Part of the debate – Senedd Cymru am 5:10 pm ar 17 Tachwedd 2020.
Mae cwblhau'r broses o gaffael y model buddsoddi cydfuddiannol arloesol hon yn llwyddiannus yn dangos yr hyn y gall Cymru ei gyflawni mewn cyfnod anodd pan fyddwn yn mynd i'r afael â heriau gyda chreadigrwydd. Yn wir, dyma'r prosiect partneriaeth cyhoeddus-preifat cyntaf o'r raddfa hon i'w lofnodi yn y DU ers yr achosion cyntaf o COVID-19. A dyma'r prosiect cyhoeddus-preifat cyntaf ar y raddfa hon lle cwblhawyd trafodaethau o bell, ac mae'r datblygiadau arloesol hyn yn dangos Cymru'n arwain y ffordd.
Caiff ystod eang o fanteision cymunedol hefyd eu cyflawni drwy'r cynllun, gan gefnogi amcanion tasglu'r Cymoedd. Mae'r manteision hyn yn cynnwys targedau contractiol ar gyfer hyfforddiant a swyddi i bobl leol, a chyfleoedd o ran y gadwyn gyflenwi leol. Amcangyfrifir y bydd £400 miliwn o wariant prosiectau yng Nghymru, gyda £170 miliwn yn rhanbarth Blaenau'r Cymoedd, yn cynhyrchu gwerth rhagamcanol o £675 miliwn ar gyfer economi ehangach Cymru.
Mae sicrhau'r manteision gorau o ran cyflogi pobl ifanc a datblygu sgiliau yn allweddol i'n blaenoriaethau ar gyfer yr ymdrech ailadeiladu. Bydd ail-ddeuoli'r A465 yn darparu dros 120 o brentisiaethau, 60 o hyfforddeiaethau, dros 320 o interniaethau a thros 1,600 o gymwysterau cenedlaethol, gan adael gwaddol o sgiliau gwell. Adlewyrchir ein hymrwymiad i ddatgarboneiddio hefyd yn y dyfarniad contract. Bydd carbon yn sgil adeiladu yn cael ei wrthbwyso drwy blannu 30,000 o goed ychwanegol. Bydd arolygon ecolegol cyn adeiladu a chlirio safleoedd yn dechrau bron ar unwaith, a bydd y gwaith adeiladu'n dechrau o ddifrif y gwanwyn nesaf. Disgwylir i'r gwaith adeiladu gael ei gwblhau erbyn canol 2025.
Gan droi nawr at ein rhaglen addysg: ddiwedd mis Medi, sefydlodd Llywodraeth Cymru Gwmni Partneriaeth Addysg Cymru, a adwaenir fel WEPCo. Mae WEPCo yn fenter ar y cyd rhwng Meridiam, ein partner cyflenwi yn y sector preifat, a'r sector cyhoeddus. Bydd WEPCo yn gyfrifol am hwyluso'r gwaith o gynllunio a darparu hyd at £500 miliwn o fuddsoddiad ychwanegol mewn cyfleusterau addysgol newydd gan ddefnyddio'r contract model buddsoddi cydfuddiannol safonol. Ar hyn o bryd mae tua 30 o ysgolion a cholegau ar y gweill yn y rhaglen i'w cyflenwi dros y saith mlynedd nesaf—buddsoddiad hollbwysig yng nghenedlaethau ein dyfodol yn sgil cyni, a ddarperir yn ystod pandemig na fyddai wedi bod yn bosibl heb y model ariannu hwn. Caiff pob prosiect ei dendro'n gystadleuol gan WEPCo, drwy lwyfannau fel GwerthwchiGymru, gan ddarparu cyfleoedd i gontractwyr adeiladu a'r gadwyn gyflenwi ehangach gan sicrhau'r manteision gorau o ran cyfleoedd gwaith i bobl yng Nghymru. Mae'n ofynnol yn unol â'r contract i WEPCo ymrwymo i lefelau gofynnol o ymgysylltu â'r gadwyn gyflenwi leol ymhob prosiect.
Bydd model WEPCo yn canolbwyntio ar gyflawni yn unol â pholisïau ac agendâu allweddol y Llywodraeth, gan gynnwys Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015, Cwricwlwm Cymru, a'r ymgyrch i fod yn garbon niwtral, yn ogystal â chydymffurfio â'r cod ymarfer ar gyflogaeth foesegol. Mae perfformiad ac amcanion WEPCo yn cael eu rheoli a'u monitro gan fwrdd partneriaeth strategol sy'n cynnwys Llywodraeth Cymru, awdurdodau lleol a sefydliadau addysg bellach. Caiff cyfres lawn o fanteision cymunedol hefyd eu cyflawni. Mae WEPCo eisoes wedi dechrau gweithio gyda Phrifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant i gyflwyno academi partneriaeth addysg Cymru, adnodd ar-lein i wella sgiliau a gallu yn y sector.
Mae gwaith wedi dechrau ar yr ysgol model buddsoddi cydfuddiannol gyntaf, ysgol gyfan newydd yn Sir y Fflint, a fydd yn cydleoli dwy ysgol bresennol ar un safle, gan sicrhau bod arian cyhoeddus yn cael ei ddefnyddio'n effeithlon ochr yn ochr â sicrhau manteision cymunedol. Mae Llywodraeth Cymru hefyd yn parhau i gefnogi Ymddiriedolaeth GIG Prifysgol Felindre i ddarparu canolfan ganser newydd Felindre. Mae'r model clinigol hwn, a gynigir gan yr ymddiriedolaeth ar gyfer y cynllun, yn destun cyngor annibynnol ar hyn o bryd, a disgwylir canlyniad y cyngor erbyn diwedd mis Tachwedd. Wrth gwrs, byddwn yn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r Aelodau am y cynnydd.
Un enghraifft bwysig o arloesedd yn y model buddsoddi cydfuddiannol yw cyfranddaliad sector cyhoeddus o hyd at 20 y cant o'r cyfalaf risg ym mhob cynllun. Mae'r cyfranddaliad hwn yn darparu tryloywder gan sicrhau bod y sector cyhoeddus yn cyfranogi mewn unrhyw elw ar fuddsoddiad. Mae Banc Datblygu Cymru yn defnyddio offerynnau ariannol i wneud cyfraniadau sylweddol mewn meysydd sy'n ymestyn y tu hwnt i gymorth busnes, gan gynnwys tai, ynni a thwristiaeth. Felly, o ystyried ei arbenigedd, penderfynodd Llywodraeth Cymru y byddai Banc Datblygu Cymru yn gweithredu fel cyfranddaliwr y sector cyhoeddus yng nghynlluniau'r model buddsoddi cydfuddiannol, gan gynnal diwydrwydd dyladwy ar fuddsoddiadau arfaethedig a rheoli'r buddsoddiadau dros y tymor hir. Fel cyfranddaliwr y sector cyhoeddus, bydd y banc yn enwebu cyfarwyddwr i fwrdd pob cwmni prosiect y model buddsoddi cydfuddiannol. Bydd Banc Datblygu Cymru'n monitro perfformiad pob buddsoddiad, yn goruchwylio'n arbenigol ac yn sicrhau y rhoddir rhybudd cynnar ynghylch materion posibl a allai effeithio ar y gallu i adennill buddsoddiadau.
Felly, i gloi, mae defnyddio'r model buddsoddi cydfuddiannol yn llwyddiannus yn gwneud cyfraniad pwysig i'n hymdrechion i roi hwb cychwynnol i'r adferiad economaidd. Bydd y model hefyd yn sicrhau manteision cymunedol eang, tra bo'n meithrin gwerth dros £1 biliwn o fuddsoddiad sydd ei angen ar frys mewn seilwaith cyhoeddus yng Nghymru. Wrth lunio'r cytundebau arloesol hyn, mae Cymru ar flaen y gad o ran ymdrechion rhyngwladol i foderneiddio'r cysyniad o bartneriaeth cyhoeddus-preifat.