Part of 2. Cwestiynau i'r Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol – Senedd Cymru am 2:22 pm ar 18 Tachwedd 2020.
Diolch yn fawr iawn, Joyce. Gwnaf. I ddechrau, roedd £9.5 miliwn ar gael yn y flwyddyn ariannol hon, ond ers hynny, rydym wedi penderfynu cynyddu'r gyllideb i £19.5 miliwn. Rwy'n ddiolchgar iawn i'm cyd-Aelod, Rebecca Evans, am y gallu i wneud hynny. Mae pum cynllun wedi sicrhau cefnogaeth, gan gynnwys un consortiwm mawr, sy'n cynnwys 26 o landlordiaid cymdeithasol. Mae’r cynlluniau ym mhob rhan o Gymru, a byddant yn treialu gwahanol atebion, gan gynnwys ar gyfer eiddo nad yw ar y grid nwy.