Rhestrau Aros am Lawdriniaeth

Part of 1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 2:23 pm ar 17 Tachwedd 2020.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Helen Mary Jones Helen Mary Jones Plaid Cymru 2:23, 17 Tachwedd 2020

(Cyfieithwyd)

Rwy'n ddiolchgar i'r Prif Weinidog am ei ateb, ac wrth gwrs rwy'n cysylltu fy hun â'r hyn a ddywedodd am yr ymdrechion enfawr y mae staff rheng flaen wedi bod yn eu gwneud mewn ysbytai a lleoliadau cymunedol ar draws ardal Hywel Dda. Ond mae'r angen i adfer triniaethau rheolaidd parhaus yn dod yn fwy a mwy yn fater o frys. Mae un o'm hetholwyr, Colin Jones o Lanelli, wedi disgrifio bod mewn poen ofnadwy ers i'w feddyg teulu ei atgyfeirio ar gyfer clun newydd posibl. Nid yw hyd yn oed wedi bod yn bosibl iddo weld y meddyg ymgynghorol eto i ddarganfod ai dyna'r ffordd gywir ymlaen. Felly, gan ddeall yr anawsterau sy'n bodoli o ran darparu ar gyfer y rheini—wel, nid yw'n teimlo yn 'rheolaidd' i Colin, mae'n debyg, ond ar gyfer y triniaethau hynny ac eithrio COVID—pa waith ychwanegol all Llywodraeth Cymru ei wneud i helpu Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda a byrddau iechyd ledled Cymru i leihau'r rhestrau aros hynny am lawdriniaethau dewisol ymhellach?