Part of 1. Cwestiynau i Weinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig – Senedd Cymru am 1:30 pm ar 18 Tachwedd 2020.
Diolch. Nid oes gan Lywodraeth Cymru unrhyw bwerau penodol i reoli gwerthiant a’r defnydd o dân gwyllt yng Nghymru. Rwyf am i ddeddfwriaeth tân gwyllt y DU gael ei thynhau a hoffwn weld mwy o ymwybyddiaeth ymhlith y cyhoedd o'r trallod y gall defnydd anghyfrifol o dân gwyllt ei achosi i anifeiliaid. Rwyf wedi galw am gamau gweithredu ledled Prydain ar hyn cyn gynted â phosibl ac rwyf wedi gofyn am gyfarfodydd gyda fy swyddogion cyfatebol yn Llywodraethau’r Alban a’r DU er mwyn bwrw ymlaen â hyn.