Part of the debate – Senedd Cymru am 4:06 pm ar 18 Tachwedd 2020.
Diolch, Ddirprwy Lywydd. Hoffwn ddiolch i Helen Mary Jones, Joyce Watson a Leanne Wood, gyda chefnogaeth Mick Antoniw, John Griffiths a Llyr Gruffydd, am gyflwyno'r ddadl bwysig hon. A gaf fi ddiolch hefyd i'r Aelodau—heblaw un—sydd wedi cyfrannu'n adeiladol at y ddadl? Mae safbwynt Llywodraeth Cymru yn amlwg yn cyd-fynd â chynnig yr Aelodau. Ysgrifennodd y Prif Weinidog at y Gweinidog mewnfudo, Chris Philp, ar 9 Hydref, yn annog cau gwersyll hyfforddi Penalun. Codais y mater gyda'r Gweinidog mewnfudo ar 3 Tachwedd, a byddaf yn ei drafod eto gydag ef ar 25 Tachwedd, pan fyddwn yn cyfarfod i siarad yn benodol am wersyll Penalun. Yr wythnos diwethaf, cefais gyfarfod â rhanddeiliaid allweddol sy'n gweithio i fynd i'r afael â phroblemau sy'n codi yn sgil Penalun, ac roedd cytundeb unfrydol nad yw'r cyfleuster hwn yn addas at y diben. Yn y bôn, mae lleoli ceiswyr lloches yng nghanolfan filwrol Penalun yn anaddas, yn anghynaliadwy ac yn anniogel. Roedd y penderfyniad a wnaed gan y Swyddfa Gartref, heb ymgynghori na strategaeth glir i sicrhau bod anghenion y rhai a gâi eu cartrefu yn y ganolfan wedi'u diwallu, yn anghywir. Roedd y penderfyniad i beidio ag ymgysylltu'n ystyrlon â'r gymuned neu gyrff cyhoeddus yn anghywir, ac roedd y methiant i weithredu mesurau diogelu digonol i sicrhau bod y safle'n ddiogel ac yn addas hefyd yn anghywir.
Llywodraeth y DU sy'n gyfrifol am benderfyniadau sy'n ymwneud â'r system lloches a mewnfudo. Fodd bynnag, mae effaith y system honno ar gymunedau a gwasanaethau cyhoeddus Cymru yn ei gwneud yn gwbl briodol ei bod yn ymgynghori ac yn ymgysylltu'n llawn â ni ar y mater hwn, a cheisio trefniant sy'n adeiladu cydlyniant ac integreiddio cymunedol. Ni roddwyd gwybod i Lywodraeth Cymru am y cynigion hyn tan 11 Medi, a bryd hynny hyd yn oed, dywedwyd wrthym nad oedd penderfyniad wedi'i wneud ynglŷn ag a ddylid defnyddio'r gwersyll ai peidio. Ond 10 diwrnod yn ddiweddarach, roedd y gwersyll eisoes ar agor. Dylai Llywodraeth y DU fod wedi cynnal trafodaethau ystyrlon gyda thrigolion lleol, yr awdurdod lleol, y bwrdd iechyd lleol a Llywodraeth Cymru cyn penderfynu cartrefu ceiswyr lloches yng nghanolfan filwrol Penalun.
Mae ein pryderon ynghylch priodoldeb y llety a'r lleoliad sy'n cael eu defnyddio at y diben hwn wedi dwysáu dros yr wyth wythnos diwethaf ers i'r gwersyll agor. Mae perygl amlwg o ail-greu trawma i'r rhai sydd wedi dianc rhag gwrthdaro a rhyfel drwy eu cartrefu mewn canolfan filwrol. Mae'r gwasanaethau arbenigol sydd eu hangen i gefnogi ceiswyr lloches hefyd yn gyfyngedig yn y lleoliad hwn, fel y dywedwyd yn y ddadl hon. Mae'r safle ei hun yn creu risgiau diogelu cynhenid a risg o haint COVID-19, ac rydym yn anghytuno'n sylfaenol â'r Swyddfa Gartref; rydym yn dweud nad yw'r safle hwn yn cydymffurfio â mesurau COVID.
Rydym yn gweithio gyda'r holl bartneriaid perthnasol i sicrhau bod y pryderon hyn a materion iechyd cyhoeddus hanfodol yn cael eu cydnabod a'u hateb. Rydym wedi gwneud ceisiadau rhesymegol dro ar ôl tro i'r Swyddfa Gartref wneud newidiadau i ddiogelu iechyd a lles ceiswyr lloches a symudir i Benalun. Mae'r newidiadau'n warthus o araf yn cael eu gweithredu, os cytunir arnynt o gwbl. Nid yw cyrff cyhoeddus wedi cael unrhyw gymorth ariannol hyd yma gan y Swyddfa Gartref i ddarparu gwasanaethau ar adeg pan fo pwysau na welwyd ei debyg o'r blaen arnynt yn sgil problemau eraill fel COVID-19, fel y dywedodd Joyce Watson. Mae Llywodraeth Cymru ei hun wedi ymrwymo i'r weledigaeth y bydd Cymru'n dod yn genedl noddfa, a hoffwn atgoffa Mr Hamilton mai'r Cynulliad hwn, o ganlyniad i adroddiad a gyflawnwyd gan John Griffiths fel cadeirydd y pwyllgor—y pwyllgor trawsbleidiol hwnnw, y Pwyllgor Cydraddoldeb, Llywodraeth Leol a Chymunedau—ein bod mewn gwirionedd wedi cymeradwyo cynlluniau i wneud Cymru'n genedl noddfa. Roeddwn yn falch o gyfarfod â ffoaduriaid yn ystod yr Wythnos Ffoaduriaid yn gynharach eleni ym mis Mehefin i ystyried ein cynnydd gyda'r cynllun, i glywed eu barn ynglŷn â sut y gallwn symud ymlaen i sicrhau bod ffoaduriaid a cheiswyr lloches yn cael eu cefnogi'n llawn pan ddônt i Gymru.
A gaf fi fanteisio ar y cyfle i ddiolch i'n hawdurdodau lleol yng Nghymru sy'n croesawu eu cyfrifoldebau yn yr ardaloedd gwasgaru, a'r dinasoedd, y trefi, y prifysgolion a'r pentrefi hynny sy'n ymrwymo i egwyddorion y genedl noddfa yng Nghymru? A diolch i'r awdurdodau sydd hefyd yn ymateb i anghenion plant ar eu pen eu hunain sy'n ceisio lloches gyda chefnogaeth Llywodraeth Cymru. Mae ein gweledigaeth yn ymwneud â chefnogi pobl i ailadeiladu eu bywydau a gwneud cyfraniad llawn i gymdeithas Cymru. Mae'n allweddol fod pobl yn gallu cael gafael ar wasanaethau, eu bod yn cael eu diogelu rhag niwed a'u bod yn gallu dechrau eu taith integreiddio o'r diwrnod cyntaf y byddant yn cyrraedd Cymru, ond nid yw gwersyll Penalun yn caniatáu i hyn ddigwydd. Mae'r rhai sy'n cael eu cartrefu'n cael eu gorfodi i rannu cyfleusterau gydag unigolion nad ydynt yn eu hadnabod, pobl sy'n dod o gefndiroedd gwahanol iawn. Maent yn profi amgylchiadau sy'n peri straen, ac nid oes digon o adnoddau ar gyfer rheoli'r gwersyll i'w cefnogi yn y ffordd hon.
Mae lefel y gefnogaeth a gynigiwyd i'r rheini yn y gwersyll—pobl gynnes a chroesawgar sir Benfro—wedi creu argraff fawr arnaf, fel y mynegwyd y prynhawn yma. Gwnaeth Angela Burns y pwynt hwnnw ychydig wythnosau'n ôl yn y Senedd, yn ogystal â'r cyfarfod a gafodd Eluned Morgan â phobl leol, a gwnaeth Leanne y pwynt hefyd. Mae'r cymorth hwn wedi cynnwys angenrheidiau sylfaenol a rhoddion o Gymru, yn ogystal â sgyrsiau anffurfiol, clybiau, mentora, ac mae TUC Cymru wedi cymryd rhan yn hyn. Rydym yn llwyr gefnogi hawl y gymuned leol i godi pryderon am y ffordd y gweithredwyd y safle hwn. A hoffwn ddiolch mewn gwirionedd i'r trigolion lleol sydd wedi cyflwyno gohebiaeth i ni, i gynrychiolwyr lleol, a chwestiynau hefyd i'r Swyddfa Gartref a sefydliadau eraill. Rhaid i fynegi barn am y safle fod yn heddychlon mewn ffordd nad yw'n ail-achosi trawma i unrhyw un sy'n ceisio'r drefn briodol yn y DU. Mae gan bawb hawl i wneud cais am loches, a dylem amddiffyn a pharchu'r unigolion hynny tra bo'u cais yn cael ei glywed. Honnodd y Swyddfa Gartref fod angen agor Penalun oherwydd pwysau ar y system lloches, ond mae'r ateb cywir i'r broblem hon yn glir: mae angen cyflymu'r broses o geisio lloches, ac mae hyn yn arbennig o wir i'r rhai sy'n byw mewn llety anaddas fel hwn.
Ond yn olaf, Lywydd, i gefnogi cynnig yr Aelodau heddiw, wrth inni alw am gau gwersyll Penalun—ac mae hyn yn ymateb i'r pwynt a wnaeth Angela Burns—mae angen inni alw ar Lywodraeth y DU i gyflwyno cynllun i atal pob trosglwyddiad pellach i'r gwersyll a chartrefu defnyddwyr y gwasanaeth mewn lleoliadau priodol i ddiwallu eu hanghenion, parchu eu hurddas ac ymrwymo i ddatblygu eu ceisiadau am loches fel mater o frys. Diolch i'r heddlu, yr awdurdodau lleol, y GIG, y trydydd sector, y cymunedau ffydd—ein holl bartneriaid—am eu hyblygrwydd a'u dyfeisgarwch dros y misoedd diwethaf. Mae'r ymatal a'r gefnogaeth a ddangoswyd gan Heddlu Dyfed-Powys, Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda, Cyngor Sir Penfro—maent oll yn camu ymlaen i geisio mynd i'r afael â'r angen hwn. Ond byddwn yn gweithio gyda Llywodraeth y DU a phawb sy'n gyfrifol am ffoaduriaid a cheiswyr lloches i ddatblygu hyn—y cynllun hwn y mae arnom ei angen nawr—o fewn ein pwerau, i gau'r gwersyll hwn, ac i gartrefu holl ddefnyddwyr y gwasanaeth mewn lleoliadau priodol. Credaf y bydd hyn yn adlewyrchu ewyllys y Llywodraeth hon a'r Senedd hon heddiw.