Part of the debate – Senedd Cymru am 3:46 pm ar 17 Tachwedd 2020.
A gaf i ddiolch i Mark Isherwood am ei gwestiynau a'i gyfraniad ef, ac rwyf i'n cytuno ag ef fod trafodaeth ynghylch modelau perchnogaeth mewn gwirionedd yn tynnu sylw oddi wrth yr hyn y mae'n rhaid ei wneud nawr? Ac rwy'n credu bod yn rhaid inni ganolbwyntio ar gefnogi Tata nawr i wireddu'r trawsnewid a amlinellais i sy'n angenrheidiol i'w wneud yn fwy cystadleuol a sicrhau dyfodol hirdymor y cyfleusterau yng Nghymru a ledled y DU.
Rwyf wedi siarad droeon erbyn hyn gydag Ysgrifennydd Gwladol Cymru, Simon Hart, ers y cyhoeddiad hwn, ac rwyf wedi siarad hefyd, fel y dywedais i, â Nadhim Zahawi, ac rwy'n ceisio cael trafodaeth bellach gyda'r Ysgrifennydd Gwladol Busnes, Ynni a Strategaeth Ddiwydiannol, Alok Sharma. Rwy'n awyddus i wneud yn siŵr y gall Llywodraeth Cymru gefnogi Llywodraeth y DU i gyflwyno'r arian i fusnesau Tata Steel UK, Tata Steel yma yng Nghymru yn bennaf, drwy ychwanegu gwerth—drwy ychwanegu gwerth. A'r rhan y gallwn ni ei chwarae yn Llywodraeth Cymru wrth ychwanegu gwerth yw cefnogi'r gweithwyr i ymgymryd â hyfforddiant sgiliau a sicrhau bod y galluoedd cywir o ran ymchwil a datblygu yn cael eu meithrin. Dyna yw ein swyddogaeth allweddol ni, a dyna pam rwy'n credu ei bod yn bwysig iawn bod y trafodaethau parhaus hynny'n cynnwys Llywodraeth Cymru lle bynnag y bo hynny'n bosibl.
Fe ofynnodd Mark Isherwood nifer o gwestiynau a oedd yn ymwneud yn benodol â safle Tata Shotton, safle Shotton Colours, sy'n cyflogi 760 o weithwyr medrus iawn. Mae gan y safle hwnnw botensial enfawr—potensial enfawr. Fy nealltwriaeth i yw bod y galw am gynnyrch o'r safle hwnnw wedi dychwelyd, cyn y cyhoeddiad, i lefelau cyn COVID, gan ddangos pa mor gystadleuol yw'r safle hwnnw, pa mor dda yw ansawdd y cynhyrchion a ddaw ohono. Ac rwy'n parhau i deimlo'n gyffrous iawn o ran posibiliadau safle Tata ar gyfer bod yn ganolfan logisteg—nid yn unig yn ganolfan logisteg i Heathrow, ond i fusnesau eraill ar draws sawl sector. Ac mae fy swyddogion i'n cydweithio'n arbennig o agos gyda Tata Steel i ddeall rhai o'r rhwystrau y mae angen eu goresgyn wrth ffurfio'r ganolfan logisteg honno ar safle Shotton ac, yn benodol, sut y gallwn ni agor trydedd fynedfa i'r safle. Fe fyddai hynny'n hanfodol bwysig o ran sefydlu canolfan logisteg ar y safle sy'n gwasanaethu nid dim ond Heathrow yn unig ond llawer o sectorau eraill o bosibl ac, fel y soniais eisoes, felinau gwynt sy'n arnofio ar wyneb y môr. Rwy'n credu y gallai hwn fod yn gyfle i sefydlu gweithgynhyrchu neu logisteg ynni adnewyddadwy hefyd.