Part of 1. Cwestiynau i Weinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig – Senedd Cymru am 1:32 pm ar 18 Tachwedd 2020.
Diolch am eich cwestiwn, Hefin David. A chredaf ei bod yn iawn cydnabod—. Yn amlwg, nid anifeiliaid yn unig sy'n profi trallod, ond fe gyfeirioch chi at unigolion digartref a phobl sy'n dioddef o anhwylder straen wedi trawma hefyd. Credaf fod hyn yn rhywbeth sy'n cael cryn dipyn o gefnogaeth wleidyddol a chyhoeddus, ac rwy’n fwy na pharod i edrych ar yr ymgyrch y cyfeiriwch ati. Credaf ei bod yn bwysig iawn fod Llywodraeth y DU yn deall ein pryderon mewn perthynas â'u deddfwriaeth, ac fel y soniais yn fy ateb i chi, rwyf wedi gofyn am gyfarfod tairochrog. Ysgrifennais yn ôl ar ddechrau'r flwyddyn mewn gwirionedd—ym mis Ionawr, rwy’n credu—i drefnu cyfarfod, ond gyda phandemig COVID, mae arnaf ofn i'r gwaith hwnnw ddod i stop. Ond mae wedi ailddechrau bellach, felly rwy'n obeithiol y bydd modd inni fwrw ymlaen â phethau’n gyflym iawn.