Part of 1. Cwestiynau i Weinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig – Senedd Cymru am 2:16 pm ar 18 Tachwedd 2020.
Diolch. Mae'r pandemig wedi tarfu ar bethau. Fodd bynnag, mae hefyd wedi ein gorfodi i fyfyrio ar y math o ddyfodol rydym yn dymuno’i gael i Gymru. Cyhoeddwyd 'Ail-greu ar ôl COVID-19: yr heriau a’r blaenoriaethau' gennym y mis diwethaf, i nodi ein hagenda ar gyfer adferiad gwyrdd a chyflymu'r newid i economi carbon isel.