Part of 1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 2:19 pm ar 17 Tachwedd 2020.
A gaf i ddiolch i'r Prif Weinidog am yr ateb yna? Fel y—mae'n ddrwg gen i, bu'n rhaid i mi besychu yn y fan yna. Rydym ni i gyd yn cofio'r adeg pan mai cyflogaeth oedd y ffordd allan o dlodi, ond rydym ni'n gwybod erbyn hyn bod llawer o deuluoedd â phobl sy'n gweithio—mewn rhai achosion, mae'r ddau riant yn gweithio—sy'n byw mewn tlodi. Gwelwn hefyd y cynnydd o £20 yr wythnos i gredyd treth gwaith yn cael ei derfynu ym mis Ebrill gan Lywodraeth San Steffan. Beth mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i roi terfyn ar gontractau ymelwol sy'n talu llai na'r cyflog byw gwirioneddol naill ai ar gontractau dim oriau neu oriau wedi'u gwarantu isel i'r rhai a ariennir yn uniongyrchol neu'n anuniongyrchol gan drethdalwyr Cymru?