– Senedd Cymru am 3:11 pm ar 17 Tachwedd 2020.
Felly, rydym ni'n ailgynnull trafodion y Cyfarfod Llawn y prynhawn yma gydag eitem 3, sef datganiad gan Weinidog yr Economi, Trafnidiaeth a Gogledd Cymru ynghylch Tata Steel. Rwy'n galw ar Weinidog yr Economi, Trafnidiaeth a Gogledd Cymru, Ken Skates.
Diolch, Dirprwy Lywydd. Ar ddydd Gwener 13 Tachwedd, fe gyhoeddodd Tata Steel ei fod wedi cychwyn trafodaethau gyda SSAB Sweden ynghylch caffael gweithfeydd Tata Steel yn yr Iseldiroedd gan gynnwys, wrth gwrs, waith dur IJmuiden. Hefyd, mae'r cwmni wedi cychwyn proses i wahanu busnes Tata Steel yn yr Iseldiroedd a busnes yn y DU yn y dyfodol. Yn hollbwysig, fe eglurodd Tata Steel hefyd ei fod am adolygu'r holl ddewisiadau i wneud y busnes yn hunangynhaliol heb fod angen unrhyw gymorth ariannol oddi wrth Tata Steel India yn y dyfodol. Fe fydd yr ansicrwydd ynghylch beth a olygir gan hyn yn y pen draw i'r busnes yn y DU yn siŵr o fod yn achos pryder mawr i'r 8,000 o weithwyr sydd gan Tata Steel ledled y DU yn ogystal â'u teuluoedd nhw, y cymunedau lleol a'r niferoedd uchel sy'n gysylltiedig â chadwyn gyflenwi'r cwmni.
Fe siaradodd y Prif Weinidog a minnau ddydd Gwener gyda Dr Henrik Adam, prif swyddog gweithredol Tata Steel Europe. Fe eglurodd Dr Adam fod Tata Steel yn benderfynol o ddiogelu dyfodol sy'n gynaliadwy i'w weithrediadau yma yn y DU a diogelu'r gweithlu. Fe eglurodd Dr Adam hefyd fod creu cwmni ar gyfer y DU yn unig yn dynodi trobwynt tyngedfennol i'r busnes.
Nawr, bydd raid inni fanteisio ar y cyfle hwn i greu cartref sy'n gynaliadwy, diogel a llwyddiannus i Tata Steel yma yng Nghymru, un sy'n cyd-fynd â'n dyheadau ni o ran carbon isel, un sy'n wirioneddol gymwys i'r dyfodol ac yn sicrhau ein bod ni'n cynnal ein sector dur ni sy'n gynhenid yma yng Nghymru a'r DU ar gyfer yr hirdymor. Mae cefnogaeth sylweddol yn angenrheidiol, a buddsoddi yn arbennig, ond rydym ni'n glir y gall y diwydiant dur yng Nghymru, gyda'r amodau priodol yn y farchnad fewnol, fod â dyfodol cynaliadwy a llwyddiannus iddo.
Rwy'n ymwybodol fod pryderon penodol ynghylch y gwahanu oddi wrth waith Tata Steel yn IJmuiden, a fydd yn golygu y bydd Tata Steel UK yn colli'r defnydd a wneir o'r gwaith ymchwil a datblygu sy'n digwydd yn yr Iseldiroedd. Dros y blynyddoedd diwethaf, rydym wedi gweld buddsoddiad sylweddol yn ein gallu o ran ymchwil a datblygu yma yng Nghymru sy'n gysylltiedig â'r sector dur. Mae mentrau fel y Sefydliad Dur a Metelau, SUSTAIN, FLEXIS ac ASTUTE yn golygu y gallwn adeiladu ar y wybodaeth arbenigol hon i ddatblygu ein galluoedd ymchwil a datblygu domestig ni ymhellach.
Mae pandemig COVID wedi codi cwestiynau pwysig o ran ein cydnerthedd economaidd, ac mae'n bryd nawr i sicrhau ein bod ni'n amddiffyn ein gallu i gynhyrchu dur yn yr hirdymor. Rydym wedi gweld pa mor bwysig yw bod gennym gadwyni gweithgynhyrchu a chyflenwi sy'n gryf, yn gydnerth ac yn lleol. Mae angen i'n sector dur ni fod wrth wraidd ein dyfodol carbon isel ni o ran adeiladau sy'n defnyddio ynni'n effeithlon, o ran ynni adnewyddadwy, cerbydau trydan carbon isel ac, wrth gwrs, adeiladu. Hefyd, rhaid peidio anghofio y gellir ailgylchu dur yn ddiddiwedd.
Mae'n hanfodol felly bod Llywodraeth y DU yn ymrwymo i gefnogaeth wirioneddol a sylweddol i Tata Steel a'r sector fel mater o frys—cymorth a fydd yn gwneud gwahaniaeth parhaol i'r sector ac yn sicrhau ei ddyfodol yn wirioneddol, nid papuro dros y craciau yn unig. Ac nid galwad newydd yw hon; mae'r sector wedi bod yn galw ar Lywodraeth y DU i weithredu mewn meysydd allweddol ers blynyddoedd lawer, gan gynnwys ynghylch prisiau ynni, ac i ddarparu pecyn effeithiol o gymorth o'r math a gafodd sectorau eraill drwy gytundebau penodol i'w sector nhw.
Felly, fe siaradais ag Ysgrifennydd Gwladol Cymru ddydd Gwener, ac fe godais i'r mater ddoe gyda Gweinidog Busnes Llywodraeth y DU, Nadhim Zahawi AS. Rwyf wedi gofyn am gyfarfod hefyd gyda'r Ysgrifennydd Gwladol Busnes, Ynni a Strategaeth Ddiwydiannol. Mae Prif Weinidog Cymru wedi ysgrifennu at Brif Weinidog y DU eisoes ynglŷn â phwysigrwydd strategol Tata Steel, ac mae'n gobeithio cael trafodaeth gynnar gyda Phrif Weinidog y DU i drafod ceisio dyfodol sy'n gynaliadwy i'r cwmni. Gan Lywodraeth y DU yn unig y mae'r gallu i ddarparu'r raddfa o gymorth sy'n ofynnol bellach. Fe fyddai cymorth rhagweithiol a chyflym yn gamau pendant ar yr agenda lefelu am i fyny, ac yn dangos bod y DU yn gweithio dros Gymru yn y cyfnod tyngedfennol hwn.
Ar ben hynny, yn fy marn i, Dirprwy Lywydd, mae'n bwysig pwysleisio y byddai Brexit 'heb gytundeb' yn niweidiol iawn i sector dur y DU, ac felly mae'n hanfodol bod y DU yn sicrhau cytundeb masnach cynhwysfawr gyda'r UE gyda mynediad di-dariff i farchnadoedd yr UE. Y cytundeb masnach cynhwysfawr hwnnw gyda'r UE yw blaenoriaeth fwyaf unrhyw gytundeb masnach o ran cynhyrchwyr dur y DU. Yr UE yw'r farchnad allforio fwyaf o bell ffordd ar gyfer cwmnïau dur y DU a'u cwsmeriaid nhw yn y DU yn y sectorau gweithgynhyrchu. Mae'n hanfodol nad yw'r diwydiant dur yng Nghymru dan anfantais oherwydd rhwystrau masnach diangen fel tollau ychwanegol, tariffau, cwotâu neu rwystrau technegol i fasnachu.
Dirprwy Lywydd, mae gwariant sylweddol Llywodraeth y DU ar feysydd fel seilwaith yn golygu hefyd fod yna botensial enfawr o ran cyfleoedd i wneuthurwyr dur y DU. Byddai hynny'n helpu i ddiogelu swyddi mewn cwmnïau dur a'u cadwyni cyflenwi nhw, yn cadw gwerth ychwanegol gros yn ein heconomi ni, ac o bosibl yn lleihau allyriadau carbon drwy fyrhau'r cadwyni cyflenwi hyn. Fe fyddaf i'n ceisio cael trafodaethau pellach gyda Gweinidogion Llywodraeth y DU a'r cwmni dros y dyddiau a'r wythnosau nesaf i gydweithio er mwyn sicrhau dyfodol gweithfeydd Tata Steel yn y DU ac yma yng Nghymru, ac fe allaf i sicrhau'r Aelodau y byddaf i'n rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf iddyn nhw ynglŷn â'r trafodaethau hynny.
Gweinidog, a gaf i ddiolch i chi am eich datganiad y prynhawn yma? Fe fyddwn innau'n cytuno bod penderfyniad Tata Steel i rannu busnesau'r DU a'r Iseldiroedd yn achos gofid mawr i weithwyr dur ledled Cymru, eu teuluoedd a'r cymunedau lleol a'r gadwyn gyflenwi ehangach. Hen beth annifyr yw ansicrwydd yn aml, ac rwy'n ofni ein bod ni wedi gweld digon o hynny yn ystod 2020, yn anffodus. Rwy'n ymwybodol ein bod ni'n defnyddio'r ieithwedd briodol o ran ein sgyrsiau ni ynglŷn â Tata, oherwydd yr hyn nad wyf i'n dymuno ei wneud—ac rwy'n siŵr y gallwn gytuno ar hynny, yw tanseilio gallu Tata ei hun i gyflwyno ei ddatrysiadau a'i alluoedd ei hunan.
Yn eich datganiad, rydych chi'n dweud eich bod o'r farn bod y diwydiant dur o bwysigrwydd strategol a bod iddo ddyfodol yng Nghymru a'r DU, ac fe fyddwn innau'n cytuno â hynny, ac rwy'n gobeithio'n ddiffuant eich bod chi'n iawn i ddweud hynny. Rydych chi'n dweud yn eich datganiad, Gweinidog, na fydd y gwaith ymchwil a datblygu a wneir yn yr Iseldiroedd ar gael i Tata Steel mwyach, ac rwy'n credu bod hwn yn fater sydd o bwys arbennig inni yma yng Nghymru. Tybed a wnewch chi ymhelaethu ar yr hyn a ddywedasoch y prynhawn yma o ran ein galluoedd ni yng Nghymru a'r DU, ond yn arbennig yng Nghymru, o ran cryfhau ein galluoedd ni ein hunain gydag ymchwil a datblygu. Pa arfau sydd gan Lywodraeth Cymru yn ei chist hi ei hun i sicrhau y gall cynhyrchu dur fod yn waith sy'n hunangynhaliol yma yng Nghymru? Tybed, Gweinidog, a wnewch chi amlinellu pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i ddefnyddio caffael cyhoeddus a buddsoddi i annog dulliau modern o adeiladu yma yng Nghymru.
Efallai y gwnewch chi roi'r wybodaeth ddiweddaraf hefyd am drafodaethau a gafodd Llywodraeth Cymru ynglŷn â chreu'r amgylchedd priodol i reoleiddio, sy'n diogelu'r gwaith cynhyrchu ledled Cymru a'r swyddi yn y gadwyn gyflenwi ehangach. At hynny, fe allai nod Llywodraeth Cymru o ddatgarboneiddio a'r amod o fod yn garbon niwtral ar gymhorthdal cyhoeddus erbyn 2050 drwy ddefnyddio ffwrneisi arc trydanol gael yr effaith o leihau nifer y staff sy'n angenrheidiol ar y safle ym Mhort Talbot. Felly sut mae Llywodraeth Cymru yn bwriadu cyflawni amcanion datgarboneiddio a diogelu bywoliaeth y bobl a gyflogir yn uniongyrchol yn y gadwyn gyflenwi ehangach ym Mhort Talbot? Yn olaf, efallai y byddai o gymorth hefyd pe byddech chi'n rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf inni am unrhyw waith o ran diwygio ardrethi busnes a diwygio'r system ardrethi busnes a fydd yn helpu busnesau ledled Cymru yn y sector arbennig hwn.
A gaf i ddiolch i Russell George am ei gwestiynau ef? Rwy'n cytuno â'i ddatganiad cychwynnol, er y bydd hyn, yn amlwg, yn peri pryder—mae cyhoeddiad fel hyn bob amser yn arwain at ansicrwydd ac, felly, ansicrwydd—yn ystod y sgyrsiau a gawsom gyda Tata, mae'n gwbl glir i ni fod Tata yn parhau i fod yn gwbl ymrwymedig i'r DU, ac yn gwbl benderfynol o drawsnewid eu hasedau nhw fel y bo'r angen i'w gwneud nhw'n gystadleuol ac ar gyfer diogelu'r swyddi a geir ar safleoedd Tata ledled y DU.
Rwy'n dyfalu y cawn ni brawf o'r ymrwymiad hwnnw cyn bo hir, yn y modd yr amlinellodd Russell George, gan ein bod ni'n gwybod, wrth iddyn nhw ddatgysylltu dwy ran o'r busnes a'u gwahanu nhw, y bydd cyfleusterau ymchwil a datblygu yn aros yn yr Iseldiroedd, ac felly hefyd rai o'r swyddogaethau sy'n cynnwys gwerthiannau, caffael a gwasanaethau digidol. Felly, fe fyddem ni'n disgwyl, fel rhan o wahanu'r cwmni, y bydd y galluoedd hynny'n cael eu hail-sefydlu yma yn y DU. Rwy'n credu y bydd symud tuag at ailsefydlu ymchwil a datblygu, gwerthu a chaffael yn arwydd clir gan Tata ei fod wedi ymrwymo'n llwyr i ddyfodol dur yn y Deyrnas Unedig.
Rwy'n credu bod Russell George yn gywir i nodi hefyd, er mai gan Lywodraeth y DU y mae'r swyddogaeth allweddol wrth estyn y cymorth angenrheidiol ar gyfer dur, ac ar gyfer Tata yn benodol yng nghyd-destun trafodaethau heddiw ar ddyfodol hyfyw, mae gan Lywodraeth Cymru swyddogaeth allweddol yn hyn hefyd. Rydym wedi cefnogi Tata ers blynyddoedd lawer, ers 2016, gan gynnig cymorth hanfodol o ran pecynnau hyfforddi sgiliau ac ymchwil a datblygu, ac mae'r cynigion hynny o gymorth yn parhau. Rydym wedi buddsoddi tua £11 miliwn, er enghraifft, mewn darparu hyfforddiant sgiliau, ac rydym wedi buddsoddi'n helaeth mewn cyfleusterau ymchwil a datblygu hefyd. Roeddwn i'n sôn am nifer ohonyn nhw yn fy natganiad i, ac fe fydd ymchwil a datblygu yn hollbwysig o ran ysgogi cystadleurwydd ac arloesedd y tu hwnt i rai o'r cyfleusterau ymchwil a datblygu sy'n benodol i'r sector dur y gwnaethom ni fuddsoddi ynddyn nhw. Rydym wedi buddsoddi mewn cyfleusterau gweithgynhyrchu sy'n ddibynnol ar y rhan sydd gan ddur yn y gadwyn gyflenwi hefyd—felly, dod â busnesau, yn enwedig busnesau bach, ynghyd yn y cyfleusterau ymchwil hynny, gan eu galluogi nhw i gydweithio, ac arloesi, a defnyddio cynhyrchion sy'n dod o deulu Tata Steel yn y DU. Fe allaf dynnu sylw at un enghraifft benodol: y Ganolfan Ymchwil Gweithgynhyrchu Uwch ym Mrychdyn, dim ond tafliad carreg o waith Shotton.
O ran caffael, mae'r Aelodau yn ymwybodol mai Llywodraeth Cymru, i'r graddau y mae caffael yn y cwestiwn, oedd yr enw cyntaf ar siarter ddur y DU, sy'n ategu ein nodyn cyngor caffael cynharach ni, drwy annog prosiectau yng Nghymru i brynu dur o ansawdd da o Brydain ac elwa ar hynny lle bynnag y bo modd. Yn rhan o'n camau gweithredu ni i wella arferion caffael, yn ogystal â chydymffurfio â rheoliadau contractau cyhoeddus, rydym ni wedi rhoi offeryn cyfreithiol gorfodol ychwanegol ar waith yn ein holiadur cyn-cymhwyso tendr na fydd unrhyw ddur a gafodd ei ddympio—dim dur o gwbl a gafodd ei ddympio—yn cael ei ddefnyddio mewn unrhyw gontract a ddyfernir gan gyrff y sector cyhoeddus yng Nghymru. Ond fe fyddwn ni'n edrych, yn amlwg, tuag at Lywodraeth y DU i weld beth arall y gall ei wneud i sicrhau bod gan wneuthurwyr dur y DU bob cyfle i fod yn rhan o gadwyni cyflenwi ar gyfer prosiectau a ariennir yn gyhoeddus y mae dur yn ofynnol iddynt. Fe gefais i, yn ystod y 24 awr ddiwethaf, gylchlythyr dur diweddaraf y DU. Rwy'n annog yr Aelodau i gael golwg arno; mae'n hynod o addysgiadol, ac fe nodir yn hwnnw y bydd y galw am ddur yn y DU yn codi o £3.8 biliwn heddiw, eleni, i £6 biliwn erbyn diwedd y degawd hwn. Felly mae yna gyfleoedd enfawr, aruthrol o ran caffael yma yn y Deyrnas Unedig. Ac wrth gwrs, i Tata, mae yna gyfleoedd penodol o ran cerbydau modurol, oherwydd mae Tata'n cyflenwi mwy na thraean o'r dur ar gyfer gofynion sector modurol y DU.
Yna, yn olaf, o ran ardrethi busnes, fe fyddaf i wrth gwrs yn gofyn i'r Gweinidog Cyllid roi'r wybodaeth ddiweddaraf am y gwaith sy'n ymwneud â dyfodol ardrethi busnes. Fe wn i fod hyn yn eithriadol o bwysig i Tata a gweithredwyr dur eraill yng Nghymru. Eto i gyd, mae'r pryder allweddol i fusnesau dur, yn enwedig i Tata, yn ymwneud â materion fel prisiau ynni anghystadleuol, lle mae prisiau trydan gweithrediadau ar y cyfandir hyd at 80 y cant yn is na'r Deyrnas Unedig. Yna, yn ail, yr her fawr i ddur yn y DU yw sicrhau y bydd yna bontio yng nghyd-destun ein huchelgeisiau ni o ran sero net, ac mae hynny'n gofyn am ymyrraeth sylweddol gan y wladwriaeth.
Fe hoffwn i ddechrau drwy ddiolch i'r Gweinidog am ei ddatganiad ac am y briff a roddodd ef i'r gwrthbleidiau ddydd Gwener. Rwy'n ategu ei holl sylwadau am bwysigrwydd enfawr y diwydiant dur i Gymru. Rydym ni'n tueddu, am resymau amlwg—oherwydd nifer y swyddi—i ganolbwyntio ar Bort Talbot, ond fel y dywedodd y Gweinidog, mae ei arwyddocâd yn llawer ehangach. Mae'r bobl a gyflogir yn ffatri Trostre yn eithriadol o bwysig yn Llanelli, sy'n rhan o'r rhanbarth yr wyf i'n ei gynrychioli.
Nawr, yn ei ddatganiad mae'r Gweinidog yn canolbwyntio llawer ar swyddogaeth Llywodraeth y DU ac mae'n adrodd yn ôl ar y trafodaethau a gafodd, ac mae hynny i gyd yn bwysig, mae'n amlwg. Rwy'n deall yr hyn a ddywedodd am yr angen i Lywodraeth y DU ddod i'r adwy ac ymrwymo i gefnogaeth wirioneddol ac arwyddocaol i Tata. Ond rwyf am ofyn iddo y prynhawn yma: beth yw ei gynllun ef os na fyddan nhw'n barod i wneud hynny? Mae ein profiad ni'n awgrymu na ellir dibynnu ar Lywodraeth y DU. Os ydym ni'n ystyried y profiad diweddar o ran ffyrlo, lle nad oedd y cymorth hwnnw ar gael pan oedd ei angen ar gymunedau Cymru, ond roedd ar gael cyn gynted ag yr oedd ei angen ar Swydd Surrey, sut y gallwn ni ddibynnu ar Lywodraeth y DU i wneud y peth iawn yn hyn o beth? Beth os bydd yr amodau, fel yr adroddwyd—yr amodau hynny y mae Llywodraeth y DU yn eu rhoi ar y cymorth hwnnw—yn arwain at ddiswyddiadau gwirioneddol sylweddol? Mae'n rhaid imi ofyn iddo: ai ei ddealltwriaeth ef yw bod cefnogaeth Llywodraeth y DU, fel yr adroddwyd eto, yn debygol o fod yn amodol ar ddisodli ffwrneisi chwyth ym Mhort Talbot gan ffwrneisi arc trydan?
Rwy'n cytuno â phopeth a ddywedodd y Gweinidog am ddatgarboneiddio, ond rwy'n gobeithio y byddai ef yn cytuno â minnau nad hon yw'r ffordd i gyflawni hynny. Gan ystyried yr hyn a ddywedodd y Gweinidog am y cynnydd tebygol yn y galw am ddur yng Nghymru a ledled y DU, a yw ef yn cytuno â mi na ddylem ruthro i ddatgarboneiddio ein diwydiant dur yn y fath fodd sy'n golygu bod yn rhaid inni gynyddu mewnforion dur yn aruthrol, gan allforio ein hôl troed carbon ni, mewn gwirionedd, yn hytrach nac ymdrin ag ef gan ddefnyddio technolegau newydd a gwneud ein diwydiant dur ni'n gynaliadwy gan ddefnyddio technolegau hydrogen sy'n cael eu datblygu, er enghraifft? Nawr, os nad oes perygl o hyn, yr hyn yr adroddwyd amdano, siawns ei bod er budd mwyaf y cwmni o ran hyder cwsmeriaid i hynny gael ei wadu, yn gadarn ac yn derfynol, ac os oes yna berygl, yna siawns nad oes angen inni drafod hynny ar goedd ynghyd â'r goblygiadau posibl.
Mae'r Gweinidog yn cyfeirio at adolygiad Tata o'r holl ddewisiadau i sicrhau bod y busnes yn hunangynhaliol heb fod unrhyw angen am gymorth ariannol gan Tata yn India yn y dyfodol, ac rwy'n siŵr y byddem ni i gyd yn deall pam mae hynny'n digwydd. Rwy'n deall yr hyn a ddywedodd y Prif Weinidog wrth Adam Price ynglŷn â'r ffaith fod Llywodraeth Cymru wasanaeth i Lywodraeth y DU a'r cwmni ar hyn o bryd. Ond a yw'r Gweinidog yn derbyn ei bod hi'n beth peryglus i ddibynnu ar hyn ar ei ben ei hun fel strategaeth? Oni ddylai Llywodraeth Cymru ac yntau, ar yr un pryd, fod yn archwilio modelau eraill a fyddai'n galluogi mynd â pherchnogaeth a rheolaeth y cwmni yn ôl i ddwylo Cymru pe byddai angen hynny? Roedd Llywodraeth Cymru yn barod i gefnogi'r gwaith o brynu gwaith Port Talbot gan reolwyr, o bosibl, ychydig flynyddoedd yn ôl. A wnaiff y Gweinidog ymrwymo y prynhawn yma i ystyried modelau perchnogaeth posibl eraill os nad yw'r dull y mae ef yn ei gymryd ar hyn o bryd yn llwyddiannus? A fyddai ef yn ystyried model cydweithredol? A fyddai ef yn ystyried cwmni di-elw? Ac os bydd Llywodraeth y DU yn cael cyfran yn y cwmni yn y pen draw, a wnaiff ef ymrwymo i ddod o hyd i ffordd y gall Llywodraeth Cymru wneud hynny hefyd, fel bod gennym ni sedd wrth y bwrdd pan wneir penderfyniadau ynglŷn â'r diwydiant hanfodol hwn yn y dyfodol?
A gaf i ddiolch i Helen Mary Jones am ei chwestiynau hi? Wrth gwrs, mae Helen Mary Jones yn iawn i dynnu sylw at y ffaith nad am Bort Talbot yn unig yr ydym ni'n sôn yma, na'r miloedd o weithwyr ym Mhort Talbot, ond am y gweithrediadau eraill sydd gan Tata Steel ledled Cymru hefyd, sy'n cyflogi niferoedd enfawr o bobl sy'n cael eu talu'n dda iawn. Yn wir, mae'r sector dur yn y Deyrnas Unedig yn talu cyflog cyfartalog o £36,000. Ac, o gofio bod llawer o weithfeydd dur yn y DU mewn ardaloedd y mae angen eu codi nhw i lefel uwch, fe fyddai colli unrhyw un o'r swyddi hyn yn y cymunedau hyn yn niweidiol iawn, a dyna pam, yn fy marn i, y mae Llywodraeth y DU yn ymwybodol iawn o'i chyfrifoldebau o ran cefnogi Tata. Yr arwyddion a gawsom ni oddi wrth Lywodraeth y DU, ac oddi wrth Tata, yw bod y trafodaethau yn digwydd, ac iddyn nhw fod yn gadarnhaol, ac y gallai canlyniad fod ger ein bron ni'n fuan. Ond, yn amlwg, mae pob diwrnod a gollir yn cynyddu'r pryder o fewn y gweithlu, ac felly, mae'n rhaid bwrw ymlaen â'r trafodaethau hynny mor gyflym â phosibl. Ac mae'n hynod bwysig, fel yr wyf i wedi crybwyll, o ran agenda lefelu ar i fyny, o ystyried bod gweithfeydd Tata Steel mewn rhai o'r cymunedau mwyaf difreintiedig yn y Deyrnas Unedig ac mae hynny'n gofyn am ymyrraeth uniongyrchol gan y wladwriaeth i'w galluogi nhw i werthfawrogi lefel uwch o ffyniant.
Nawr, mae Helen Mary Jones yn codi nifer o gwestiynau am y technolegau a ddefnyddir a'r modelau o berchnogaeth y gellid eu hystyried. Nid wyf i heddiw am fynegi barn ar y posibilrwydd o ddefnyddio ffwrnais hydrogen neu ffwrnais arc trydan, oherwydd, ar hyn o bryd, rydym ni'n canolbwyntio ar sicrhau bod Tata Steel yn cael y cyllid angenrheidiol oddi wrth Lywodraeth y DU mewn cytundeb, at ddiben cyffredin, i drosglwyddo'r safleoedd i sefyllfa o fod yn gystadleuol yn fyd-eang. A gadewch i mi sicrhau'r Aelodau mai Tata Steel sy'n cyflogi'r gweithlu dur mwyaf medrus, y gweithlu dur gorau yn Ewrop, os nad yn y byd. O ystyried yr offer a'r buddsoddiad priodol, fe all gweithrediadau Tata Steel yn y DU fod yn fwy nag unrhyw gyfleuster arall drwy'r byd. Felly, fe all Llywodraeth y DU fod yn ysgogydd i'r sector hynod bwysig hwn fod yr un gorau yn y byd.
Nawr, yn ystod fy nghyfnod i yn y swydd hon, rwyf wedi gweithio gyda phedwar Ysgrifennydd Gwladol gwahanol yn yr Adran Busnes, Ynni a Strategaeth Ddiwydiannol, ac mae pob un ohonyn nhw wedi rhoi sicrwydd i mi eu bod nhw'n awyddus i weld y sector dur yn cael ei godi i sefyllfa lle mae'n gystadleuol iawn, a lle bod yna ddyfodol cryf a chynaliadwy iddo. Fe allai'r pedwerydd Ysgrifennydd Gwladol yr wyf wedi bod yn gweithio gydag ef, Alok Sharma, fod yr un a fydd yn cyflawni'r gorchwyl. Ac mae hynny'n gwbl hanfodol er budd y gweithwyr, nid yn unig y rhai a gyflogir yn uniongyrchol gan Tata, ond yn y gadwyn gyflenwi hefyd.
Nawr, wrth grybwyll gwladoli Tata, nid wyf i o'r farn mai dyna'r ateb i'r cwestiwn a gaiff ei ofyn i ni ar hyn o bryd. Y cwestiwn cyfredol yw: sut y gall gweithrediadau Tata bontio yng nghyd-destun ein dyheadau ni o ran sero net? Sut all gweithrediadau Tata Steel weithio mewn ffordd sy'n gystadleuol o ystyried costau anghymesur ynni o ran y model busnes? A phe byddech chi'n gwladoli'r gweithfeydd neu beidio, fe fyddech chi'n wynebu'r costau hynny o hyd o ran ynni, na all neb ond Llywodraeth y DU wneud rhywbeth yn eu cylch nhw, a'r angen i ddatgarboneiddio yn ogystal â hynny. Ac, felly, mewn gwirionedd, mae'r model perchnogaeth yn ddadl, sy'n ddiddorol iawn i ni—ac rwyf i newydd wladoli'r rheilffyrdd yn ddiweddar—ond gallaf ddweud nad yw'n berthnasol i'r her sy'n ein hwynebu ni ar hyn o bryd, y mae dur yn ei hwynebu ar hyn o bryd. Yr her fawr sy'n ein hwynebu ni nawr yw sicrhau bod y newid yn ddiogel ac y gellir ei gyflwyno mewn ffordd sy'n gwarantu'r nifer fwyaf posibl o swyddi, yn dibynnu ar fewnforion oddi wrth gynhyrchwyr eraill sy'n llygru'r blaned, ond i ni fod â chyfnod pontio diogel ar waith i ddiogelu swyddi, a sicrhau y gallwn ni, mewn ffordd ddiogel, fodloni ein huchelgeisiau o ran sero net.
Rwy'n ddiolchgar i'r Gweinidog am ei ddatganiad ef y prynhawn yma. Mae Glynebwy, wrth gwrs, yn gyfystyr â dur, ac fe adeiladwyd llawer o gymunedau eraill yn fy etholaeth i, ac etholaethau pobl eraill, oherwydd dur, a phobl yn cael eu cyflogi mewn gweithfeydd dur a diwydiannau cysylltiedig. Mae dur yn bwysig i bob un ohonom ni, ac mae pob un ohonom ni ym Mlaenau Gwent wedi gweld effaith cau'r gweithfeydd dur—effaith hynny ar bobl, ar deuluoedd, ar y gymuned gyfan. Ac fe wyddom ni hefyd fod dur yn parhau i fod yn ganolog i'n dyfodol ni. Mae'n parhau i fod yn ganolog i economi Blaenau Gwent a rhannau eraill o'r wlad hon, ac mae'n hanfodol bod Llywodraeth weithredol yn gweithio gyda'r perchenogion a'r busnesau amrywiol i sicrhau dyfodol dur. Ac rwy'n falch bod y Ceidwadwyr wedi cydnabod hynny yn ystod y sesiwn hwn y prynhawn yma.
Dirprwy Lywydd, roedd ymateb y Gweinidog i Helen Mary Jones, i Blaid Cymru, yn ennyn fy niddordeb i a'r hyn a ddywedodd ef am swyddogaeth ynni a swyddogaeth cynaliadwyedd, o ran y model busnes sydd gan Tata ar hyn o bryd. Rwy'n cydnabod yr hyn a ddywedodd am bwysigrwydd sicrhau bod yna fusnes ar gael i Tata dros y blynyddoedd nesaf, a bod gennym fodel busnes ar gael i gynnal dur, ond rwy'n credu bod yna ffyrdd eraill i Lywodraeth Cymru gymryd dull mwy gweithredol hefyd. Mae'r pwynt a wnaeth y Gweinidog am ynni yn un cwbl dyngedfennol ac yn ganolog i ddyfodol y diwydiant hwn, ond fe wyddom ni hefyd y gall y Llywodraeth hon fynd ati'n weithredol i sicrhau y ceir cyflenwadau o ynni ar sail ynni adnewyddadwy, sy'n seiliedig ar gynaliadwyedd, ac a gaiff ei gyflenwi am bris y gall busnesau a defnyddwyr fforddio ei dalu hefyd.
Felly rwy'n gobeithio y bydd y Gweinidog, wrth ymateb i'r datganiad y prynhawn yma, a chan ymateb i'r hyn sy'n digwydd yn Tata ar hyn o bryd, yn cymryd yr olwg bellach honno ar y diwydiant a'n diwydiannau economaidd sefydledig ni, oherwydd yr un heriau a heriau tebyg sydd ganddyn nhw i gyd ac fe all Llywodraeth weithredol fuddsoddi yn hynny—nid yn unig yn y diwydiant hwnnw, ond yn yr economi honno, a chreu economi sy'n gynaliadwy o ran y farchnad, yn gynaliadwy yn ariannol, ac sy'n cynnal yr amgylchedd hefyd.
A gaf i ddiolch i Alun Davies am ei gwestiynau ef? Ac mae yn llygad ei le mai dur yw'r rheswm pam mae Glynebwy, fel llawer o gymunedau eraill yng Nghymru, yn bodoli. Rydym ni'n aml yn ordeimladwy wrth edrych i'r gorffennol, o ran swyddogaeth dur wrth lunio ein cymunedau ni, ein diwylliant ni, ein treftadaeth ni yng Nghymru. Ond rwy'n credu y dylem fod yr un mor angerddol o ran dyfodol y sector yng Nghymru. Oherwydd fel y dywedais i, gyda'r arfau, gyda'r buddsoddiad, gyda rhai o'r heriau a wynebodd y sector ers blynyddoedd lawer o ran costau ynni, ar ôl ymateb i'r rhain, mae gan y sector ddyfodol disglair iawn wir. Ac mae'r gwewyr a achosir—yn union fel yr amlinellodd yr Aelod Alun Davies—pan gaiff swyddi eu colli o'r gweithfeydd dur yn gyfarwydd iawn i mi. Ifanc oeddwn i pan gollwyd dros 8,000 o swyddi mewn un diwrnod yng ngwaith dur Shotton, ond rwy'n cofio'r gwewyr yn arbennig iawn, a'r dioddefaint a achosodd hynny ar unwaith, a'r creithiau parhaol a roddodd hynny i'r gymuned ehangach.
Mae Alun Davies yn gwbl gywir yn nodi bod ynni'n ystyriaeth hollbwysig o ran sut y byddwn ni'n cefnogi Tata a'r sector dur yn ehangach. Rwy'n parhau i ddweud bod angen gwneud rhywbeth o ran y prisiau uchel am drydan y mae cynhyrchwyr dur y DU a diwydiannau sy'n defnyddio llawer o ynni yn eu talu. Yn ôl UK Steel—ac, unwaith eto, fe hoffwn i dynnu sylw at y data newyddion diweddaraf, sy'n hynod o addysgiadol—mae ein gwneuthurwyr dur ni yn y DU yn talu 80 y cant yn fwy na'u cymheiriaid nhw yn Ffrainc; maen nhw'n talu 62 y cant yn fwy na'u cymheiriaid nhw yn yr Almaen. Felly, mae hyn yn dangos pa mor anghystadleuol, oherwydd y prisiau am ynni, yw rhai rhannau o'n prosesau ni yn y DU. Ac wrth gwrs, mae sectorau a busnesau eraill sy'n defnyddio llawer o ynni yn wynebu'r amrywiaethau hyn hefyd.
Nawr, mae Llywodraeth y DU—ac rwy'n croesawu hyn—wedi dod i'r adwy gyda'r gronfa trawsnewid ynni diwydiannol; rwy'n croesawu hynny. Serch hynny, ychydig dros £300 miliwn yn unig yw maint y gronfa, ac mae'r cymorth sydd ei angen ar Tata yn gymorth sy'n ymestyn y tu hwnt i fater prisiau ynni, sy'n ymestyn y tu hwnt i drawsnewid y sector cyfan. Mae angen cymorth busnes arbennig gan Lywodraeth y DU ar y cwmni. Ac yn ein cyfarfodydd niferus ni gyda Tata, rydym yn agored bob amser i geisiadau am gymorth, i gynorthwyo'r newid, y trawsnewid gyda'u busnesau nhw. Ond cawn ein hatgoffa trwy'r amser mai gan Lywodraeth y DU y mae'r brif ran yn hyn o beth, gyda'r gallu, y galluoedd o ran buddsoddi mewn modd sy'n cyflawni'r newid cadarn hwnnw.
Ac ynni adnewyddadwy—. Mae Alun Davies yn llygad ei le: fe fydd swyddogaeth Llywodraeth Cymru o ran hyrwyddo ynni adnewyddadwy yn eithriadol o bwysig, nid yn unig ar gyfer dur ond ar gyfer cynhyrchwyr eraill yng Nghymru sy'n defnyddio llawer o ynni. Ac fe geir posibiliadau enfawr o ran ynni adnewyddadwy ar dir ac ar fôr. O'm rhan i fy hun, mae datblygiadau melinau gwynt yn nofio ar wyneb y môr yn gyffrous iawn, ac fe allen nhw fod yn werth biliynau o bunnoedd i economi Cymru ac, os ydym ni'n hyrwyddo hyn yn y ffordd iawn, os byddwn ni'n denu'r buddsoddwyr priodol—ac rydym ni'n gweithio'n eithriadol o agos gyda'r sector—fe allem ni ddefnyddio mwy na dim ond melinau gwynt yn nofio ar wyneb y môr, fe allem ni fod yn gweithgynhyrchu'r tyrbinau hynny hefyd. Fe allem sicrhau bod y galluoedd ymchwil a datblygu yn ymsefydlu yng Nghymru hefyd, yn gysylltiedig â'r teuluoedd gweithgynhyrchu ehangach, gan gynnwys, wrth gwrs, y sector dur.
Diolch i chi am eich datganiad, Gweinidog. Mae'r gweithwyr dur a'u teuluoedd yn fy rhanbarth i'n pryderu llawer iawn am benderfyniad Tata i wahanu busnesau'r DU a'r Iseldiroedd. A ydych chi'n cytuno â mi ei bod yn bwysig i ni ei gwneud yn flaenoriaeth i sicrhau bod gweithfeydd Tata yn y DU yn hunangyllidol? Mae'n rhaid sicrhau bod gan Bort Talbot swyddogaeth yn y dyfodol o ran darparu anghenion dur y DU. Gweinidog, pa gamau yr ydych chi'n eu cymryd i sicrhau bod y dur a gynhyrchir ym Mhort Talbot yn cael ei ddefnyddio mewn buddsoddiadau seilwaith mawr gan Lywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU? Pa swyddogaeth sydd i waith Tata o ran darparu'r dur ar gyfer Metro'r De a chynlluniau i wella ffyrdd, megis deuoli priffordd Blaenau'r Cymoedd? Ac, yn olaf, Gweinidog, pa gamau a gymerodd Llywodraeth Cymru i gynorthwyo Tata i ddatgarboneiddio a lleihau eu costau ynni, y mae'r ddeubeth yn hanfodol i sicrhau cynaliadwyedd ei holl weithfeydd yn y DU? Diolch.
A gaf i ddiolch i Caroline Jones am ei chwestiynau hi? Fe fyddwn i'n cytuno'n llwyr y bydd y cyhoeddiad yn peri pryder mawr i weithwyr, ond mae'n rhaid inni gysuro'r gweithwyr hynny ein bod ni i gyd—ein bod ni i gyd—yn benderfynol o ddiogelu eu swyddi, a rhoi'r cymorth sydd ei angen ar gyfer gweld gweithfeydd Tata yn y DU yn mynd yn fwy cystadleuol yn y farchnad fyd-eang, gan gyflenwi mwy o ddur i'r DU a gwledydd eraill. Ac am y rhesymau a amlinellais i eisoes, rwy'n hyderus bod Tata yn llwyr ymrwymedig i'r DU.
Ond, fel y dywedais i, hefyd, fe fydd yna arwydd cynnar o'u hymrwymiad nhw yn dod yn sgil rhywfaint o'r ymgynghoriad a fydd yn digwydd nawr yn ystod y broses o wahanu'r cwmni, gan gynnwys sut mae Tata yn ymateb i anghenion y DU ar gyfer ail-sefydlu ymchwil a datblygu, gwerthu, caffael, a swyddogaethau digidol. Pan welwn ni ail-sefydlu'r prosesau penodol hynny, yna fe allwn ni fod hyd yn oed yn fwy hyderus bod Tata ar y trywydd iawn i sicrhau gweithrediadau'r DU a'u gwneud nhw'n hunangyllidol. Mae eu gwneud nhw'n hunangyllidol yn uchelgais sylweddol, ond rwy'n credu ei bod yn un sy'n angenrheidiol i ddiogelu holl weithfeydd y DU yn yr hirdymor. Ond fel y dywedais i droeon, fe fydd angen ymyrraeth uniongyrchol gan Lywodraeth y DU, ac mae'r trafodaethau hynny'n digwydd ar hyn o bryd, ond fe fyddwn i'n annog Gweinidogion Llywodraeth y DU i ddirwyn y trafodaethau hynny i ben yn gyflym ac yn gadarnhaol cyn gynted â phosibl.
Mae'r gweithwyr dur yng Nghymru a ledled y DU, sy'n cael eu cyflogi gan Tata, wedi bod yn bryderus ers gormod o lawer o flynyddoedd bellach, ac mae'n hen bryd iddyn nhw fod â'r sicrwydd, hyd yn oed gyda'r heriau eraill hynny sy'n ein hwynebu o ran datgarboneiddio a Brexit, y bydd yna ddyfodol iddyn nhw yn y sector hwnnw. Mae Trafnidiaeth Cymru wedi ymgysylltu'n uniongyrchol â busnesau ledled Cymru, gan gynnwys gyda Tata Steel, o ran cyfleoedd i fusnesau drwy raglen drawsnewid y metro. Mae busnesau eraill yn y sector dur yng Nghymru, fel Liberty Steel, er enghraifft, yn cynhyrchu cryn dipyn o ddur ar gyfer gwaith y mae Network Rail yn ei wneud. Felly, fe ddaw yna gyfleoedd amlwg i fusnesau dur yng Nghymru gyda'r metro.
Ac rwyf eisoes wedi ateb y cwestiynau ynghylch ynni, prisiau ynni, yr angen i fusnesau dur yng Nghymru fod yn gystadleuol. Mae'r gronfa trawsnewid ynni diwydiannol y cyfeiriais i ati ar gael eisoes, ond rydym wedi bod yn barod i weithio gyda busnesau dur, drwy rai o'r canolfannau ymchwil a datblygu ac arloesi a ariannwyd gennym, i sicrhau y gallan nhw leihau eu hallyriadau carbon, i sicrhau y gallan nhw weld y trawsnewid sydd ei angen i'w gwneud nhw'n gystadleuol yn fyd-eang.
Diolch. Rydym wedi cael un siaradwr o bob un o'r pedwar grŵp yma heddiw. Felly, a gaf i ofyn i bawb fod yn gryno nawr, ac mae hynny'n cynnwys atebion cryno hefyd, Gweinidog, efallai? Mae gennym nifer o gwestiynau.
Ymddiheuriadau.
Popeth yn iawn, ond mae gennym nifer o gwestiynau yr ydym ni'n bwriadu mynd trwyddyn nhw. Felly, Mark Isherwood.
Diolch, Llywydd. Bu Ysgrifennydd Gwladol Cymru, Simon Hart, a Gweinidog Busnes a Diwydiant y DU, Nadhim Zahawi, mewn cyfarfod â Tata Steel yn gynnar ddydd Gwener diwethaf, cyn cyhoeddiad y cwmni am ei weithrediadau masnachol ar gyfandir Ewrop. Fe gytunwyd y byddai Llywodraeth y DU a Tata Steel yn parhau i gydweithio i ddiogelu dyfodol cynhyrchiant cynaliadwy i ddur o ansawdd uchel yn y DU. Rwy'n croesawu eich ymgysylltiad chi â nhw, felly.
Mae Tata Steel Colours yn Shotton yn parhau i fod yn rhan allweddol o economi'r Gogledd-ddwyrain. Roedden nhw'n dweud wrthyf i bum mlynedd yn ôl eu bod yn gwbl ddibynnol ar y gadwyn gyflenwi ar gyfer cynhyrchiant cynaliadwy o ddur ym Mhrydain a'u bod nhw'n dibynnu ar borthiant o'r pen trwm yn y De, eu disgrifiad nhw. Pa ystyriaeth a roddwch chi i hynny, felly, wrth ichi ymgysylltu â Llywodraeth y DU a Tata Steel? Mae 700 o weithwyr yn Tata Steel yn Shotton o hyd, gyda'i systemau galfaneiddio dip twym, cotio organig, a chynhyrchu paneli adeiladu, a'r rhaglen brentisiaethau. Pa ystyriaeth y byddwch chi'n ei rhoi felly i'r materion allweddol hyn wrth ichi ymgysylltu â Llywodraeth y DU a Tata Steel? Mae Tata Steel yn Shotton hefyd yn y gystadleuaeth i gynnal canolfan logisteg i Heathrow. Pa ystyriaeth y byddwch chi'n ei rhoi i hyn felly wrth i chi ymgysylltu â Llywodraeth y DU a Tata Steel?
Ac yn olaf, fe gyfeiriwyd at fodel Dŵr Cymru. Fel y gwyddoch, fe fûm i'n gweithio cyn hyn yn y sector cydfuddiannol am dros ddau ddegawd, i'r gymdeithas adeiladu a ymunodd mewn gwirionedd â chymdeithas adeiladu dur Shotton—Cymdeithas Adeiladu John Summers—ac fe wn i, os nad oes gan gwmnïau cydfuddiannol rywbeth dros ben, fe fydd yr hwch yn mynd drwy'r siop, yn union yr un fath â busnes sydd er elw. A ydych chi'n cytuno â mi, felly, bod yn rhaid rhoi'r flaenoriaeth i gynnal eu busnes, gyda pha fodel bynnag a all gyflawni hyn orau, yn hytrach na rhoi sylw i'r modelau yn gyntaf?
A gaf i ddiolch i Mark Isherwood am ei gwestiynau a'i gyfraniad ef, ac rwyf i'n cytuno ag ef fod trafodaeth ynghylch modelau perchnogaeth mewn gwirionedd yn tynnu sylw oddi wrth yr hyn y mae'n rhaid ei wneud nawr? Ac rwy'n credu bod yn rhaid inni ganolbwyntio ar gefnogi Tata nawr i wireddu'r trawsnewid a amlinellais i sy'n angenrheidiol i'w wneud yn fwy cystadleuol a sicrhau dyfodol hirdymor y cyfleusterau yng Nghymru a ledled y DU.
Rwyf wedi siarad droeon erbyn hyn gydag Ysgrifennydd Gwladol Cymru, Simon Hart, ers y cyhoeddiad hwn, ac rwyf wedi siarad hefyd, fel y dywedais i, â Nadhim Zahawi, ac rwy'n ceisio cael trafodaeth bellach gyda'r Ysgrifennydd Gwladol Busnes, Ynni a Strategaeth Ddiwydiannol, Alok Sharma. Rwy'n awyddus i wneud yn siŵr y gall Llywodraeth Cymru gefnogi Llywodraeth y DU i gyflwyno'r arian i fusnesau Tata Steel UK, Tata Steel yma yng Nghymru yn bennaf, drwy ychwanegu gwerth—drwy ychwanegu gwerth. A'r rhan y gallwn ni ei chwarae yn Llywodraeth Cymru wrth ychwanegu gwerth yw cefnogi'r gweithwyr i ymgymryd â hyfforddiant sgiliau a sicrhau bod y galluoedd cywir o ran ymchwil a datblygu yn cael eu meithrin. Dyna yw ein swyddogaeth allweddol ni, a dyna pam rwy'n credu ei bod yn bwysig iawn bod y trafodaethau parhaus hynny'n cynnwys Llywodraeth Cymru lle bynnag y bo hynny'n bosibl.
Fe ofynnodd Mark Isherwood nifer o gwestiynau a oedd yn ymwneud yn benodol â safle Tata Shotton, safle Shotton Colours, sy'n cyflogi 760 o weithwyr medrus iawn. Mae gan y safle hwnnw botensial enfawr—potensial enfawr. Fy nealltwriaeth i yw bod y galw am gynnyrch o'r safle hwnnw wedi dychwelyd, cyn y cyhoeddiad, i lefelau cyn COVID, gan ddangos pa mor gystadleuol yw'r safle hwnnw, pa mor dda yw ansawdd y cynhyrchion a ddaw ohono. Ac rwy'n parhau i deimlo'n gyffrous iawn o ran posibiliadau safle Tata ar gyfer bod yn ganolfan logisteg—nid yn unig yn ganolfan logisteg i Heathrow, ond i fusnesau eraill ar draws sawl sector. Ac mae fy swyddogion i'n cydweithio'n arbennig o agos gyda Tata Steel i ddeall rhai o'r rhwystrau y mae angen eu goresgyn wrth ffurfio'r ganolfan logisteg honno ar safle Shotton ac, yn benodol, sut y gallwn ni agor trydedd fynedfa i'r safle. Fe fyddai hynny'n hanfodol bwysig o ran sefydlu canolfan logisteg ar y safle sy'n gwasanaethu nid dim ond Heathrow yn unig ond llawer o sectorau eraill o bosibl ac, fel y soniais eisoes, felinau gwynt sy'n arnofio ar wyneb y môr. Rwy'n credu y gallai hwn fod yn gyfle i sefydlu gweithgynhyrchu neu logisteg ynni adnewyddadwy hefyd.
Gweinidog, a gaf i ddiolch i chi am eich datganiad y prynhawn yma? Rwy'n cael eich safbwynt chi yn galonogol iawn yn hyn o beth. A gaf i ddiolch ichi hefyd am yr holl gefnogaeth a roddodd Llywodraeth Cymru i'r diwydiant dur dros y blynyddoedd? Mae gweithwyr dur yn fy etholaeth i yn ddiolchgar iawn am y gefnogaeth honno ac, fel yr oeddech chi'n dweud yn gwbl briodol yn gynharach yn eich cyfraniad, y nhw yw'r goreuon yn y byd ac maen nhw wedi cyfrannu llawer i'r diwydiant, ac maen nhw'n dymuno i'r diwydiant barhau nawr i anrhydeddu eu hymrwymiad nhw a'u teuluoedd iddo.
O ran y pwyntiau a wnaethoch, rwy'n credu ei bod yn bwysig bod Llywodraeth y DU yn manteisio ar y cyfle hwn nawr—ac rwy'n gweld cyfle yn hyn—i ennill diwydiant dur i'r Deyrnas Unedig, a fydd yn gosod sylfaen ar gyfer gweithgynhyrchu fel arall ledled y wlad. Ac mae hwn yn gyfle, yn fy marn i, i gamu i'r bwlch a bod â rhan weithgar yn strategaeth ddiwydiannol y DU. Rwy'n gobeithio y byddan nhw'n manteisio arno.
Nawr, yn eich datganiad chi, roeddech chi'n dweud na fydd angen cymorth ariannol gan Tata Steel India yn y dyfodol. Maen nhw'n canolbwyntio ar hynny—maen nhw'n awyddus iddo fod yn weithgarwch cynaliadwy. Ond a ydych chi wedi cael unrhyw amcan am ba hyd y byddan nhw'n parhau i'w gefnogi a pha bryd y maen nhw'n disgwyl iddo fod yn hunangynhaliol, fel bod gennym ni o leiaf darged i anelu ato wrth sicrhau bod y diwydiant yn mynd yn hunangynhaliol?
Hefyd, o ran yr agenda datgarboneiddio, mae pawb yn sôn am hydrogen. Ymhen rhai blynyddoedd eto y daw hynny, gan nad yw'r dechnoleg ar gael hyd yn hyn. Ond un peth sydd ar gael nawr yw dal a storio carbon. A ydych chi'n ystyried ymchwil a datblygu pellach yn y maes hwnnw i sicrhau bod posibilrwydd o ddatgarboneiddio'r diwydiant ym Mhort Talbot yn arbennig felly, oherwydd, yn amlwg, dyna lle mae'r pen trwm, a dyna lle y byddai'r allyriadau carbon mwyaf? A gawsoch chi drafodaethau buddiol gyda'ch cyd-Aelod yn y Cabinet, Lesley Griffiths, ynglŷn â'r cynllun masnachu allyriadau sy'n cael ei roi ar waith i ddisodli'r cynllun masnachu allyriadau Ewropeaidd i sicrhau na fydd hyn yn niweidiol i'r diwydiant dur yn y dyfodol ac y bydd model y DU yn gefnogol ac yn ddefnyddiol iawn i sector dur y DU?
Fe fuom ni'n siarad am sgiliau a gwahanu'r busnesau'n ddwy ran, un i'r Iseldiroedd a'r llall i'r DU. Ac fe wyddom ni mai yn yr Iseldiroedd y lleolir yr elfennau ar hyn o bryd, oherwydd fe wnaethon nhw symud o Bort Talbot draw i'r Iseldiroedd—yr ymchwil a datblygu, a'r gwerthiant. Pa drafodaethau y byddwch yn eu cael o ran yr agenda sgiliau i sicrhau bod y rhain yn dychwelyd? A sut ydych chi'n gweithio o ran yr ymchwil a'r datblygu, yn enwedig yn Abertawe—oherwydd fe wn i fod Tata yn gweithio gydag Abertawe a Warwick, ond gydag Abertawe a'r Sefydliad Dur a Metel yn arbennig—i sicrhau mai dyna'r ganolfan ymchwil a datblygu ar gyfer dur yn y DU ac y bydd hyn hollbwysig i Tata weithio gyda nhw?
A wnewch chi ddod â'ch—[Torri ar draws.]—i derfyn?
Rwyf i ar fin dod i ben, ond, fel y gwyddoch chi, rwy'n siŵr, Dirprwy Lywydd, mae hwn yn fater difrifol i'm hetholaeth i a'r gweithlu sydd gennyf yn y fan honno.
Yn hollol.
Fy mhwynt olaf i, serch hynny, yw—mae llawer o sôn am lefelu ar i fyny gan Lywodraeth y DU. Roeddech chi'n sôn yn eich datganiad chi i'r wasg ddydd Gwener fod Prif Weinidog Cymru yn ceisio cael galwad ffôn gyda Phrif Weinidog y DU. A yw ef wedi galw'n ôl eto, ac a yw wedi cytuno i sicrhau bod y lefelu ar i fyny yn berthnasol i Gymru a'r sector dur yn ogystal ag yn unrhyw le arall?
A gaf i ddiolch i Dai Rees am ei gwestiynau a dweud ei fod ef yn ddadleuwr grymus ac angerddol dros Bort Talbot a'r sector dur yn ei gyfanrwydd yng Nghymru? Rwy'n croesawu ei gyfraniad heddiw yn fawr, ac rwy'n cytuno ag ef y ceir cyfle enfawr i Lywodraeth y DU ddangos ymrwymiad, ymrwymiad gwirioneddol, i lefelu am i fyny, ond i ddiogelu'r hyn sydd yn fuddiant strategol cenedlaethol i'r Deyrnas Unedig hefyd. Rwy'n credu bod dur yn bwysig i'n diogelwch cenedlaethol ni. Nid wyf yn credu ei bod hi'n bosibl inni ddychmygu na goddef, wrth inni gyrraedd diwedd y cyfnod pontio, y sefyllfa o gynhyrchu dur yn diflannu o'r Deyrnas Unedig. Ni ellir dychmygu hynny, wir. Ac fe all Llywodraeth y DU fanteisio ar y cyfle hwn felly i warantu y bydd gennym ddyfodol hyfyw a diogel i'r sector ledled y Deyrnas Unedig. Ac mae yna lawer o gyfleoedd fel yr amlinellais i eisoes, o ran caffael hefyd, gyda'r galw o fewn y DU yn unig yn dyblu yn ystod y degawd hwn—cyfleoedd enfawr os bydd caffael yn cael ei drefnu i sicrhau ein bod ni'n diogelu cymaint o'r gwariant cyhoeddus â phosibl ar gyfer gweithrediadau dur y DU.
Rwy'n gweithio gyda Tata a hefyd, mae'n rhaid imi ddweud, gydag undeb Community. Cefais drafodaeth dda iawn, trafodaeth gyfyngol, gyda Roy Rickhuss yn undeb Community. Gallaf ddweud ein bod ni'n cyd-fynd yn gyfan gwbl ag undeb Community. Nid oes lled blewyn o wahaniaeth rhyngom o ran ein ffydd ni yn y sector, ein hymrwymiad ni i Tata, ein hawydd ni i sicrhau y ceir dyfodol cryf a hyfyw i ddur yn y DU. Ac fe fyddwn ni'n cydweithio gyda Tata i ddeall yn union yr hyn y mae'r symudiad tuag at fod yn hunangynhaliol yn ei olygu, a sut y gellir ymgyrraedd at hynny a phryd y daw hynny i fod.
Fe allai dal carbon fod â swyddogaeth bwysig o ran cyflawni ein rhwymedigaethau ni o ran allyriadau carbon, ac, o ran y cynllun masnachu allyriadau, Dirprwy Lywydd, mae arnaf i ofn y gallwn i siarad am gryn amser am y System Masnachu Allyriadau, ond rwyf am ddweud—
Na chewch, dydw i ddim yn meddwl.
—mae Llywodraeth Cymru, gan weithio gyda Llywodraeth y DU ac, yn amlwg, weinyddiaethau datganoledig eraill, wedi datblygu cynllun masnachu allyriadau'r DU; bydd yn gweithredu fel cynllun annibynnol, neu bydd yn gysylltiedig â chynllun masnachu allyriadau yr UE, ac mae'r ddeddfwriaeth bellach ar waith i'r cynllun hwnnw fod yn weithredol ar 1 Ionawr 2021. Mae hynny'n hanfodol bwysig.
Yna, yn olaf, o ran cymorth pellach y gellid ei gyflwyno o ran ymchwil a datblygu, mae bargen ddinesig bae Abertawe, yn amlwg, ac mae gan Brifysgol Abertawe gynigion i ddatblygu arbenigedd dur yng Nghymru ymhellach drwy'r fargen ddinesig. Ac o ran yr alwad ffôn, nid wyf yn ymwybodol y cafwyd yr alwad ffôn honno eto, ond hysbysaf yr Aelodau pan ac os daw'r alwad honno.
Gweinidog, roeddwn yn falch iawn o'ch clywed yn agor gyda sylwadau ynglŷn â sylfaen sgiliau'r diwydiant dur yng Nghymru. Rwy'n credu bod pobl yn anwybyddu'r ffaith ei fod yn ddiwydiant sy'n moderneiddio'n gyson a dyna pam ei fod yn elfen mor bwysig yn y sefydliadau hynny fel bargen ddinesig bae Abertawe y sonioch chi amdani a Phrifysgol Abertawe. Ond rwy'n eithaf awyddus i wneud yn siŵr nad ydym ni'n anwybyddu'r cyfleoedd ar gyfer prentisiaethau yn hyn o beth hefyd. Mae Tata yn gyfrannwr enfawr yn y maes penodol hwnnw, a byddwn yn ddiolchgar o wybod pa sicrwydd yr ydych chi wedi'i gael am y cyfleoedd ar gyfer prentisiaethau yn ystod y cyfnod ansicr hwn. Diolch.
A gaf i ddiolch i Suzy Davies am ei chwestiwn? Ac mae hi'n llygad ei lle: mae pobl a gyflogir gan Tata ymhlith y rhai mwyaf medrus yn Ewrop o ran y sector dur, ac rydym ni, Llywodraeth Cymru, wedi bod yn falch o allu buddsoddi £11.7 miliwn o ran cyllid hyfforddiant sgiliau ers 2016. Bu gan brentisiaethau ran allweddol yn holl safleoedd Tata, a deallwn fod Tata yn parhau i fod yn gwbl ymrwymedig i ddarparu cyfleoedd prentisiaeth hyd yn oed yn y cyfnod ansicr hwn, ac, wrth gwrs, mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi cymhelliad yn ddiweddar i fusnesau gyflogi prentisiaid, gan gynnwys, yn bwysig, prentisiaid ifanc. Felly, i bob prentis ifanc o dan 25 oed y mae busnes yn ei gyflogi, byddant yn cael cymhelldal o £3,000, a gallai hyn fod yn hynod bwysig i gyflogwyr mwy fel Tata wrth gadw neu gyflogi prentisiaid yn ystod y pandemig ac yna'r adferiad. Ond byddaf yn falch o ysgrifennu at yr Aelodau gyda rhagor o fanylion am gynlluniau Tata ar gyfer eu darpariaeth prentisiaeth.
A gaf i ddiolch i'r Gweinidog am ei ddatganiad? Ac a gaf i hefyd dalu teyrnged i'r gweithlu yng ngwaith dur Shotton, gan gynnwys fy nghyd-aelodau yn undebau Community ac Unite? Mae eu gwaith caled a'u medrusrwydd yn cynhyrchu'r dur gorau mewn gwirionedd, gan wneud safle Shotton yn broffidiol a dweud y gwir.
Gweinidog, rydych chi eisoes wedi gwneud sylwadau ynglŷn â'r ganolfan logisteg oddi ar y safle, yr wyf wedi bod yn gefnogwr ohono ers tro byd, ac rydych chi newydd wneud sylwadau ynglŷn â rhaglen brentisiaethau Tata; edrychaf ymlaen at gael rhagor o wybodaeth am hynny. Efallai heddiw y gallech chi sôn am hyfforddiant ehangach staff, sy'n rhywbeth y mae Llywodraeth Cymru yn darparu cyllid ar ei gyfer, a hefyd y cyfle i ddefnyddio dur gorau a mwyaf cynaliadwy'r byd yn rhan o'r adferiad gweithgynhyrchu gwyrdd o COVID, yn enwedig gan fod safle Shotton yn ceisio trawsnewid i fod yn garbon niwtral.
Nawr, mae'n rhaid imi ddweud, Dirprwy Lywydd, yn olaf, mae'r gefnogaeth hon gan y Llywodraeth Lafur hon yng Nghymru a'r gefnogaeth y maen nhw wedi'i chynnig yn y gorffennol yn gwrthgyferbynnu'n llwyr â Llywodraeth Geidwadol y DU, sydd wedi bod ar goll yn rhy aml o lawer, ac mae'n rhaid imi ddweud—. Clywaf dwt-twtio, ond mae'n rhaid imi ddweud bod fy nghymuned—fy nghymuned i—yn dal i ddioddef oherwydd yr hyn a ddigwyddodd yn ystod Llywodraeth Thatcher, ac mae ymhell bell o fod wedi'i anghofio. Felly, Gweinidog, a wnewch chi roi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r Siambr ynghylch pa mor ffyddiog yr ydych chi god Gweinidogion y DU yn deall yr angen i ddarparu cymorth brys i ddur cynaliadwy yng Nghymru, ac i fod â strategaeth ar waith i wneud hynny?
A gaf i ddiolch i Jack Sargeant am ei gwestiynau, ac a gaf i ddiolch, ar goedd, i Jack Sargeant am y gwaith enfawr y mae wedi'i wneud i gefnogi cyfleuster Shotton Tata wrth ddatblygu'r cynlluniau ar gyfer canolfan logisteg? Mae fy swyddogion wedi bod yn gweithio gyda Tata Shotton i ddatblygu'r prif gynllun hwnnw, ond rwy'n gwybod faint o waith y mae Jack wedi'i gyfrannu at yr agenda benodol hon, a diolchaf iddo am hynny. Rwyf hefyd yn ddiolchgar am y gydnabyddiaeth o'r gefnogaeth y mae Llywodraeth Cymru wedi'i rhoi i Tata dros flynyddoedd lawer, a byddwn yn dweud, wrth edrych tua'r dyfodol, gadewch inni ddisgrifio hyn fel cyfle i Lywodraeth y DU ddangos—yn fuan iawn, mewn gwirionedd—ei bod wedi ymrwymo'n llwyr i gael cydraddoldeb yn y DU, drwy ddarparu'r cymorth hanfodol hwnnw y mae ar Tata ei angen er mwyn trawsnewid fel y mae'n dymuno gwneud, ac i sicrhau y daw yn fwy cystadleuol.
O ran yr hyn y gellid ei gynhyrchu ar safle Shotton, wel, fe wyddom fod ei gynhyrchion ymhlith y rhai gorau ar y farchnad, a'u bod eisoes yn cyfrannu at gynlluniau effeithlonrwydd ynni, yn enwedig yn y ganolfan adeiladu. Ond, yn amlwg, o ystyried ailgylchadwyedd dur, bydd yn dod yn nodwedd fwy amlwg byth o'n dyhead i ailddefnyddio ac adnewyddu wrth inni geisio adferiad gwyrdd. Felly, nid oes gennyf unrhyw amheuaeth na all y 760 o weithwyr ar safle Shotton deimlo'n falch a theimlo'n obeithiol y byddant yn cyfrannu, fel un o ddiwydiannau yfory, at economi fwy gwyrdd.
Mae'r Gweinidog yn sôn am y ffaith bod ailgylchu dur yn ddiddiwedd a'r angen i gefnogi eich dyheadau carbon isel, ond onid yw hynny'n awgrymu defnyddio ffwrneisi arc trydanol, yn hytrach na'r dull cynhyrchu presennol gyda ffwrneisi chwyth ym Mhort Talbot? Onid oes tensiwn anochel rhwng datgarboneiddio'r cyflenwad trydan, gan gynnwys dulliau o atal defnyddio ffyrdd rhatach o gynhyrchu trydan, er y bu rhai gwelliannau? Ac mae cwestiwn ynghylch a yw'r defnyddiwr neu'r trethdalwr yn talu'r pris mwy hwnnw a beth yw'r gyfran honno, ond onid oes y tensiwn hwnnw? Ac a yw Llywodraeth Cymru yn cefnogi Llywodraeth y DU gyda'r cynigion a gofnodwyd ganddi i dalu £500 miliwn, neu oddeutu hynny, tuag at newid y dull cynhyrchu i ddefnyddio ffwrneisi arc trydanol? A yw hynny'n rhywbeth y mae'n ei gefnogi, neu a yw'n well ganddo aros gyda'r ffwrneisi chwyth, er gwaethaf unrhyw oblygiadau i hynny o ran carbon? Ac onid yw'n bryd inni gydnabod mai'r rheswm pam mae'r broblem hon gyda ni yw oherwydd, yr haf diwethaf, i'r Comisiwn Ewropeaidd wahardd uno buddiannau Ewropeaidd Thyssenkrupp gyda Tata Steel, a fyddai wedi caniatáu i weithfeydd yr Iseldiroedd a Phort Talbot weithio gyda'i gilydd, ac yn hytrach mae'n rhaid eu gwahanu mewn ymateb i'r penderfyniad hwnnw gan y Comisiwn Ewropeaidd?
Wel, ynglŷn â'r sylw olaf yna—ac a gaf i ddiolch i Mark Reckless am ei gwestiynau—ynglŷn â'r sylw olaf yna, ni fyddai'r uno wedi mynd i'r afael â'r her y mae gweithrediadau dur y DU yn ei hwynebu ar hyn o bryd. Yr un fyddai'r heriau, a dim ond drwy gydweithio â Llywodraeth y DU y gellir ateb yr heriau hynny.
O ran y tensiwn sy'n bodoli, rwy'n cydnabod yn llwyr fod y tensiwn hwnnw yn bodoli, mae hynny yn broblem, ond y gwir amdani yw ar hyn o bryd, dur a gynhyrchir mewn ffwrneisi chwyth yw'r unig ddur y gellir ei ddefnyddio bron iawn mewn rhai sectorau, er enghraifft, yn y sector modurol. A dyna pam mae Tata Steel yn y DU yn darparu tua thraean o'r dur y mae'r sector modurol yn galw amdano. Nawr, dros amser, gellid datblygu, mireinio a pherffeithio technoleg newydd i ddarparu'r radd honno o ddur ond, ar hyn o bryd, nid oes modd gwneud hynny. Nawr, nid wyf am gael fy nargyfeirio i drafod y math o dechnoleg y gellid ei defnyddio yn y dyfodol, pa un a fyddai hynny'n seiliedig ar ffwrneisi hydrogen neu ffwrneisi arc trydanol, cyfuniad, neu a oes model cyfun y gellid ei fabwysiadu. Y cwbl a ddywedaf yw y dylai'r trawsnewid hwnnw ddigwydd dros gyfnod o amser, sy'n diogelu'r gweithlu ac yn sicrhau holl weithrediadau Tata Steel yng Nghymru. A byddwn yn cefnogi, nid yn unig Tata, ond Llywodraeth y DU a'r undebau, i gydweithio tuag at y nod terfynol hwnnw.
Gweinidog, ymhlith yr ardaloedd cryf yng Nghymru o ran traddodiad dur y mae Casnewydd, wrth gwrs, a Llanwern—esgusodwch fi—a Liberty Steel. Roedd gennym ni Orb, ond, yn anffodus, mae hynny wedi diflannu erbyn hyn, ac mae llu o gwmnïau llai. Felly, hoffwn gael rhywfaint o sicrwydd heddiw y bydd gan y traddodiad dur hwnnw a'r safleoedd dur hynny ran gref yn nyfodol dur yng Nghymru a'r DU. Mae llawer o bobl fedrus a phrofiadol yn yr ardal, rhai a gyflogir ar hyn o bryd a rhai a ddiswyddwyd yn ddiweddar, y gellid eu defnyddio. Ac, wrth gwrs, mae gan Liberty Steel, er enghraifft, syniadau clir iawn am ddur gwyrdd a sut y gellid bwrw ymlaen â hynny, yn ogystal â rhai syniadau ar yr agweddau ar ynni.
Rydych chi eisoes wedi cyfeirio, Gweinidog,—os bydd gennym ni waith Tata Steel ar wahân yn y DU—at yr angen am rai o'r swyddogaethau presennol, megis ymchwil a datblygu, caffael, gwerthu ac, yn wir, rai o'r agweddau digidol, i fod yn rhan o'r gweithredu unigryw hwnnw yn y DU. Mae rhywfaint o hynny wedi'i ganoli yn yr Iseldiroedd. Mae Llanwern wedi cynnal rhai o'r swyddogaethau hynny. Tybed a allech chi ddweud ychydig am y rhan y gallai fod i Lanwern wrth gynnal y swyddogaethau hynny eto, ac am rai o'r goblygiadau i hyfforddiant yn yr ardal, ac am y swyddogaeth y gallai fod i sefydliadau fel Coleg Gwent a Phrifysgol De Cymru.
A gaf i ddiolch i John Griffiths am ei gwestiynau a chydnabod hefyd y diddordeb anhygoel y mae wedi'i ddangos mewn cyfleusterau cynhyrchu dur yn ardal Casnewydd a'r rhanbarth ehangach dros flynyddoedd lawer? Mae'n gefnogwr mawr i'r sector.
Ar hyn o bryd mae Llanwern yn cyflogi tua 960 o bobl fedrus iawn, gan ddarparu dur ar gyfer y sector modurol ac, felly, yn dibynnu'n glir ar Bort Talbot. Roedd Tata yn eiddgar iawn—roedden nhw yn eiddgar iawn—i fynegi eu penderfyniad i sicrhau dyfodol eu gweithfeydd yn y DU pan siaradais â nhw ddydd Gwener. Ceisiwn nawr weld y swyddogaethau hynny y mae John Griffiths ac eraill wedi nodi yn cael eu hail-sefydlu yng Nghymru neu eu dychwelyd yma. Mae'n ddigon posib y gwelwn ni ddychwelyd y swyddi hynny yma o'r Iseldiroedd. Os na, yna byddwn yn disgwyl i alluoedd newydd gael eu sefydlu yma yng Nghymru.
Nid wyf yn credu mai mater i mi fyddai dyfalu pa swyddogaethau'n union a allai fod wedi'u lleoli ym mha rai o'r cyfleusterau dur. Ond, byddwn yn dychmygu, o ystyried swyddogaeth flaenllaw Llanwern o ran y sector modurol, y gallai fod cyfle yno i ddatblygu rhai o'r swyddogaethau gwerthu. Yn amlwg, byddwn yn gweithio gyda Tata i ystyried sut y gallwn ni gefnogi'r gwaith o sefydlu'r cyfleusterau a'r galluoedd hynny yma yng Nghymru. Rydym ni eisiau sicrhau cynifer o gyfleoedd gwaith â phosib. Ond, fel yr wyf wedi dweud, byddwn yn edrych yn fuan iawn ar y swyddogaethau hynny, pan fydd Tata yn dechrau'r broses o'u hail sefydlu neu eu dychwelyd yma i Gymru, a byddwn yn eu cefnogi mewn unrhyw ffordd y gallwn ni.
Diolch yn fawr iawn, Gweinidog.