6. Dadl Aelodau o dan Reol Sefydlog 11.21(iv): Cartrefu ceiswyr lloches yng ngwersyll milwrol Penalun

Part of the debate – Senedd Cymru am 4:03 pm ar 18 Tachwedd 2020.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Mick Antoniw Mick Antoniw Labour 4:03, 18 Tachwedd 2020

(Cyfieithwyd)

O'r gorau. Diolch, Ddirprwy Lywydd; roeddwn yn aros i glywed gennych.

Byddaf yn canolbwyntio ar y ffoaduriaid eu hunain fel bodau dynol sydd bellach yn destun ymosodiad, bygythiadau ac erledigaeth gan yr asgell dde eithafol, a hynny'n anffodus wedi'i annog gan Aelod o'r Senedd hon, Neil Hamilton, sydd, yn fy marn i, yn dwyn sen ar y Senedd hon. Nid yw'n syndod i ni fod yr Aelod wedi bod yn frwd ei gefnogaeth i'r asgell dde eithafol, fel y mae wedi bod drwy gydol ei yrfa wleidyddol annymunol fel diffynnydd yn y gorffennol dros Dde Affrica hiliol, dros y gyfundrefn ffasgaidd yn Chile, a thros wahanol fudiadau asgell dde eithafol a llwgr ym mhob cwr o'r byd. Fel y dywedodd un preswylydd ym Mhenalun, mae'r brotest bellach wedi'i meddiannu gan bobl hiliol yr asgell dde eithafol o'r tu allan, a gwyddom pwy yw eu cefnogwr mwyaf brwd.

Cytunaf yn llwyr â datganiadau Angela Burns a Leanne Wood. Gofynnodd Leanne i ni ddychmygu'r dewisiadau a wynebir gan y ffoaduriaid hyn, a gallaf eu dychmygu am mai dyma'r cefndir y cefais fy magu ynddo. Roedd fy nhad yn ffoadur o Ukrain ar ôl y rhyfel. Dywedai ei fod wedi dod yma oherwydd Hitler, ond na allai fynd yn ôl oherwydd Stalin. Cefais fy magu mewn cymuned o bobl a oedd wedi bod drwy ormes, artaith a charchariadau. Cofiaf un dyn a gafodd ei gymryd, yn fachgen 15 oed, yn weithiwr llafur caeth gan yr Almaenwyr. Ni allai siarad am ei brofiad heb grio. Roedd un arall wedi bod yn gwlag Stalin. Cafodd fy nhad ei hun pan ddaeth i'r wlad hon ei roi mewn gwersyll ailsefydlu yn Dundee. Roedd rhieni dau o fy ffrindiau agos pan oeddwn yn tyfu fyny wedi dod o wersyll crynhoi Sachsenhausen. A'r cyfan rwyf am ei ofyn mewn gwirionedd yw hyn: sut y mae'r bobl y cefais fy magu gyda hwy'n wahanol mewn unrhyw fodd i'r bobl sydd ym Mhenalun nawr? Nid ydynt yn wahanol o gwbl.

Roedd fy nhad a'r gymuned y cefais fy magu ynddi bob un ohonynt yn siarad mor gynnes am y croeso a gawsant gan bobl Prydain pan ddaethant yma, a dysgodd un wers i mi mewn gwirionedd, un wers sy'n treiddio o fy mhrofiad i'r hyn sy'n digwydd nawr, sef mai ein brodyr a'n chwiorydd yw'r ffoaduriaid hyn, maent yn union yr un fath â ni, mae ganddynt yr un hawliau. Rwy'n gwrthod yn llwyr y sylwadau a wnaeth Neil Hamilton. Un neges sydd gennyf: rydym i gyd yn frodyr a chwiorydd gyda'n gilydd ac mae croeso i chi i gyd yma yng Nghymru, yn union fel y cafodd llawer o ffoaduriaid groeso drwy gydol hanes Cymru. Rydym yn eich croesawu yma a byddwn yn gwneud popeth yn ein gallu i'ch cefnogi ac i ofalu amdanoch ac i sefyll gyda chi. Diolch, Ddirprwy Lywydd.