Part of 1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 2:20 pm ar 17 Tachwedd 2020.
Diolchaf i Mike Hedges am hynna, a dychwelodd at y pwynt a wnes i yn gynharach y prynhawn yma, Llywydd, o ran tlodi mewn gwaith, mai credyd cynhwysol oedd yr ateb i dlodi mewn gwaith i fod, ac nid yw wedi digwydd felly, wrth gwrs, oherwydd ni chafodd ei ariannu yn ddigon hael o'r cychwyn i allu gwneud hynny. Mae ganddo gyfradd dreth ymylol o 63 y cant, felly os ydych chi'n deulu tlawd sy'n gweithio ac yn ennill punt ychwanegol, rydych chi'n cael cadw 37 ceiniog ohoni. Nid yw'n llawer o gymhelliant, nac yw, i droedio ymhellach ar hyd y llwybr i fyd gwaith? Ac eleni mae gennym ni'r anhawster ychwanegol o wrthodiad y Canghellor i gadarnhau y bydd yr £20 ychwanegol bob wythnos i gredyd cynhwysol yn cael ei barhau y tu hwnt i ddiwedd y flwyddyn ariannol hon. Fel y dywedais, bydd 35 y cant o aelwydydd nad ydynt yn bensiynwyr yng Nghymru yn colli dros £1,000 y flwyddyn drwy'r newid polisi hwnnw. Rwy'n clywed synau o'r cyrion, fel yr ydych chi, yn y Siambr, Llywydd; byddai'n well eu cyfeirio at gynorthwyo'r teuluoedd hynny nag at wneud y math o sylwadau a glywais i.
Sut yr ydym ni'n gweithredu, gofynnodd Mike Hedges? Wel, rydym ni'n gweithredu ein hunain. Daeth y GIG yng Nghymru yn gyflogwr cyflog byw pan oeddwn i'n Weinidog iechyd, ac mae wedi bod byth ers hynny. Rydym ni'n defnyddio ein contract economaidd i wneud yn siŵr ein bod ni'n hyrwyddo gwaith teg lle bynnag y bydd arian cyhoeddus Llywodraeth Cymru yn cael ei ddarparu. Rydym ni'n gweithredu gydag eraill, Llywydd: bydd cyngor y bartneriaeth gymdeithasol yn lansio'r ymgyrch hawliau yn y gweithle cyn diwedd y mis hwn, a bydd honno yn ffordd arall y gallwn ni weithredu i ymdrin â thlodi mewn gwaith, ac rydym ni'n cefnogi gwaith ymgyrchu pobl eraill.
Cefais y fraint o allu lansio Wythnos Cyflog Byw yma yng Nghymru ddydd Llun yr wythnos diwethaf, ac roedd hi'n galonogol iawn, mewn blwyddyn anodd, clywed bod pob prifysgol yng Nghymru yn gyflogwyr cyflog byw erbyn hyn, bod Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru wedi cael ei hachredu eleni fel cyflogwr cyflog byw, a bod gan gyngor Caerdydd uchelgais i wneud Caerdydd yn ddinas cyflog byw mewn ffordd sy'n ysbrydoliaeth i lawer o ddinasoedd eraill ar draws y Deyrnas Unedig gyfan.