3. Datganiad gan Weinidog yr Economi, Trafnidiaeth a Gogledd Cymru: Tata Steel

Part of the debate – Senedd Cymru am 3:41 pm ar 17 Tachwedd 2020.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Ken Skates Ken Skates Labour 3:41, 17 Tachwedd 2020

(Cyfieithwyd)

A gaf i ddiolch i Caroline Jones am ei chwestiynau hi? Fe fyddwn i'n cytuno'n llwyr y bydd y cyhoeddiad yn peri pryder mawr i weithwyr, ond mae'n rhaid inni gysuro'r gweithwyr hynny ein bod ni i gyd—ein bod ni i gyd—yn benderfynol o ddiogelu eu swyddi, a rhoi'r cymorth sydd ei angen ar gyfer gweld gweithfeydd Tata yn y DU yn mynd yn fwy cystadleuol yn y farchnad fyd-eang, gan gyflenwi mwy o ddur i'r DU a gwledydd eraill. Ac am y rhesymau a amlinellais i eisoes, rwy'n hyderus bod Tata yn llwyr ymrwymedig i'r DU.

Ond, fel y dywedais i, hefyd, fe fydd yna arwydd cynnar o'u hymrwymiad nhw yn dod yn sgil rhywfaint o'r ymgynghoriad a fydd yn digwydd nawr yn ystod y broses o wahanu'r cwmni, gan gynnwys sut mae Tata yn ymateb i anghenion y DU ar gyfer ail-sefydlu ymchwil a datblygu, gwerthu, caffael, a swyddogaethau digidol. Pan welwn ni ail-sefydlu'r prosesau penodol hynny, yna fe allwn ni fod hyd yn oed yn fwy hyderus bod Tata ar y trywydd iawn i sicrhau gweithrediadau'r DU a'u gwneud nhw'n hunangyllidol. Mae eu gwneud nhw'n hunangyllidol yn uchelgais sylweddol, ond rwy'n credu ei bod yn un sy'n angenrheidiol i ddiogelu holl weithfeydd y DU yn yr hirdymor. Ond fel y dywedais i droeon, fe fydd angen ymyrraeth uniongyrchol gan Lywodraeth y DU, ac mae'r trafodaethau hynny'n digwydd ar hyn o bryd, ond fe fyddwn i'n annog Gweinidogion Llywodraeth y DU i ddirwyn y trafodaethau hynny i ben yn gyflym ac yn gadarnhaol cyn gynted â phosibl.

Mae'r gweithwyr dur yng Nghymru a ledled y DU, sy'n cael eu cyflogi gan Tata, wedi bod yn bryderus ers gormod o lawer o flynyddoedd bellach, ac mae'n hen bryd iddyn nhw fod â'r sicrwydd, hyd yn oed gyda'r heriau eraill hynny sy'n ein hwynebu o ran datgarboneiddio a Brexit, y bydd yna ddyfodol iddyn nhw yn y sector hwnnw. Mae Trafnidiaeth Cymru wedi ymgysylltu'n uniongyrchol â busnesau ledled Cymru, gan gynnwys gyda Tata Steel, o ran cyfleoedd i fusnesau drwy raglen drawsnewid y metro. Mae busnesau eraill yn y sector dur yng Nghymru, fel Liberty Steel, er enghraifft, yn cynhyrchu cryn dipyn o ddur ar gyfer gwaith y mae Network Rail yn ei wneud. Felly, fe ddaw yna gyfleoedd amlwg i fusnesau dur yng Nghymru gyda'r metro.

Ac rwyf eisoes wedi ateb y cwestiynau ynghylch ynni, prisiau ynni, yr angen i fusnesau dur yng Nghymru fod yn gystadleuol. Mae'r gronfa trawsnewid ynni diwydiannol y cyfeiriais i ati ar gael eisoes, ond rydym wedi bod yn barod i weithio gyda busnesau dur, drwy rai o'r canolfannau ymchwil a datblygu ac arloesi a ariannwyd gennym, i sicrhau y gallan nhw leihau eu hallyriadau carbon, i sicrhau y gallan nhw weld y trawsnewid sydd ei angen i'w gwneud nhw'n gystadleuol yn fyd-eang.