Gwella Ansawdd Tai

Part of 2. Cwestiynau i'r Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol – Senedd Cymru am 3:15 pm ar 18 Tachwedd 2020.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of David Melding David Melding Conservative 3:15, 18 Tachwedd 2020

(Cyfieithwyd)

Rwy'n falch iawn ein bod wedi gweld gwelliannau mawr yn ansawdd tai cymdeithasol, ond mae rheoleiddio gwael wedi bod, o ran y rheoliadau eu hunain—y rheoliadau adeiladu—a'r broses o'u harchwilio mewn llawer o'r stoc tai preifat, yn enwedig mewn crynoadau o dai mwy dwys. Ac rwy'n meddwl tybed pa mor hyderus ydych chi na fyddwn yn gweld, yn y 2020au, pan fyddwn yn wynebu galwadau mawr i adeiladu mwy o dai, y math o broblemau rydym wedi'u cael ers troad y ganrif yn ansawdd yr hyn roedd llawer o bobl yn ei feddwl oedd y tai o'r ansawdd gorau a oedd ar gael iddynt.