Bioamrywiaeth

Part of 1. Cwestiynau i Weinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig – Senedd Cymru am 2:02 pm ar 18 Tachwedd 2020.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Joyce Watson Joyce Watson Labour 2:02, 18 Tachwedd 2020

(Cyfieithwyd)

Diolch am eich ateb, Weinidog, ac rwy'n falch iawn o weld bod Llywodraeth Cymru bellach wedi dewis y safleoedd cyntaf ar gyfer y goedwig genedlaethol, ac mae nifer o'r rheini yn fy etholaeth i, Canolbarth a Gorllewin Cymru. Roedd yn galonogol gweld bod nifer uchel o bobl yn awyddus i ymgymryd â’r gwaith o blannu coetiroedd newydd, gyda mwy na 350 yn datgan diddordeb yn y prosiectau hynny. Bydd gwella a chreu coetir, ynghyd â'i gysylltu ledled Cymru, rwy'n siŵr, o fudd mawr i natur ac i bobl. Weinidog, pa asesiad a wnaethoch o'r modd y gallai'r goedwig genedlaethol newydd helpu i wella bioamrywiaeth a helpu i wyrdroi'r lleihad yn niferoedd llawer o rywogaethau yn ddiweddar?