Part of 2. Cwestiynau i'r Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol – Senedd Cymru am 3:07 pm ar 18 Tachwedd 2020.
Diolch i chi am yr ymateb hwnnw, Weinidog. Mae ffigurau gan Gyngor Sir Penfro wedi dangos, yn ystod y flwyddyn ddiwethaf, rhwng mis Ebrill 2019 a mis Ebrill 2020, fod cyfanswm o 72 y cant o holl wastraff cartrefi wedi'i ailgylchu, sydd 10 y cant yn fwy na'r flwyddyn flaenorol. I ychwanegu at hynny, mae un o weithwyr y cyngor, Amanda Absalom-Lowe o Hwlffordd, wedi'i henwi gan BBC Radio 4 fel un o 30 o fenywod ysbrydoledig y mae eu gwaith yn gwneud gwahaniaeth cadarnhaol i'r amgylchedd. Weinidog, a wnewch chi ymuno â mi i longyfarch Amanda Absalom-Lowe a Chyngor Sir Penfro am y cyflawniad hwn, yn enwedig a hithau wedi bod yn flwyddyn anodd i gynghorau ledled Cymru? Yng ngoleuni'r llwyddiant hwn, a allwch chi ddweud wrthym beth y gall Llywodraeth Cymru ei wneud i helpu i sicrhau bod y cynnydd da hwn yn cael ei gynnal a'i ddatblygu ar gyfer y dyfodol?