Coronafeirws yn y Rhondda

Part of 1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 2:01 pm ar 17 Tachwedd 2020.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Mark Drakeford Mark Drakeford Labour 2:01, 17 Tachwedd 2020

(Cyfieithwyd)

A gaf i ddiolch i Leanne Wood am y cwestiwn yna, Llywydd? Rydym ni'n gweithio gyda phartneriaid ym meysydd cyflogaeth, iechyd meddwl, anghenion iechyd nad ydynt yn ymwneud â coronafeirws ac i ymladd coronafeirws ei hun, i liniaru'r holl niweidiau iechyd ym mywydau pobl yn y Rhondda. Yn ystod y dyddiau diwethaf, mae cyfraddau mynychder a chanlyniadau positif yn yr ardal wedi gostwng o ganlyniad i ymdrechion cyfunol gwasanaethau lleol a phobl leol.