Mercher, 18 Tachwedd 2020
Cyfarfu'r Senedd yn y Siambr a thrwy gynhadledd fideo am 13:29 gyda'r Llywydd (Elin Jones) yn y Gadair.
Croeso, bawb, i'r Cyfarfod Llawn, a chyn i ni ddechrau, dwi eisiau nodi ychydig o bwyntiau. Cynhelir y cyfarfod hwn ar ffurf hybrid, gyda rhai Aelodau yn Siambr y Senedd ac eraill yn ymuno drwy...
Felly, yr eitem gyntaf ar ein hagenda ni'r prynhawn yma yw'r cwestiynau i Weinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig, ac mae'r cwestiwn cyntaf gan Hefin David.
1. Pa asesiad y mae'r Gweinidog wedi'i wneud o effaith tân gwyllt a werthir mewn siopau ar les anifeiliaid yng Nghymru? OQ55887
2. Beth mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i leihau'r perygl o lifogydd yn y Rhondda? OQ55863
Llefarydd y Ceidwadwyr, Janet Finch-Saunders.
3. A wnaiff y Gweindiog roi diweddariad am y cynllun Arbed yn Arfon? OQ55852
4. Beth mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i wella bioamrywiaeth? OQ55881
5. A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am y terfyn maint dal ar gyfer pysgod cregyn yng Nghymru? OQ55883
6. Pa gymorth ariannol sydd ar gael gan Lywodraeth Cymru i ddinasyddion Cymru y mae llifogydd a difrod dŵr yn effeithio'n rheolaidd ar eu heiddo ar gyfer atal a lliniaru effeithiau...
7. Beth yw dadansoddiad diweddaraf Llywodraeth Cymru o effeithiau COVID-19 ar ei pholisïau ar gyfer gwelliannau amgylcheddol yng Nghymru? OQ55876
8. A wnaiff y Gweinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am ddull Llywodraeth Cymru o ymdrin â pharthau perygl nitradau ledled Cymru? OQ55869
Yr eitem nesaf yw cwestiynau i'r Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol, ac mae'r cwestiwn cyntaf gan Joyce Watson.
1. A wnaiff y Gweinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am y rhaglen ôl-osod er mwyn optimeiddio? OQ55882
2. Pa fesurau y bydd y Gweinidog yn eu hyrwyddo ar draws Llywodraeth Cymru i liniaru tlodi plant yn Ogwr? OQ55854
Cwestiynau nawr gan lefarwyr y pleidiau. Llefarydd Plaid Cymru, Delyth Jewell.
3. A wnaiff y Gweinidog roi diweddariad ar gynlluniau Llywodraeth Cymru i fynd i'r afael ag ail gartrefi ar draws Cymru? OQ55860
4. Pa ymdrechion y mae Llywodraeth Cymru yn eu gwneud i sicrhau nad yw pobl ifanc mewn ardaloedd gwledig yn cael eu prisio allan o'u marchnadoedd tai lleol? OQ55877
5. A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am ddarparu gwasanaethau cyhoeddus lleol yn sir Benfro? OQ55858
6. A wnaiff y Gweinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am nifer y bobl sy'n cysgu ar y stryd yng Ngogledd Cymru? OQ55857
7. A wnaiff y Gweinidog amlinellu strategaeth Llywodraeth Cymru ar gyfer cyflawni'r agenda ddatgarboneiddio yn y sector tai cymdeithasol? OQ55865
8. Pa gynnydd sydd wedi'i wneud ers 2016 i wella ansawdd stoc tai Cymru? OQ55867
Yr eitem nesaf yw'r ddadl ar Gyfnod 4 y Bil Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru). Felly, peidiwch ag eistedd i lawr, Weinidog, chi sydd yn cyflwyno'r eitem yma. Felly, Julie James.
Yr eitem nesaf, felly, yw'r cwestiynau amserol, ond does dim wedi cael eu dewis ar gyfer heddiw.
A'r datganiadau 90 eiliad, felly, sydd nesaf. Mae'r datganiad cyntaf gan Jenny Rathbone.
Detholwyd y gwelliant canlynol: gwelliant 1 yn enw Neil Hamilton.
Eitem 7 ar yr agenda yw'r ddadl ar adroddiad y Pwyllgor Diwylliant, y Gymraeg a Chyfathrebu, effaith COVID ar dreftadaeth, amgueddfeydd ac archifau. Galwaf ar Gadeirydd y pwyllgor i wneud y...
Detholwyd y gwelliannau canlynol: gwelliant 1 yn enwau Gareth Bennett a Mark Reckless, gwelliannau 2 a 4 yn enw Rebecca Evans, a gwelliant 3 yn enw Darren Millar. Os derbynnir gwelliant 1, bydd...
Mae'r bleidlais gyntaf, felly, ar Fil Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru), ar Gyfnod 4 y Bil hynny. Dwi'n galw am bleidlais ar y cynnig, a gyflwynwyd yn enw Julie James. Agor y bleidlais....
Rydyn ni'n symud nawr tuag at y ddadl fer. Mae'r ddadl fer y prynhawn yma i'w chyflwyno gan Jayne Bryant.
A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am hawliau datblygu a ganiateir yng Nghymru yn sgil y pandemig COVID-19?
A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am ymdrechion Llywodraeth Cymru i fynd i'r afael â thlodi plant yng Nghymru?
Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i helpu i ddarparu morlyn llanw ym Mae Abertawe?
Senedd Cymru (Saesneg: Welsh Parliament) neu'r Senedd yw'r corff datganoledig sy'n cael ei ethol yn ddemocrataidd i drafod polisïau ac sy'n cymeradwyo deddfwriaeth sy'n ymwneud â Chymru. Rhan o'i waith yw dwyn Llywodraeth Cymru i gyfrif. Rhwng mis Mai 1999 a mis Mai 2020, enw'r sefydliad oedd Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Saesneg: National Assembly for Wales). – Wicipedia