Part of 1. Cwestiynau i Weinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig – Senedd Cymru am 1:55 pm ar 18 Tachwedd 2020.
Fe awgrymoch chi yn y pwyllgor wrth gwrs, fel rydych newydd ei ailadrodd, y gallai fod rhaid i chi dynnu milfeddygon oddi ar brofion TB. Mae’n anochel y byddai hynny'n golygu llai o brofi, ac yn golygu hefyd wrth gwrs ei bod yn fwy tebygol na fyddai profion yn cael eu cwblhau mewn modd amserol, sydd wedyn yn arwain at y posibilrwydd y gallai rhai o’n ffermwyr wynebu mwy o gyfyngiadau ar symud. Felly, mae effeithiau canlyniadol enfawr yma, ac rwy'n meddwl tybed beth yw eich asesiad, efallai, o’r effaith y byddai symud y capasiti hwnnw'n ei chael ar eich rhaglen brofi TB? A fyddai ailgyfeirio capasiti milfeddygon oddi wrth TB, er enghraifft, yn golygu y byddai angen mwy o hyblygrwydd i ganiatáu i ffermwyr beidio â phrofi mor aml, gadewch inni ddweud? Efallai y gallech ddweud wrthym beth yn union rydych yn ei feddwl o hynny, oherwydd yn amlwg, rwy'n siŵr y byddech yn cytuno na ddylid cosbi ffermwyr am rywbeth sy'n amlwg y tu hwnt i'w rheolaeth.