Part of the debate – Senedd Cymru am 3:40 pm ar 18 Tachwedd 2020.
Fel y gwyddoch, Lywydd, ym mis Medi, cyhoeddodd Llywodraeth y DU, heb ymgynghori â Llywodraeth Cymru, awdurdodau lleol, byrddau iechyd na thrigolion, a heb ddarparu cyllid ychwanegol ar gyfer Cyngor Sir Penfro na Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda, y byddai tua 200 o geiswyr lloches yn cael eu cartrefu yng nghyn-wersyll milwrol Penalun ger Dinbych-y-pysgod. Mae bellach yn gartref i oddeutu 250 o ddynion.
Afraid dweud nad yw gwersyll milwrol byth yn lle addas i gartrefu pobl sydd wedi ffoi rhag gormes a rhyfel, pobl sydd wedi dioddef caledi a thrawma na ellir ei ddychmygu ac wedi'u gwahanu oddi wrth eu teuluoedd, yn enwedig hen wersyll wedi dirywio fel Penalun. Rwy'n gwybod ei fod yn hen, oherwydd arferai fy nhad hyfforddi recriwtiaid yno pan oedd yn sarjant staff. Roedd yn eithaf llwm bryd hynny, ac yn ôl pob sôn, mae'r amodau'n warthus yno erbyn hyn. Mae'n peryglu iechyd corfforol a meddyliol y dynion a'u hurddas fel bodau dynol. Ac eto, dro ar ôl tro mae'r Swyddfa Gartref wedi methu mynd i'r afael â'r amodau byw gwael ym Mhenalun. Mae arnaf ofn ei fod yn fater o allan o olwg, allan o feddwl, ac mae'n rhan o bolisi amgylchedd gelyniaethus ehangach yr Ysgrifennydd Cartref sy'n cael ei ddefnyddio i erlid newydd-ddyfodiaid agored i niwed i Brydain. Yn ôl adroddiadau a ddatgelwyd yn answyddogol y penwythnos diwethaf, mae hyd yn oed swyddogion y Swyddfa Gartref yn pryderu bod lles plant yn cael ei beryglu gan y bwriad i erlyn ffoaduriaid am droseddau mewnfudo.
Yn y cyfamser, pobl dda sir Benfro sy'n gofalu am y dynion hyn, heb ddim arian a dim arbenigedd. Mae prosesu a gofalu am nifer mor fawr o bobl sy'n ceisio lloches yn y ffordd hon yn sefyllfa ddigynsail yng Nghymru, heb sôn am sir Benfro, heb sôn am bentref bach. Rydym yn siarad am le gydag un siop, er mwyn popeth. Nid oes gennym gapasiti na gallu i ddarparu ar gyfer y math hwn o gyfleuster yng ngorllewin Cymru.
Ceir pedair canolfan wasgaru yng Nghymru—Caerdydd, Abertawe, Casnewydd a Wrecsam. A gwn o fy ngwaith gyda'r grŵp trawsbleidiol ar fasnachu mewn pobl fod ganddynt lwybrau a seilwaith sefydledig i ofalu am geiswyr lloches, i roi sylw i'w hanghenion llety, gofal iechyd, cymorth bugeiliol a diwylliannol, yn ogystal â chyngor cyfreithiol, a'r holl anghenion eraill. Nid oes unrhyw beth tebyg i hynny, na chyllid ar ei gyfer, yn sir Benfro. Wedi dweud hynny, er yr holl anawsterau, mae pobl leol a darparwyr gwasanaethau cyhoeddus yn gwneud eu gorau glas i ofalu am y dynion hyn. Mae bwrdd iechyd Hywel Dda wedi gweithio'n ddiflino i drefnu a darparu gwasanaethau gofal iechyd craidd ac estynedig. Ar yr un pryd, maent yn wynebu her ddigynsail pandemig byd-eang. Mae Cyngor Sir Penfro wedi sefydlu gwefan i roi'r wybodaeth ddiweddaraf i bobl leol am yr hyn sy'n digwydd yn y gwersyll, ac mae presenoldeb yr heddlu ym Mhenalun a Dinbych-y-pysgod wedi'i gynyddu i dawelu meddwl trigolion. Ac mae hynny ynddo'i hun, wrth gwrs, yn rhoi straen enfawr ar eu cyllidebau lleol, na chânt eu digolledu amdano gan Lywodraeth y DU.
Mae Llywodraeth Cymru yn parhau i weithio'n agos gyda phartneriaid lleol i leihau risgiau a sicrhau lles gorau pawb yr effeithir arnynt. Ac mae mudiadau gwirfoddol wedi cyflawni ein haddewid fel cenedl noddfa. Fel y gŵyr unrhyw un sydd wedi ymweld â sir Benfro erioed—ac ar ôl yr haf hwn, credaf fod hynny'n cynnwys o leiaf hanner poblogaeth Prydain—rydym yn bobl gynnes a chroesawgar. Mae'r mwyafrif helaeth o bobl leol wedi ymateb i orfodaeth y Swyddfa Gartref gyda thosturi a gofal. Mae rhai grwpiau lleol bellach yn cydlynu cymorth ar y safle i'r dynion, ac mae cynllun ar waith i brynu ffonau symudol. Mae'r Swyddfa Gartref yn mynd â ffonau ffoaduriaid wrth iddynt gyrraedd, ond maent yn hanfodol; maent yn galluogi'r ffoaduriaid i gysylltu â'u hanwyliaid, i siarad â chyfreithwyr os oes angen, a llawer o bethau eraill hefyd. Ond gyda'r ewyllys gorau yn y byd, nid yw'n sefyllfa gynaliadwy. Nid yw Penalun yn lleoliad addas ac ni all gorllewin Cymru, ar hyn o bryd, ddarparu'r cymorth a'r gofal cymhleth sydd ei angen ar y dynion hyn, a'r hyn y maent yn ei haeddu mewn gwirionedd. Nid yw'n deg i neb. Rhaid i'r Swyddfa Gartref ymyrryd nawr. Diolch.