2. Datganiad a Chyhoeddiad Busnes

Part of the debate – Senedd Cymru am 2:55 pm ar 17 Tachwedd 2020.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Huw Irranca-Davies Huw Irranca-Davies Labour 2:55, 17 Tachwedd 2020

(Cyfieithwyd)

Gweinidog, a gawn ni ddadl ar y galw ledled Cymru ac, yn wir, ledled y DU, ar Lywodraeth y DU i ddatblygu ymgyrch defnyddio budd-daliadau ar draws y DU i sicrhau bod pawb sydd â hawl i gael cymorth ariannol yn ei gael mewn gwirionedd, yn enwedig wrth i'r dirywiad daro ein teuluoedd incwm isaf a'n cymunedau difreintiedig. Hefyd, a fyddai modd inni wneud y  cynnydd dros dro cyfredol o £20 yr wythnos ar gyfer credyd cynhwysol yn barhaol a'i ymestyn ar draws y budd-daliadau newydd a fydd yn disodli credyd cynhwysol yn y dyfodol agos? Mae'n sicr bod hwn yn rhwymedigaeth foesol, felly gadewch inni ddangos ble mae'r Senedd yn sefyll ar y mater hwn. 

Ac, yn yr un modd, a gawn ni ddadl hefyd ar yr ymgyrch flynyddol ar gyflogau byw gwirioneddol, a ddechreuodd yr wythnos diwethaf, ac ymgyrch Dinasyddion Cymru i dalu'r cyflog byw gwirioneddol i weithwyr gofal? Eto, byddai'n caniatáu i'r Aelodau yn y fan hon ddangos eu cefnogaeth i hyn mewn egwyddor, ond gan hefyd gydnabod—mae COVID yn sicr wedi dangos hyn i ni—mai'r gweithwyr cyflog isel hynny sydd fwyaf gwerthfawr mewn gwirionedd, y rhai sy'n gofalu am ein cyfeillion a'n teulu, sy'n llenwi'r silffoedd, yn dosbarthu ein nwyddau, yn gweithio ar lawr y siop ac ar lawr y ffatri. Y nhw yw'r rhai sy'n haeddu ac sydd angen y cyflog byw gwirioneddol.

Llywydd, yn olaf, ar bwnc gwahanol iawn, mae darparwyr cyfleusterau diwylliannol yn fy ardal i wedi gofyn a gawn ni ddatganiad sy'n esbonio pam mae'n rhaid i ganolfannau celfyddydol a theatrau fel adeiladau yn eu cyfanrwydd aros ar gau? Oherwydd mae’r theatrau hyn yn fwy na mannau perfformio yn unig; maent yn darparu lle ar gyfer gweithdai, dosbarthiadau, cyfarfodydd, gwasanaethau addysgol, ac yn cael eu gweithredu a'u rheoleiddio'n broffesiynol a gallant fodloni gofynion diogelwch. Felly, gallai datganiad helpu i egluro y gall y lleoedd hyn, y cyfleusterau hyn, agor, yn amodol ar weithgarwch wedi’i reoleiddio ac nad yw'n ymwneud â'r enw 'theatr' neu 'leoliad diwylliannol' neu 'fan perfformio'. Byddai hyn yn help mawr. Diolch, Trefnydd.