Part of the debate – Senedd Cymru am 5:07 pm ar 17 Tachwedd 2020.
Diolch. Yn gynharach eleni, croesawais adroddiad y Pwyllgor Cyllid ar ffynonellau cyllid cyfalaf a'i argymhellion ynglŷn â'r model buddsoddi cydfuddiannol. Mae llawer wedi digwydd ers hynny. Mae pandemig wedi taro Cymru'n galed yn dilyn degawd o gyni a orfodwyd gan San Steffan, nad yw ein cyllideb gyfalaf wedi gwella ohono—bygythiadau dwbl y mae'n rhaid inni fynd i'r afael â hwy drwy gyflawni prosiectau a fydd yn hybu ein hadferiad economaidd, gan greu cyfleoedd o ran gwaith, hyfforddiant a'r gadwyn gyflenwi. Bydd y model buddsoddi cydfuddiannol yn ein helpu i wneud yr union beth hwnnw, gan gyflymu buddsoddiad mewn prosiectau na fydden nhw fel arall wedi bod yn fforddiadwy.
Mae ein dull gweithredu caeth o ddefnyddio'r model buddsoddi cydfuddiannol yn aros yn ddigyfnewid. Rydym yn defnyddio cyfalaf confensiynol yn gyntaf i ariannu seilwaith cyhoeddus a byddwn yn defnyddio pob ceiniog ohono. Byddwn wedyn yn defnyddio ein pwerau benthyca cyfyngedig. Rydym ni hefyd wedi galluogi awdurdodau lleol a chymdeithasau tai i fenthyca er mwyn sicrhau'r gefnogaeth fwyaf posib i'r anghenion brys y mae ein cymunedau'n eu hwynebu. Ond nid yw hynny hyd yn oed yn ddigon i ddiwallu'r anghenion brys hynny.
Rydym ni wedi datblygu model wedi'i gynllunio'n ofalus i ddiwallu'r anghenion hynny yn wyneb degawd o gyni, y mae'n rhaid inni gofio iddo ddechrau gyda thoriadau sylweddol i gyllidebau cyfalaf ar lefel y DU. Ac felly, heddiw, rwyf eisiau nodi sut y bydd y model yn cyfrannu at ein hadferiad economaidd tra bydd yn sicrhau manteision cymunedol eang, heb roi mwy o straen ar ein cyllidebau cyfalaf cyfyngedig. Hoffwn ddweud ychydig eiriau hefyd am y modd y mae Banc Datblygu Cymru yn gweithredu fel y cyfranddaliwr cyhoeddus yng nghynlluniau'r model buddsoddi cydfuddiannol, gan gynyddu tryloywder a gwella gwerth am arian ar gyfer y sector cyhoeddus.
Mae'n bleser gennyf adrodd ein bod, ddiwedd y mis diwethaf, wedi dyfarnu contract i gonsortiwm Cymoedd y Dyfodol i gwblhau adrannau 5 a 6 o brosiect deuoli'r A465. Bydd y cynllun hwn yn cwblhau'r gwaith o ddeuoli'r A465—ymrwymiad hirsefydlog gan Lywodraeth Cymru—ac yn sicrhau bod yr ystod lawn o fanteision yn cael eu gwireddu ar gyfer y rhanbarth. Bydd yn cwblhau ffordd barhaus o safon uchel amgen i’r M4, yn gwella'r cyswllt gogleddol hanfodol ar draws gogledd y Cymoedd ar gyfer metro de Cymru, yn darparu mynediad dibynadwy i'r canolfannau metro ac yn cyfrannu at newid dulliau teithio. Bydd y cynllun yn gwella hygyrchedd swyddi, gwasanaethau cyhoeddus allweddol a chyfleusterau ar gyfer teithio llesol yn y rhanbarth.