6. Datganiad gan y Dirprwy Weinidog a'r Prif Chwip: Nodi Wythnos Rhyngffydd

Part of the debate – Senedd Cymru am 5:45 pm ar 17 Tachwedd 2020.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Laura Anne Jones Laura Anne Jones Conservative 5:45, 17 Tachwedd 2020

(Cyfieithwyd)

Diolch, Dirprwy Weinidog. Croesawaf y datganiad hwn heddiw ar Wythnos Rhyngffydd, sy'n ceisio datblygu'n fwy y berthynas dda a'r partneriaethau gwaith rhwng pobl o wahanol grefyddau a chredoau. Dros genedlaethau, rydym ni wedi datblygu democratiaeth amlhiliol, aml-ffydd lwyddiannus. Mae'r wythnos hon yn ganolbwynt ar gyfer gweithgarwch rhyngffydd, fel bod mwy o bobl yn ymwybodol o'i bwysigrwydd ac yn gallu cymryd rhan. Bob blwyddyn, mae Wythnos Rhyngffydd yn dechrau ar Sul y Cofio. Mae hyn yn arwyddocaol, oherwydd dylem ni gofio bob amser gyfraniad pobl a ddaeth o wledydd sydd bellach yn rhan o'r Gymanwlad i ymladd drosom ni. Daeth un miliwn a hanner o wirfoddolwyr o is-gyfandir India, 15,000 o wirfoddolwyr o India'r Gorllewin, 5,000 o ddynion o Affrica.

Yn y dyddiau hyn o gynnydd mewn rhagfarn hiliol a gwahaniaethu, mae'n iawn cymryd yr amser i fyfyrio ar y ffaith hon. Mewn mynwentydd ledled y byd mae beddi pobl o bob hil a ffydd, neu ddim ffydd, a fu'n ymladd ochr yn ochr â'i gilydd i amddiffyn y rhyddid yr ydym ni'n ei fwynhau heddiw. Mae Wythnos Rhyngffydd yn dathlu ac yn datblygu mwyfwy y cyfraniad y mae cymunedau ffydd penodol yn parhau i'w wneud i'w cymdogaethau ac i gymdeithas ehangach. Mae cynnydd yn bendant yn cael ei wneud. Yn yr arolwg cenedlaethol diweddaraf i Gymru, cytunodd 75 y cant eu bod yn perthyn i'w hardal bellach—maen nhw'n teimlo eu bod yn perthyn i'w hardal—a bod pobl o wahanol gefndiroedd yn cyd-dynnu'n dda â'i gilydd, gan drin ei gilydd â pharch. Mae hyn wedi codi o 52 y cant y flwyddyn flaenorol.

Ond mae problemau'n parhau o hyd. Mae troseddau casineb yn broblem gynyddol yn y DU, ac yn anffodus nid yw Cymru'n eithriad. Cofnododd heddluoedd yng Nghymru a Lloegr gynnydd o 3 y cant yn nifer yr achosion o droseddau casineb crefyddol a gofnodwyd yn 2018-19. Er bod y rhan fwyaf o droseddau casineb crefyddol yn cael eu cynnal yn erbyn Mwslimiaid, mae'r cynnydd mewn gwrthsemitiaeth yn bryder mawr, wrth i nifer y digwyddiadau a gofnodwyd yn erbyn Iddewon ddyblu rhwng 2018 a 2019. Er ei bod yn debygol bod y cynnydd mewn troseddau casineb wedi'i ysgogi gan welliannau mewn gwaith cofnodi gan yr heddlu ac ymwybyddiaeth gynyddol o droseddau casineb, nid oes amheuaeth nad yw'r broblem yn gwaethygu.

Mae Wythnos Rhyngffydd yn rhan hanfodol o gynyddu dealltwriaeth rhwng pobl o gredoau crefyddol ac anghrefyddol. Mae grwpiau ffydd wedi eu dwyn at ei gilydd i ateb yr her a gyflwynwyd gan y pandemig coronafeirws. Maen nhw wedi estyn allan i helpu'r henoed a'r rhai sydd fwyaf mewn perygl, fel menywod beichiog a phobl â chyflyrau cronig yn ein cymunedau. Drwy wneud hynny, maen nhw'n darparu cymorth y mae mawr ei angen i'r rhai sy'n agored i niwed, gan fynd i'r afael â'r unigrwydd a'r ynysigrwydd a ddaw yn sgil rheoliadau cyfyngiadau symud. Enghraifft anhygoel o hyn yr es i i ymweld â hi oedd Feed Newport ym Mhilgwenlli yng Nghasnewydd. Roedd yn werth mynd draw, Dirprwy Weinidog, i weld yr hyn maen nhw'n ei wneud. Nid dim ond darparu bwyd i bobl maen nhw; mae cymaint o wasanaethau eraill maen nhw wedi eu cynnwys yn hynny. Mae'n sicr yn rhywbeth sy'n werth ei weld ac yn rhywbeth i'w gyflwyno ledled Cymru.

Mae dod â chymunedau at ei gilydd yn rhan allweddol o'r Wythnos Rhyngffydd, ac rwy'n llwyr gefnogi ei bwriad i hybu gwell dealltwriaeth a gwell perthynas rhwng cymunedau ffydd yng Nghymru. Byddwn ni i gyd yn gryfach os byddwn yn gweithio gyda'n gilydd, yn chwarae gyda'n gilydd ac yn byw gyda'n gilydd. Diolch.