3. Datganiad gan Weinidog yr Economi, Trafnidiaeth a Gogledd Cymru: Tata Steel

Part of the debate – Senedd Cymru am 3:36 pm ar 17 Tachwedd 2020.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Ken Skates Ken Skates Labour 3:36, 17 Tachwedd 2020

(Cyfieithwyd)

A gaf i ddiolch i Alun Davies am ei gwestiynau ef? Ac mae yn llygad ei le mai dur yw'r rheswm pam mae Glynebwy, fel llawer o gymunedau eraill yng Nghymru, yn bodoli. Rydym ni'n aml yn ordeimladwy wrth edrych i'r gorffennol, o ran swyddogaeth dur wrth lunio ein cymunedau ni, ein diwylliant ni, ein treftadaeth ni yng Nghymru. Ond rwy'n credu y dylem fod yr un mor angerddol o ran dyfodol y sector yng Nghymru. Oherwydd fel y dywedais i, gyda'r arfau, gyda'r buddsoddiad, gyda rhai o'r heriau a wynebodd y sector ers blynyddoedd lawer o ran costau ynni, ar ôl ymateb i'r rhain, mae gan y sector ddyfodol disglair iawn wir. Ac mae'r gwewyr a achosir—yn union fel yr amlinellodd yr Aelod Alun Davies—pan gaiff swyddi eu colli o'r gweithfeydd dur yn gyfarwydd iawn i mi. Ifanc oeddwn i pan gollwyd dros 8,000 o swyddi mewn un diwrnod yng ngwaith dur Shotton, ond rwy'n cofio'r gwewyr yn arbennig iawn, a'r dioddefaint a achosodd hynny ar unwaith, a'r creithiau parhaol a roddodd hynny i'r gymuned ehangach.

Mae Alun Davies yn gwbl gywir yn nodi bod ynni'n ystyriaeth hollbwysig o ran sut y byddwn ni'n cefnogi Tata a'r sector dur yn ehangach. Rwy'n parhau i ddweud bod angen gwneud rhywbeth o ran y prisiau uchel am drydan y mae cynhyrchwyr dur y DU a diwydiannau sy'n defnyddio llawer o ynni yn eu talu. Yn ôl UK Steel—ac, unwaith eto, fe hoffwn i dynnu sylw at y data newyddion diweddaraf, sy'n hynod o addysgiadol—mae ein gwneuthurwyr dur ni yn y DU yn talu 80 y cant yn fwy na'u cymheiriaid nhw yn Ffrainc; maen nhw'n talu 62 y cant yn fwy na'u cymheiriaid nhw yn yr Almaen. Felly, mae hyn yn dangos pa mor anghystadleuol, oherwydd y prisiau am ynni, yw rhai rhannau o'n prosesau ni yn y DU. Ac wrth gwrs, mae sectorau a busnesau eraill sy'n defnyddio llawer o ynni yn wynebu'r amrywiaethau hyn hefyd.

Nawr, mae Llywodraeth y DU—ac rwy'n croesawu hyn—wedi dod i'r adwy gyda'r gronfa trawsnewid ynni diwydiannol; rwy'n croesawu hynny. Serch hynny, ychydig dros £300 miliwn yn unig yw maint y gronfa, ac mae'r cymorth sydd ei angen ar Tata yn gymorth sy'n ymestyn y tu hwnt i fater prisiau ynni, sy'n ymestyn y tu hwnt i drawsnewid y sector cyfan. Mae angen cymorth busnes arbennig gan Lywodraeth y DU ar y cwmni. Ac yn ein cyfarfodydd niferus ni gyda Tata, rydym yn agored bob amser i geisiadau am gymorth, i gynorthwyo'r newid, y trawsnewid gyda'u busnesau nhw. Ond cawn ein hatgoffa trwy'r amser mai gan Lywodraeth y DU y mae'r brif ran yn hyn o beth, gyda'r gallu, y galluoedd o ran buddsoddi mewn modd sy'n cyflawni'r newid cadarn hwnnw.

Ac ynni adnewyddadwy—. Mae Alun Davies yn llygad ei le: fe fydd swyddogaeth Llywodraeth Cymru o ran hyrwyddo ynni adnewyddadwy yn eithriadol o bwysig, nid yn unig ar gyfer dur ond ar gyfer cynhyrchwyr eraill yng Nghymru sy'n defnyddio llawer o ynni. Ac fe geir posibiliadau enfawr o ran ynni adnewyddadwy ar dir ac ar fôr. O'm rhan i fy hun, mae datblygiadau melinau gwynt yn nofio ar wyneb y môr yn gyffrous iawn, ac fe allen nhw fod yn werth biliynau o bunnoedd i economi Cymru ac, os ydym ni'n hyrwyddo hyn yn y ffordd iawn, os byddwn ni'n denu'r buddsoddwyr priodol—ac rydym ni'n gweithio'n eithriadol o agos gyda'r sector—fe allem ni ddefnyddio mwy na dim ond melinau gwynt yn nofio ar wyneb y môr, fe allem ni fod yn gweithgynhyrchu'r tyrbinau hynny hefyd. Fe allem sicrhau bod y galluoedd ymchwil a datblygu yn ymsefydlu yng Nghymru hefyd, yn gysylltiedig â'r teuluoedd gweithgynhyrchu ehangach, gan gynnwys, wrth gwrs, y sector dur.