1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru ar 17 Tachwedd 2020.
2. Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i sicrhau cyllid ar gyfer rhaglenni a ariennir ar hyn o bryd gan yr UE drwy gronfeydd strwythurol? OQ55895
Diolchaf i Dai Rees am y cwestiwn yna, Llywydd. Nid yw'r addewid na fyddai Cymru yr un geiniog yn waeth ei byd drwy adael yr Undeb Ewropeaidd wedi cael fawr o lwyddiant. Mae Llywodraeth y DU wedi gwrthod negodi cyfranogiad parhaus mewn rhaglenni cydweithredu rhyng-diriogaethol, er enghraifft, gwerth dros €100 miliwn i Gymru. Mae'r Pwyllgor Dethol ar Faterion Cymreig yn disgrifio'r cynnydd ar y gronfa ffyniant gyffredin fel 'dibwys'.
Diolch am yr ateb yna, Prif Weinidog. Mae llawer o gymunedau ar draws fy etholaeth i wedi elwa ar brosiectau a ariannwyd gan yr Undeb Ewropeaidd drwy gronfeydd strwythurol—boed hynny yn seiliedig ar sgiliau—ni fydden nhw byth wedi gallu eu cael fel arall, ac mae'r cymunedau hyn bellach yn datblygu o ganlyniad i hynny. Nawr, fel y dywedwch, cawsom addewid ar y pryd na fyddai yr un geiniog yn cael ei cholli, ond mae'n ymddangos bod diffyg manylion pendant am y gronfa ffyniant gyffredin o hyd, ac rwy'n clywed mewn gwirionedd ei bod hi'n ddigon posibl y byddan nhw'n dymuno osgoi Llywodraeth Cymru yn y cyllid hwnnw. Nawr, o ystyried y sylwadau a wnaed gan Brif Weinidog y DU neithiwr, a yw'n destun pryder efallai na fydd y gronfa ffyniant gyffredin hon felly yn darparu yr un mathau o raglenni a fyddai'n helpu ein cymunedau, ond a fydd mewn gwirionedd yn cadw'r prosiectau y mae'r Llywodraeth Dorïaidd yn San Steffan eu heisiau a dim byd arall?
Wel, Llywydd, mae hynny'n bryder mawr nid yn unig i Lywodraeth Cymru ond i'r holl bartneriaid sydd gennym ni ledled Cymru ac sydd wedi gweithio gyda ni mor ofalus, dan arweiniad ein cyd-Aelod Huw Irranca-Davies yn aml iawn, i lunio strategaeth economaidd ranbarthol i Gymru a fydd yn defnyddio'r arian newydd y dywedwyd wrthym oedd yn sicr o fod ar gael i ni. Nawr, dyfynnais y Pwyllgor Dethol ar Faterion Cymreig, Llywydd. Rwy'n gwneud hynny oherwydd bod ganddo fwyafrif Ceidwadol a Chadeirydd Ceidwadol, o Gymru, a dyma a ddywedasant am hyn:
Cyhoeddodd Llywodraeth y DU, dywedasant, cyn belled yn ôl â 2017 ei bod yn bwriadu disodli cyllid yr UE gyda Chronfa Ffyniant Gyffredin... ond mae'r manylion yn dal i fod yn brin am agweddau allweddol, gan gynnwys faint y bydd Cymru yn ei gael o dan y trefniadau newydd, sut y bydd yn cael ei gweinyddu ac at bwy y bydd yn cael ei thargedu.
Mae ei haddewidion mynych o ymgynghoriad wedi methu â dod i'r amlwg, mae'r cynnydd wedi bod yn ddibwys, ac mae'n dangos diffyg blaenoriaeth. Wel, nid yw hynny'n ddigon da o gwbl. Mae'r rhain yn faterion pwysig sydd o bwys i bob rhan o Gymru, gan gynnwys, fel y dywedodd Dai Rees, ei etholaeth ef. Mae gan bobl yng Nghymru hawl i wybod bod yr addewid a wnaed iddyn nhw yn mynd i gael ei gadw—dim un geiniog yn llai a dim un grym wedi ei ddwyn. A dyna fyddwn ni'n dwyn Llywodraeth y DU i gyfrif yn ei gylch.
Prif Weinidog, tybed a gaf i eich holi am yr hyn y gellir ei ddysgu o enghraifft yr Alban. Mae cronfeydd yr UE wedi cael eu defnyddio yn y gorffennol i fuddsoddi mewn seilwaith, fel y gwyddom, ac fel y mae Dave Rees newydd gyfeirio ato. A ydych chi'n rhannu fy marn i y gallai ein Comisiwn Seilwaith Cenedlaethol Cymru nid yn unig ddysgu gwersi gwerthfawr o'r profiadau yn yr Alban, lle mae eu comisiwn wedi ymrwymo i edrych tuag allan, i fod yn flaengar ac yn arloesol, ond gallem ninnau ailystyried ein strategaeth yn sylfaenol i ddenu buddsoddiad yng Nghymru, wrth i ni symud allan o'r pandemig a thyfu yn ôl yn wyrddach—sut bynnag yr hoffech chi ei ddisgrifio—gan fod ffyrdd o weithio yn wahanol yn y dyfodol a gwneud y mwyaf o'r arian sydd gennym ni?
Llywydd, rwy'n hapus iawn bob amser i ddysgu o wersi mewn mannau eraill. Rhan o'r fantais enfawr o fod yn aelodau o'r Undeb Ewropeaidd yw ei fod wedi caniatáu i ni ddysgu o brofiad aelod-wladwriaethau eraill yn y ffordd y maen nhw wedi defnyddio cyllid Ewropeaidd, fel y mae hwythau, yn eu tro, wedi dysgu gan Gymru am rai o'r ffyrdd yr ydym ni wedi gwneud pethau yma. A lle ceir enghreifftiau da mewn mannau eraill y tu mewn i'r Deyrnas Unedig, yna mae Llywodraeth Cymru bob amser yn agored i ddysgu o brofiadau a all ein helpu i wneud y mwyaf o'r cyllid sydd gennym ni. Y broblem yw nad ydym ni'n gwybod faint fydd y cyllid ac nad ydym ni'n gwybod sut y mae am gael ei ddefnyddio.
Prif Weinidog, roedd llawer o fusnesau yng Nghymru yn teimlo bod rhaglenni cronfeydd strwythurol yr UE yn y gorffennol yn cael ei dal yn ôl gan lawer gormod o reolau a phrosesau rhy fiwrocrataidd ac, o ganlyniad, bod rhai rhaglenni wedi methu â chyflawni eu nodau datganedig, sef cynyddu ffyniant economaidd Cymru a'n pobl. Felly, Prif Weinidog, pa drafodaethau ydych chi wedi eu cael gyda Llywodraeth y DU ynghylch sicrhau bod rhaglenni cronfeydd strwythurol newydd yn hyblyg ac yn ymatebol i anghenion busnesau Cymru a phoblogaeth Cymru?
Wel, Llywydd, un o'r agweddau trist yw nad ydym ni wedi cael bron unrhyw gyfleoedd o gwbl i gael y sgyrsiau hynny. Ysgrifennodd fy nghyd-Weinidog Jeremy Miles, sy'n arwain ar ran Llywodraeth Cymru ar y materion hyn, at y Gweinidog y dywedir ei fod yn gyfrifol am y gronfa ffyniant gyffredin, yn ôl ym mis Hydref, yn gofyn am gyfarfodydd gyda Gweinidogion Llywodraeth y DU er mwyn gallu cyfrannu rhai o'n syniadau ni a manteisio ar rai o'r agweddau hyblyg a allai fod yno yn y dyfodol. Ni threfnwyd unrhyw gyfarfod.
Rydym ni wedi cael un cyfarfod gydag Ysgrifennydd Gwladol Cymru, sy'n addo cyfarfodydd pellach i ni ar ôl i'r Canghellor wneud ei ddatganiad ar 25 Tachwedd. Ond nid yw hynny'n ddigon da. Rydym ni eisiau cael trafodaethau cyn i'r cyhoeddiad gael ei wneud, nid ar ôl hynny. Os felly, efallai y gallem ni wneud rhai o'r pethau yr oedd Caroline Jones yn cyfeirio atyn nhw, oherwydd rwy'n credu ein bod ni wedi dweud erioed y gallai fod mwy o hyblygrwydd ar ochr arall yr Undeb Ewropeaidd—efallai y gallwn ni ddefnyddio'r arian yn wahanol yn ddaearyddol, efallai y gallwn ni ddefnyddio cyllid arall mewn ffordd na allwch chi yn yr Undeb Ewropeaidd, efallai y gallwn ni ddefnyddio arian at ddibenion nad oedd rheolau'r UE yn caniatáu i ni ddefnyddio'r arian ar eu cyfer yma yng Nghymru. Mae rhai cyfleoedd yn y fan yma. Rydym ni wedi eu nodi gyda'n partneriaid. Hoffem fod wedi cael cyfle i rannu hynny gyda Llywodraeth y DU ac, er i ni ofyn am y cyfleoedd hynny, nid ydyn nhw erioed wedi cael eu cynnig i ni.