Marchnadoedd Tai Gwledig

Part of 2. Cwestiynau i'r Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol – Senedd Cymru am 3:00 pm ar 18 Tachwedd 2020.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Julie James Julie James Labour 3:00, 18 Tachwedd 2020

(Cyfieithwyd)

Diolch, Adam. Rydym wedi gwneud y buddsoddiad mwyaf erioed o £2 biliwn mewn tai fforddiadwy yn ystod y tymor Senedd hwn. Mae'r buddsoddiad yn cael effaith sylweddol ar ddarpariaeth tai sy'n diwallu anghenion gwirioneddol cymunedau Cymru, ac rydym ar y trywydd cywir i gyflawni ein targed uchelgeisiol o 20,000 o dai fforddiadwy y tymor hwn.