Cwestiynau Heb Rybudd gan Arweinwyr y Pleidiau

Part of 1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 1:55 pm ar 17 Tachwedd 2020.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Adam Price Adam Price Plaid Cymru 1:55, 17 Tachwedd 2020

(Cyfieithwyd)

Mae hanes wedi ein haddysgu hefyd, onid ydyw, Prif Weinidog, na allwn ni ddibynnu ar San Steffan i ddatrys problemau economaidd Cymru. Yn wir, i wrthdroi rhesymeg Prif Weinidog y DU, oherwydd bod San Steffan wedi bod mor drychinebus i Gymru y mae'r Senedd hon yn bodoli. Felly, dyma'r amser i ddangos y gwahaniaeth y gall bod â'n Llywodraeth ein hunain ei wneud, trwy gyflwyno gwrthgynnig i ddiogelu swyddi a bywoliaethau ym Mhort Talbot a'r cyffiniau, gan gynnwys diogelu cynhyrchu dur sylfaenol.

Mae'n debyg bod cais yn cael ei wneud i Lywodraeth y DU wladoli'r cwmni yn rhannol. Onid yw'n bwysicach fyth bod Llywodraeth Cymru yn cymryd rhanddaliad mewn cwmni sydd wedi'i leoli yng Nghymru i raddau helaeth iawn o ran ei weithlu, fel bod gan y gweithwyr hynny a'u cymunedau sedd wrth y bwrdd? A allwch chi gadarnhau y byddech chi'n barod i wneud hynny? Ac, a allwch chi gadarnhau eich bod chi hefyd yn datblygu strategaeth amgen lawn ar gyfer Port Talbot, yn seiliedig ar gynnal y gwaith yn ei gyfluniad presennol yn y byrdymor i'r tymor canolig, gan fuddsoddi yn natblygiad cynhyrchu dur sy'n seiliedig ar hydrogen yng Nghymru, a sicrhau bod gwaith Port Talbot yn cael ei drosi i ddefnyddio'r dechnoleg newydd i gynhyrchu dur carbon niwtral erbyn 2035?