1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 1:42 pm ar 17 Tachwedd 2020.
Cwestiynau nawr gan arweinwyr y pleidiau. Arweinydd y Ceidwadwyr, Paul Davies.
Diolch, Llywydd. Prif Weinidog, o ddechrau'r wythnos hon, bydd pobl ar incwm isel yng Nghymru yn gallu hawlio £500 os bydd yn rhaid iddyn nhw aros i ffwrdd o'u gwaith a hunanynysu oherwydd COVID-19. Rwy'n falch o weld y bydd y taliadau hynny bellach yn cael eu hôl-ddyddio i 23 Hydref. Fodd bynnag, mae'n dal yn wir bod awdurdodau lleol yn yr Alban ac yn Lloegr wedi bod yn darparu'r grantiau ers rhai wythnosau ac yn eu hôl-ddyddio i 28 Medi. Nawr, mae'r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol wedi ei gwneud yn eglur bod taliadau Cymru wedi eu hoedi gan fod Llywodraeth Cymru wedi cael her ymarferol wrth roi ein holl systemau ar waith i wneud i hyn weithio.
A allwch chi ddweud wrthym ni beth yw'r heriau ymarferol hynny? Ac a allwch chi ddweud wrthym ni hefyd pam nad yw Llywodraeth Cymru yn ôl-ddyddio'r taliadau i fis Medi, fel mewn rhannau eraill o'r DU, gan fod hyn yn sicr yn golygu y bydd pobl ar incwm isel yng Nghymru o dan anfantais ariannol o'u cymharu â phobl yn Lloegr ac yn yr Alban?
Wel, Llywydd, rydym ni'n ôl-ddyddio i 23 Hydref, oherwydd dyna pryd y cyflwynwyd y cyfnod atal byr yng Nghymru, ac mae hynny yn rhoi rheswm i ni dros wneud hynny. Diben y £500 yw cynorthwyo pobl i hunanynysu. Nid yw o ddim cymorth i bobl wneud hynny os yw'r cyfnod hunanynysu eisoes wedi ei gwblhau wythnosau lawer yn ôl. Mae'r heriau ymarferol mewn llunio system nad yw'n agored i dwyll, oherwydd ni allwn ni fod â system lle mae pobl yn hunan-ddatgan y gofynnwyd iddyn nhw hunanynysu ac yna'n hawlio £500 o arian cyhoeddus. Mae angen i ni fod yn sicr, os bydd pobl yn cael y £500, fel yr ydym ni eisiau iddyn nhw ei gael, oherwydd bod ni eisiau i bobl allu hunanynysu, yna mae angen i ni wybod y gofynnwyd i'r bobl hynny wneud hynny drwy ein system profi, olrhain, diogelu ac, felly, eu bod nhw'n hawlwyr dilys o'r arian cyhoeddus hwn.
Wel, Prif Weinidog, mae'n gwbl hanfodol bod y rhai sydd angen cymorth ychwanegol drwy'r pandemig yn gallu cael gafael arno, boed hynny yn gymorth ariannol i rywun sy'n byw ar incwm isel y mae'n rhaid iddo hunanynysu, yn ganllawiau a chymorth ychwanegol i'r rhai a oedd ar y rhestr amddiffyn yn flaenorol neu'n gymorth iechyd meddwl i'r rhai nad ydyn nhw'n teimlo bod ganddyn nhw hawl iddo. Nawr, Prif Weinidog, rwy'n siŵr y byddwch chi'n rhannu fy mhryderon am y newyddion bod arolwg diweddar gan Mind Cymru wedi canfod bod traean o oedolion a chwarter pobl ifanc wedi methu â chael cymorth gan nad oedden nhw'n credu eu bod nhw'n ei haeddu. Fel y gwyddoch, mae hi mor bwysig bod ymyrraeth yn cael ei darparu cyn gynted â phosibl i atal rhai cyflyrau rhag gwaethygu, a gwella canlyniadau yn sylweddol i gleifion. Rydych chi wedi ad-drefnu eich Cabinet yn ddiweddar, sydd bellach yn cydnabod iechyd meddwl fel maes polisi o bwys, felly, a allwch chi ddweud wrthym ni sut y mae Llywodraeth Cymru yn ymateb i bryderon gan sefydliadau fel Mind Cymru ynghylch sicrhau bod pobl yn cael y cymorth sydd ei angen arnyn nhw, a pha gamau pellach y gall Llywodraeth Cymru eu cymryd i gyfathrebu yn well i bobl pwysigrwydd estyn allan a chael gafael ar gymorth a gwasanaethau iechyd meddwl os ydyn nhw'n ei chael hi'n anodd ymdopi yn ystod y pandemig?
Llywydd, gadewch i mi ddechrau drwy gytuno â Paul Davies bod cael y cymorth sydd ei angen arnoch chi ar gyfer pobl sy'n teimlo pwysau'r misoedd eithriadol hyn yn eu synnwyr o iechyd a llesiant meddwl yn bwysig iawn yn wir. Ac mae rhywbeth i ni i gyd feddwl amdano yn y canlyniad hwnnw nad oedd pobl wedi methu â chael cymorth yn yr ystyr eu bod nhw wedi gofyn amdano ac nad oedd cymorth ar gael; doedden nhw ddim wedi chwilio am gymorth, gan nad oedden nhw rywsut yn teimlo eu bod nhw yn y lle iawn i wneud hynny. Mae hynny'n golygu, rwy'n credu, bod yn rhaid i ni wneud yn siŵr bod gennym ni repertoire o gymorth mor amrywiol ag y gallwn ni ei lunio, oherwydd bydd pobl sydd angen cymorth ar gyfer iechyd meddwl a llesiant meddwl eisiau cael gafael ar y cymorth hwnnw mewn amrywiaeth eang o ffyrdd.
Un o'r ffyrdd yr ydym ni wedi gallu gwneud mwy yw drwy ariannu Mind Cymru ei hun—rwy'n credu mai dyna'r cyhoeddiad diweddaraf ein bod ni wedi gwneud gwerth £10 miliwn o fuddsoddiad ychwanegol mewn gwasanaethau iechyd meddwl yn ystod y pandemig—oherwydd mai ar lefel gymunedol y mae Mind yn gweithredu, nid yw felly yn darparu gwasanaethau i bobl sydd â chyflyrau seicotig acíwt, ond mae'n darparu cymorth i bobl sy'n chwilio am yr ychydig bach o'r cymorth a'r cyngor a'r cyfarwyddyd ychwanegol hynny, pryd y gall gwasanaethau cymunedol fod y rhai mwyaf arwyddocaol. Yn y modd hwnnw, rydym ni'n gwneud ein gorau i geisio sicrhau bod y gwasanaethau hynny ar gael cymaint â phosibl i chwalu rhwystrau y gallai pobl eu teimlo, i wneud yn siŵr eu bod nhw'n cael y cymorth hollbwysig hwnnw.
Gadewch i mi roi dim ond un pwynt i'r Aelod, fodd bynnag, oherwydd mae ef wedi cyfeirio ddwywaith hyd yn hyn at yr angen hollbwysig i bobl gael y cymorth sydd ei angen arnyn nhw: mae'r Llywodraeth hon, gydag eraill, wedi bod yn lobïo Llywodraeth y DU i wneud yn siŵr nad yw 35 y cant o'r holl deuluoedd yng Nghymru o dan oedran pensiwn yn colli dros £1,000 pan fydd y Canghellor yn diddymu'r £20 yr wythnos a ychwanegwyd at gredyd cynhwysol yn ystod y pandemig hwn. Tybed a hoffai ef ychwanegu ei enw i'r penderfyniad hwnnw heddiw, oherwydd mae hwnnw'n gymorth gwirioneddol hanfodol nad yw teuluoedd yng Nghymru bellach yn gwybod a ydyn nhw'n gallu dibynnu arno.
Wel, rwy'n gwybod, Prif Weinidog, eich bod chi eisiau tynnu sylw oddi wrth siarad am eich cyfrifoldebau fel Llywodraeth er mwyn osgoi amlygu eich methiannau—
Rhowch gynnig arni, rhowch gynnig arni.
—eich methiannau o ran y gwasanaeth iechyd, eich methiannau o ran y system addysg—
Gallech chi fod wedi dweud 'hoffwn'; gallech fod wedi dweud 'hoffwn'.
—a'ch methiannau o ran yr economi.
Prif Weinidog, mae ffigurau heddiw yn dangos y cofrestrwyd 23 o farwolaethau mewn cartrefi gofal—bron i dair gwaith y nifer a gofrestrwyd yr wythnos diwethaf, sy'n destun pryder sylweddol—ac eto, nid oes ffigurau ar gael o hyd i gadarnhau faint yn union o gartrefi gofal yng Nghymru y mae COVID-19 yn effeithio arnyn nhw yn uniongyrchol, a faint o drigolion yng Nghymru, fel y gall Llywodraeth Cymru gefnogi lleoliadau gofal yn fwy effeithiol. Nawr, byddwch yn ymwybodol o'r oedi y mae rhai preswylwyr a staff cartrefi gofal wedi ei wynebu o ran cael canlyniadau profion yn ôl yn gyflym a bu pryder hefyd ynghylch y gyfradd uchel o ganlyniadau profion positif ffug sydd hefyd wedi ychwanegu pwysau sylweddol ar y sector, ac rydym ni'n gwybod erbyn hyn bod pobl yn cael eu rhyddhau o ysbytai i gartrefi gofal o fewn diwrnodau o gael prawf COVID positif, y gwn y byddwch chi'n cytuno sy'n annerbyniol. Felly, Prif Weinidog, wrth i'r heriau sy'n wynebu cartrefi gofal ledled Cymru barhau, a allwch chi ddweud wrthym ni faint o breswylwyr a staff cartrefi gofal y mae COVID-19 wedi effeithio arnyn nhw yng Nghymru? A allwch chi ddweud wrthym ni hefyd beth mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i weddnewid yr amser y mae'n ei gymryd i staff a phreswylwyr cartrefi gofal gael canlyniadau eu profion COVID, a sut mae'n mynd i'r afael â phrofion positif ffug? O gofio bod Llywodraeth Cymru wedi comisiynu dadansoddiad pellach o'r ffigurau rhyddhau, a allwch chi ddweud wrthym ni pa ymyraethau pellach sy'n cael eu hystyried i gefnogi preswylwyr a staff cartrefi gofal drwy gydol y pandemig hwn?
Wel, Llywydd, mae'r ail don hon o coronafeirws wedi cael effaith ar gartrefi gofal yma yng Nghymru, er gwaethaf y paratoadau gofalus iawn a wnaed gan y sector yn ystod yr haf a'r buddsoddiad ychwanegol y mae Llywodraeth Cymru wedi ei wneud yn hynny hefyd. Mae hwn yn glefyd marwol a heintus iawn, ac wrth i lefelau coronafeirws yn y gymuned godi, felly hefyd y mae'r bygythiadau i gymunedau caeëdig, fel ysbytai a chartrefi gofal, yn codi hefyd, ac mae'n nifer drist iawn y cyfeiriodd yr Aelod ato ar ddechrau ei gwestiwn.
O ran canlyniadau profion, mae'r oedi cyn cael canlyniadau profion bron yn gyfan gwbl o'r system labordai goleudy, ac nid yw'r rheini yn ein dwylo ni, er bod perfformiad yno wedi gwella yn ystod y tair wythnos diwethaf a disgwyliwn i'r system honno barhau i wella. Pan fydd achos positif yna rydym ni'n defnyddio system Cymru, oherwydd mae honno yn cael canlyniadau pobl yn ôl o fewn 24 neu 48 awr, a byddwn yn parhau i wneud hynny. Nid yw'r broblem canlyniadau positif ffug, mae arnaf i ofn, yn broblem mor sylweddol â hynny ar hyn o bryd. Mae canlyniadau positif ffug yn digwydd pan fydd lefelau isel iawn o coronafeirws. Wrth i lefelau coronafeirws godi, yna nid yw canlyniadau positif ffug yn digwydd yn yr un ffordd. Felly, ar hyn o bryd, nid yw'n broblem sy'n un o'r rhai mwyaf sylweddol sy'n ein hwynebu yn y sector cartrefi gofal. Roedd yn broblem benodol pan roedd lefelau coronafeirws ar eu hisaf ymhlith staff cartrefi gofal, pan nad oedd canlyniadau positif yn rhai dilys yn aml, ond mae arnaf i ofn nad yw honno yr un broblem ag yr oedd hi wrth i'r niferoedd godi.
O ran y pwynt a gododd yr Aelod am bobl yn cael eu rhyddhau o'r ysbyty i gartrefi gofal, mae angen dadansoddi llawer mwy ar y ffigurau hynny i wneud synnwyr priodol ohonyn nhw. Dydyn ni ddim yn gwybod ymhle y cynhaliwyd y profion hynny. Mae'n bosibl eu bod nhw wedi eu cynnal yn y cartref gofal yr oedd y sawl sy'n byw yn y cartref gofal hwnnw yn cael ei ddychwelyd iddo. Mae'n bosibl na ddigwyddodd yn yr ymweliad â'r ysbyty cyn i rywun gael ei ryddhau yn ôl i'r cartref gofal, ond mewn cyfnod blaenorol yn yr ysbyty. Felly, mae pethau pwysig y mae angen i ni eu dysgu ynghylch ble y cynhaliwyd y profion, pryd y cawsant eu cynnal a pha effaith y gallen nhw fod wedi ei chael. Dyna pam yr ydym ni wedi dweud y byddwn ni'n dadansoddi'r ffigurau a gyhoeddwyd ddoe ymhellach, ac rwy'n credu y byddai'n synhwyrol i unrhyw un aros. Mae'r Aelod wedi bod yn frwd iawn am ddata mewn wythnosau blaenorol yn y Siambr hon a chredaf y byddai e'n ddoeth i aros tan y bydd y data ychwanegol hynny gennym ni cyn i ni ddod i unrhyw gasgliadau.
I gloi, Llywydd, drwy fynd yn ôl at y pwynt a wnes i i'r Aelod: gallai fod wedi cynnig 'hoffwn' syml i ni, oni allai? Gallai fod wedi dweud yn syml, yn y gefnogaeth hollbwysig yr oedd yn awyddus i'm holi yn ei gylch yn gynharach, y £1,000 a mwy y mae 35 y cant o deuluoedd yng Nghymru ar fin ei golli, efallai y byddai wedi gallu ychwanegu ei lais at y rhai hynny ohonom ni a hoffai berswadio'r Canghellor i beidio â chaniatáu i hynny ddigwydd.
Arweinydd Plaid Cymru, Adam Price.
Diolch, Llywydd. Prif Weinidog, yn ôl adroddiadau yn y cyfryngau, mae Tata Steel UK yn gofyn ar hyn o bryd am £500 miliwn o gyllid gan Lywodraeth y DU yn rhan o fenter Project Birch er mwyn cynnal ei ddyfodol. Bydd derbyn y cymorth hwn, dywedir, yn ei gwneud yn ofynnol i Tata gau ei ddwy ffwrnais chwyth ym Mhort Talbot a gosod ffwrneisi arc trydan yn hytrach a fydd yn cynhyrchu dur o sgrap yn hytrach na mwyn haearn. Er y bydd hyn yn lleihau allyriadau nwyon tŷ gwydr yng Nghymru, bydd hefyd yn arwain at ddiswyddiadau sylweddol iawn ymhlith gweithwyr y gwaith dur. Os bydd hyn yn digwydd, mae hanes yn dweud wrthym ni mai bach yw'r tebygolrwydd o ailsefydlu pan fydd technoleg lân ar gael, a bydd Cymru wedi colli rhan hanfodol o'i sylfaen ddiwydiannol. A fyddech chi'n cytuno y byddai polisi o leihau nwyon tŷ gwydr y DU, gan eu cynyddu mewn gwledydd eraill drwy fewnforion, ar draul swyddi gweithwyr Cymru, yn ateb byrdymor yn hytrach na strategaeth ddiwydiannol wirioneddol gynaliadwy, ac mai dyma'r gwrthwyneb llwyr i newid cyfiawn i ddyfodol wedi'i ddatgarboneiddio?
Wel, Llywydd, er fy mod i'n hapus i gytuno â'r pwynt olaf a gododd yr Aelod, nid wyf i'n barod i ddilyn y llwybr a ddilynodd i gyflwyno ei ddadl. Mae'n bwysig iawn nad ydym ni'n sôn am gynhyrchu dur ym Mhort Talbot fel y'i gwneir heddiw fel pe byddai eisoes wedi ei golli. Ac mae'r cwmni, rwy'n gwybod, yn awyddus dros ben nad ydym ni'n siarad amdano yn y ffordd honno oherwydd bod ganddo gwsmeriaid y mae'n eu cyflenwi, mae ganddo lyfrau archeb y mae angen iddo eu cyflawni. Felly, rwyf i wedi ymrwymo i wneud popeth y gall Llywodraeth Cymru ei wneud i helpu i greu dyfodol cynaliadwy ar gyfer cynhyrchu dur yn y Deyrnas Unedig ac yma yng Nghymru.
Dim ond trwy drafodaethau priodol rhwng Llywodraeth y DU a'r cwmni y gellir sicrhau hynny. Mae'n destun siom enfawr nad yw hynny wedi digwydd yn briodol eisoes, ac efallai ei fod wedi cyfrannu at y penderfyniadau y mae'r cwmni wedi eu gwneud—y ffaith nad ydyn nhw wedi gallu sicrhau cytundeb drwy Project Birch, er gwaethaf misoedd lawer o geisio perswadio Llywodraeth y DU i wneud hynny. Nid wyf i'n credu bod yr un ohonom ni mewn sefyllfa i wybod beth fydd canlyniad hynny, ac nid wyf i'n credu y dylem ni siarad amdano mewn ffordd sy'n tanseilio gallu presennol y cwmni i barhau i fasnachu, i barhau i ddarparu swyddi ym Mhort Talbot ac i sicrhau dyfodol i'r gymuned honno.
Mae hanes wedi ein haddysgu hefyd, onid ydyw, Prif Weinidog, na allwn ni ddibynnu ar San Steffan i ddatrys problemau economaidd Cymru. Yn wir, i wrthdroi rhesymeg Prif Weinidog y DU, oherwydd bod San Steffan wedi bod mor drychinebus i Gymru y mae'r Senedd hon yn bodoli. Felly, dyma'r amser i ddangos y gwahaniaeth y gall bod â'n Llywodraeth ein hunain ei wneud, trwy gyflwyno gwrthgynnig i ddiogelu swyddi a bywoliaethau ym Mhort Talbot a'r cyffiniau, gan gynnwys diogelu cynhyrchu dur sylfaenol.
Mae'n debyg bod cais yn cael ei wneud i Lywodraeth y DU wladoli'r cwmni yn rhannol. Onid yw'n bwysicach fyth bod Llywodraeth Cymru yn cymryd rhanddaliad mewn cwmni sydd wedi'i leoli yng Nghymru i raddau helaeth iawn o ran ei weithlu, fel bod gan y gweithwyr hynny a'u cymunedau sedd wrth y bwrdd? A allwch chi gadarnhau y byddech chi'n barod i wneud hynny? Ac, a allwch chi gadarnhau eich bod chi hefyd yn datblygu strategaeth amgen lawn ar gyfer Port Talbot, yn seiliedig ar gynnal y gwaith yn ei gyfluniad presennol yn y byrdymor i'r tymor canolig, gan fuddsoddi yn natblygiad cynhyrchu dur sy'n seiliedig ar hydrogen yng Nghymru, a sicrhau bod gwaith Port Talbot yn cael ei drosi i ddefnyddio'r dechnoleg newydd i gynhyrchu dur carbon niwtral erbyn 2035?
Wel, Llywydd, nid oherwydd methiant Llywodraeth Boris Johnson y mae'r Senedd yn bodoli, ond oherwydd llwyddiant Llywodraeth Lafur o ran sicrhau bod datganoli yn digwydd yn y lle cyntaf. Mae datganoli yn ffynnu pan fydd Llywodraeth Lafur i'w gefnogi, ac mae datganoli yn dod o dan y mathau o bwysau y mae'n eu dioddef nawr pan fydd gennym ni Lywodraeth Geidwadol, a lle'r ydych chi'n crafu o dan wyneb y Blaid Geidwadol ac mae ei holl hen elyniaeth i ddatganoli yn codi yn ôl i'r wyneb.
Dyna a ddigwyddodd ddoe, pan oedd Prif Weinidog y DU yn credu y gallai ddangos ei hun o flaen ychydig o ASau Ceidwadol o ogledd Lloegr. Ond, mae'r Senedd gennym ni oherwydd y Blaid Lafur, a bydd y Blaid Lafur hon yn parhau i wneud yn siŵr ein bod ni'n defnyddio'r holl bwerau sydd gennym ni yn y fan yma—yr holl bwerau sydd gennym ni o berswâd a'r pwerau sydd gennym ni i ymyrryd—nid ar hyn o bryd i wneud gwrthgynnig, ond i weithio gyda'r cwmni ar y cynigion y bydd yn dymuno eu cyflwyno.
Mae gennym ni ran i'w chwarae yn hynny, a rhan o'r hyn yr ydym ni'n dod ag ef at y bwrdd oedd y pwyntiau a wnaeth Adam Price tuag at ddiwedd ei ail gwestiwn. Rydym ni eisiau gweld diwydiant dur carbon niwtral yma yng Nghymru. Rydym ni eisiau gweld hynny cyn gynted â phosibl. Dyna pam mae'r sefydliad dur yr ydym ni'n ei greu yn rhan o fargen ddinesig Abertawe mor bwysig i ddyfodol y diwydiant dur yma yng Nghymru. Bydd yn dod â holl rym ymchwil o'r brifysgol yn Abertawe, a holl rym yr awdurdodau lleol, gyda'r budd sydd ganddyn nhw mewn gwneud y gwaith dur yn llwyddiant, i helpu i greu'r math o ddyfodol i'r diwydiant dur yr ydym ni eisiau ei weld.
Byddwn ni'n chwarae ein rhan yn hynny, nid ar hyn o bryd trwy ddatblygu gwrthgynigion, ond trwy geisio gwneud yn siŵr bod y cwmni a Llywodraeth y DU yn gallu dod at ei gilydd, gyda'r cymorth y gallwn ni ei ddarparu, i ddod o hyd i ffordd ymlaen i'r diwydiant hwnnw.
A ydych chi'n cytuno, Prif Weinidog, mai'r unig ddyfodol diogel a chynaliadwy i Bort Talbot a'r gweithfeydd eraill yng Nghymru yn yr hirdymor yw dychwelyd perchnogaeth diwydiant dur Cymru i ddwylo Cymru—i wladoli fel cam cyntaf, ac yna ailgyfalafu gyda'r math o fond gwyrdd a argymhellwyd yn ddiweddar gan y Sefydliad ar gyfer Cydweithrediad a Datblygiad Economaidd yn ei adroddiad i chi, ac yna yn olaf i gydfuddiannoli a chreu cwmni dur cydweithredol yng Nghymru? Mae Dŵr Cymru wedi bod yn llwyddiant er gwaethaf yr amheuon ar y cychwyn, felly pam nid Dur Cymru?
Mae'r cwmni cydweithredol yng Ngwlad y Basg, Mondragon, y mae Llywodraeth Cymru eisoes yn gweithio gydag ef, fel y cadarnhawyd gennych chi yr wythnos diwethaf, wedi nodi ei barodrwydd yn y gorffennol i ddarparu cyngor a chymorth i sefydlu busnes sy'n eiddo i'r gweithwyr ym Mhort Talbot. Beth am dderbyn y cynnig hwnnw? Nid yw gwaith dur integredig sy'n eiddo i'r gweithwyr yn ddigynsail o bell ffordd yn rhyngwladol.
Ar anterth yr argyfwng diwethaf, a oedd bedair blynedd yn unig yn ôl, ariannodd Llywodraeth Cymru y pryniant gan y rheolwyr o Excalibur ym Mhort Talbot gyda £0.75 miliwn. A yw Llywodraeth Cymru yn barod i gyfrannu adnoddau ac egni tebyg, nawr, at y syniad o gwmni dur cydweithredol sy'n eiddo i Gymru?
Yr hyn y byddwn ni'n ei wneud, Llywydd, fel yr wyf i wedi ei ddweud, yw rhoi ein hegni a'n hymrwymiad i'r diwydiant dur yng Nghymru ar gael i'r cwmni a Llywodraeth y DU yn y trafodaethau y mae angen iddyn nhw eu cael. Dyna'r ffordd ymlaen i'r diwydiant hwn ar hyn o bryd. Nawr, ceir llawer o bethau y dywedodd Adam Price yr wyf i fy hun yn cael fy nenu atyn nhw. Cefais y fraint o dreulio wythnos yn Mondragon, tra'n Aelod o'r Senedd hon, a gwelais y gwaith ardderchog sydd wedi cael ei wneud yno. Rwy'n credu i mi ddweud yr wythnos diwethaf, Llywydd, fy mod i wedi derbyn llythyr gan Lywydd Gwlad y Basg y diwrnod hwnnw, yn gwahodd Gweinidogion Cymru i drafodaethau pellach gyda Llywodraeth Gwlad y Basg am ffyrdd cydfuddiannol y gallwn ni ddysgu oddi wrth ein gilydd a helpu ein gilydd. Ond ar bwynt cul yr hyn sydd angen digwydd nesaf o ran y diwydiant dur pwysig iawn a'i effaith ar gymunedau yma yng Nghymru, ni fydd ymdrechion Llywodraeth Cymru yn cael eu gwyro tuag at ddewisiadau amgen ar hyn o bryd. Mae ein hymdrechion yn canolbwyntio ar drafodaethau gyda'r cwmni, perswadio Llywodraeth y DU, eu cael o amgylch y bwrdd yn iawn, gan ddod o hyd i ffordd ymlaen sy'n diogelu'r cymunedau hynny a'r swyddi hynny.