Part of the debate – Senedd Cymru am 3:52 pm ar 18 Tachwedd 2020.
Hoffwn ofyn i'r Aelodau ddychmygu hyn: mae bom yn mynd i ffwrdd ac mewn eiliad mae eich bywyd wedi'i droi ben-i-waered. Mae rhyfel wedi torri allan ac mae ymladd yn eich stryd. Nid yw'r cymunedau yr arferech eu galw'n gartref yn ddiogel mwyach, ac mae eich bywyd chi, a bywydau eich teulu, mewn perygl. Mae gennych ddau ddewis: aros yn eich gwlad, peryglu eich bywyd a bywydau aelodau o'ch teulu, neu ffoi—gadael, mynd dramor i fyw os gallwch. Beth fyddech chi'n ei wneud? Gwn beth y byddwn i'n ei wneud pe bawn yn cael yr opsiwn hwnnw.
A dyna'r dewis a wynebir gan lawer o'r bobl sydd bellach ymhell o'u cartref yn sir Benfro. Wrth iddynt aros i'r Swyddfa Gartref wneud penderfyniadau, cânt eu cartrefu mewn amodau cyfyng a llaith mewn hen wersyll milwrol, tra bod rhai pobl yn honni eu bod yn gwybod eu bod yn twyllo neu'n anghyfreithlon, er gwaethaf y ffaith nad yw eu hachosion wedi'u clywed eto. Creulondeb yw gorfodi pobl sydd wedi dianc rhag rhyfel i fyw mewn canolfan filwrol. Mae'n arbennig o broblemus i'r rhai sydd wedi gweld creulondeb na ellir ei ddychmygu dan law milwyr yn eu gwledydd cartref.
Mae'r gwleidyddion ar yr asgell dde eithafol sy'n hoff iawn o gyfle i ymosod ar fewnfudwyr, ac sydd wedi godro'r digwyddiad hwn yn sych, yn aml yn cyfeirio at y ffaith bod ceiswyr lloches a mewnfudwyr yn cael cynnig llety tra bod miloedd o bobl yn byw ar y strydoedd. Ddwy flynedd yn ôl, canfu tîm Plaid Cymru yn San Steffan fod hyd at 66,000 o gyn-filwyr yn y DU naill ai'n ddigartref, yn dioddef problemau iechyd meddwl, neu yn y carchar. Dyna gondemniad damniol o'r modd y caiff personél milwrol eu trin yn y DU, ac mae ffigurau digartrefedd yng Nghymru hefyd yn warthus a dylid mynd i'r afael â hwy gyda llawer mwy o frys nag a welsom, nid yn unig am fod hyn yn rhoi arfau i'r asgell dde eithafol ymosod ar geiswyr lloches, ond oherwydd mai dyma'r peth iawn i'w wneud. Y peth iawn i'w wneud hefyd yw rhoi mynediad i bersonél y lluoedd arfog at y cymorth sydd ei angen arnynt, nid yn unig pan fyddant mewn gwasanaeth gweithredol, ond ar ôl gadael y fyddin fel y gallant addasu'n well i fywyd sifil.
Cyn belled â bod pobl ar y strydoedd a chyn belled â bod pobl sy'n gorfod mynd heb hanfodion fel bwyd yn ogystal â chysgod, bydd pobl yn teimlo'n ddig a byddant yn teimlo bod y system yn annheg. A byddwn yn cytuno, mae'r system yn annheg. Fel Llywodraeth, mae Llywodraeth Cymru'n rhannol gyfrifol am y system honno hefyd. Gall Llywodraeth Cymru wneud llawer mwy i ddylanwadu ar San Steffan i gael llety mwy addas i geiswyr lloches mewn lleoliadau mwy addas.
Fel y dywedais eisoes, mae'r bennod druenus hon wedi'i hysgogi gan bobl ag agendâu gwleidyddol clir. Mae un ohonynt wedi cyflwyno cyfres o welliannau di-glem i'r cynnig rydym yn ei drafod heddiw. Nawr nid wyf yn gwadu bod rhai o'r gwleidyddion hyn yn bobl hiliol ffiaidd cyn iddynt ddod i'r Senedd, ond mae rhai hefyd yn mentro'u lwc, yn straffaglu am fodd o barhau'n berthnasol a pharhau â'u gyrfaoedd. Mae pobl yn rhannu eu propaganda gwenwynig am geiswyr lloches ar-lein, i bobl sy'n ei chael hi'n anodd ac yn credu'r esboniadau hawdd hyn fod pobl o dramor yn dod yma i fanteisio ar y system fudd-daliadau wych hon y mae pawb ohonom yn gwybod amdani. Mae gan lawer o'r bobl hyn bob hawl i fod yn ddig gyda chymdeithas sydd wedi'u siomi hwy a'u teuluoedd. Yr hyn nad yw'n iawn yw'r ffordd y maent, gydag anogaeth, yn taro allan, ond maent yn taro allan yn erbyn y targed anghywir.
Rhaid inni fynd i'r afael â'r amodau sy'n caniatáu i wleidyddiaeth casineb dyfu, a'r Llywodraeth hon yn ogystal â San Steffan sy'n gyfrifol am hynny. Rwyf wedi fy nghalonogi gan y gwrthdystiadau a'r gefnogaeth ddi-ben-draw gan bobl leol, sydd wedi dangos y gall Cymru fod yn wlad dosturiol sy'n deall. Dyna'r Gymru rwyf am weld mwy ohoni, a dyna'r Gymru y byddaf yn parhau i weithio drosti.