Part of 1. Cwestiynau i Weinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig – Senedd Cymru am 1:58 pm ar 18 Tachwedd 2020.
Mae hyn yn rhan o'n cynlluniau wrth gefn, a byddwch wedi gweld bod Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi ein cynllun ar gyfer diwedd y cyfnod pontio yr wythnos diwethaf. Fel y dywedwch, mae'n union fel ein bwyd ni, onid ydyw? Mae angen bwyd anifeiliaid arnom hefyd. Felly, unwaith eto, mae hyn yn rhan o'n cynlluniau wrth gefn, a byddwn yn trafod, yn amlwg, gyda'n rhanddeiliaid yng nghyfarfod bord gron nesaf y rhanddeiliaid—mae hon yn eitem y byddwn yn parhau i'w thrafod, oherwydd, fel y dywedwch, ychydig dros 40 diwrnod sydd i fynd bellach hyd nes y byddwn yn gadael yr Undeb Ewropeaidd.