Part of 1. Cwestiynau i Weinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig – Senedd Cymru am 1:59 pm ar 18 Tachwedd 2020.
Diolch yn fawr. Mae etholwyr yn y pedair ardal yna—yn Carmel, y Fron, Deiniolen a Dinorwig—wedi bod yn hynod amyneddgar, ond erbyn hyn, mae angen symud ymlaen i wneud y gwaith sydd wedi'i addo. Dwi wedi bod yn codi'r mater hwn efo chi ers haf 2017. Ar y cychwyn, roedd y cwmni'n gwadu bod yna broblemau, ond fe wnaethoch chi—a dwi'n ddiolchgar iawn am hynny—gynnal nid un, ond dau adolygiad annibynnol, gyda'r ail yn dod i'r casgliad mai safon wael y crefftwaith oedd yn gyfrifol am achosi lleithder difrifol a difrod i'r toeau a'r waliau. Mae yna 40 a mwy o etholwyr yn dal i aros i'r gwaith ddigwydd, felly ar ôl i chi edrych yn fanwl ar yr adroddiad yma eto, beth fydd y camau nesaf?