Part of 2. Cwestiynau i'r Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol – Senedd Cymru am 2:28 pm ar 18 Tachwedd 2020.
Diolch i'r Gweinidog am ei hymateb. Ac ar frig cynllun gweithredu pwyslais ar incwm Llywodraeth Cymru ar gyfer tlodi plant, nod amcan 1 yw sicrhau bod teuluoedd yng Nghymru yn cael eu cynorthwyo i hawlio'r holl gymorth ariannol y mae ganddynt hawl iddo. Nawr, mae hyn yn hanfodol, gan fod pob punt na chaiff ei hawlio'n golygu bod y teulu hwnnw bunt yn dlotach, a phunt yn llai yn dod yn ôl i'r teulu hwnnw a'r gymuned honno yng Nghymru. A dweud y gwir, mae'n bunt y mae Trysorlys y DU yn ei chadw'n ôl. Felly, a gaf fi ofyn i'r Gweinidog beth y gall ei wneud i hybu hawliadau budd-daliadau cyn y Nadolig ymhlith teuluoedd a phlant yng Nghymru ac Ogwr sydd angen y gefnogaeth honno? A sut y bydd yn datblygu hyn ymhellach yn y flwyddyn newydd? Ac a oes unrhyw obaith y gallai Llywodraeth y DU helpu gydag ymgyrch ledled y DU i hybu hawliadau budd-daliadau?