ei byd drwy adael yr Undeb Ewropeaidd wedi cael fawr o lwyddiant. Mae Llywodraeth y DU wedi gwrthod negodi cyfranogiad parhaus mewn rhaglenni cydweithredu rhyng-diriogaethol, er enghraifft, gwerth dros €100 miliwn i Gymru. Mae'r Pwyllgor Dethol ar Faterion Cymreig yn disgrifio'r cynnydd ar y gronfa ffyniant gyffredin fel 'dibwys'.